Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 27 Mawrth 2019.
Wel, yn amlwg, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb mewn perthynas â sbwriel, nid yn unig ar ein traethau ac yn ein moroedd, ond ar ein tir hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun a'r strategaeth ar gyfer sbwriel morol a gawsom yn ôl yn 2016, rwy'n credu, ac yn amlwg, rydym yn gwneud cynnydd. Credaf hefyd fod y gwaith a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, mewn perthynas â lleihau deunydd pacio yn bwysig iawn hefyd.