Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch. Rwy'n sylweddoli bod rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Rwy'n cefnogi nifer o fentrau y mae ein partneriaid yn rhan ohonynt a gynlluniwyd i leihau effaith y rhywogaethau hyn a'u rheoli neu eu dileu.