Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch. Rwy'n ymwybodol—rydym wedi cael llawer iawn o ohebiaeth, ac yn y Siambr hon hefyd, ynghylch y mater hwn. Mae sefydlu'r llysleuen wedi bod yn anodd oherwydd pwysau gaeafu yn ogystal ag ysglyfaethu. Rydym wedi cael saith mlynedd o dreialon, ac ni cheir unrhyw dystiolaeth amlwg i awgrymu effaith negyddol ar glymog Japan. Felly, mae'r treialon wedi'u hatal dros dro yng Nghymru wrth i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol gynnal ymchwiliadau pellach ar sefydlu.
O ran defnyddio plaladdwyr, mae ymchwilwyr wedi dod i'r casgliad mai glyffosad yw'r unig chwynladdwr systemig sy'n llwyddiannus ar gyfer trin clymog ar hyn o bryd, ac unwaith eto, dywed yr ymchwilwyr nad oes modd ei ddileu yn y tymor byr, ond gellir ei reoli os ydych yn defnyddio'r symiau gofynnol am dair blynedd, fel y nodir yn eu hymchwil.