Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 27 Mawrth 2019.
Felly, gan gysylltu'n gryf â'r pwynt a wnaethoch ynghylch gormod o blant mewn gofal, rydym yn cytuno â hynny, ac rydym yn ceisio ac yn mynd i gael ymdrech gydunol i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal. Rwy'n falch fod yna ddiddordeb sylweddol yn y maes pwysig hwn, oherwydd os cawn ein craffu, mae'n cadw ein ffocws ar geisio cyflawni rhywbeth mewn gwirionedd. Gall wella ansawdd ac ysgogi camau gweithredu. Er enghraifft, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael profiad o ofal. Ac mae rhan gyntaf yr ymchwiliad hwnnw wedi'i gwblhau ac rydym yn bwrw ymlaen â nifer o argymhellion o ganlyniad i hynny. Er enghraifft, rydym wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu dull cenedlaethol o gomisiynu lleoliadau, a bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a wneir eisoes gan y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol, y fframwaith maethu cenedlaethol a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant.
Rydym yn arbennig o awyddus i hyrwyddo dulliau rhanbarthol o ddarparu gwasanaethau arbenigol, megis gofal preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i fyw mewn llety diogel. Rydym am ddad-ddwysáu'r gwasanaethau a cheisio gwneud yn siŵr fod gennym ddarpariaeth ranbarthol i blant fynd iddi fel nad oes yn rhaid iddynt deithio milltiroedd i ffwrdd o'u cartref, oherwydd credwn ei bod hi'n bwysig iawn fod plant yn cael eu gosod mor agos â phosibl at eu teuluoedd, sydd, yn amlwg, yn hollbwysig iddynt. Yn dilyn ein buddsoddiad newydd o £15 miliwn yn y gronfa gofal integredig i gefnogi gwasanaethau atal a gwasanaethau ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sy'n cael profiad o ofal, mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu cynigion ar gyfer dulliau arloesol newydd o gynyddu capasiti ein llety preswyl a hyrwyddo modelau newydd o gymorth.
Ac wrth gwrs, mae gennym grŵp cynghori'r Gweinidog ar blant, a gadeirir yn ardderchog gan ein cyd-Aelod, David Melding, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed am y gwaith y mae'r grŵp hwnnw'n ei wneud. Mae ganddynt dri maes blaenoriaeth allweddol, ac maent yr un fath â'r hyn sy'n flaenoriaethau i mi bellach: lleihau yn ddiogel nifer y plant sydd angen gofal; cael dewisiadau lleoli o ansawdd digon uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu sy'n gadael gofal—felly, rydym am wneud yn siŵr fod lleoliadau addas ar gael ar gyfer plant sy'n rhaid eu gosod mewn lleoliadau gofal; a chynorthwyo plant sy'n derbyn gofal i gael y daith orau sy'n bosibl drwy ofal a dod yn oedolion. Rydym wedi buddsoddi i gefnogi plant sy'n cael profiad o ofal i gadw teuluoedd gyda'u teuluoedd geni lle bo hynny'n bosibl, ac mae hyn yn cynnwys—rydym wedi sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi, ac yn ei flwyddyn gyntaf yn unig, mae dros 1,900 o blant sy'n cael profiad o ofal ledled Cymru wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym wedi datblygu gwasanaethau ar ffiniau gofal ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol, ac rydym wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol, drwy weithio gyda mwy na 2,000 o deuluoedd y llynedd. Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth Reflect ledled Cymru, a hyd yma, eleni, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 160 o rieni ifanc sydd wedi cael o leiaf un plentyn wedi'i leoli yn y system ofal, gyda'r nod o geisio peidio â gadael i hynny ddigwydd eto. A bydd y £15 miliwn o gyllid gofal integredig y soniwyd amdano'n flaenorol yn cael ei ddefnyddio hefyd i gefnogi'r gwaith o atal ac ymyrraeth gynnar a amlygir yn y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant. A thestun trafod rheolaidd yng ngrŵp cynghori'r Gweinidog yw gwella mynediad at, ac argaeledd cymorth therapiwtig ar gyfer plant sy'n cael profiad o ofal.
Roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy ngwahodd i siarad yn nigwyddiad lansio adroddiad ar y cyd a gynhyrchwyd gan yr NSPCC a Voices from Care am les emosiynol a meddyliol plant sy'n derbyn gofal, a gwn fod argymhellion pwysig iawn yn cael eu gwneud yn yr adroddiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed eu cyngor ar y camau gweithredu sydd eu hangen.
Felly, i gloi, hoffwn bwysleisio bod llawer o waith da yn digwydd ledled Cymru. Rhaid inni gael ein craffu, felly rwy'n croesawu'r gwaith craffu hwnnw, ond credaf fod rhaid inni gydnabod bod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ymrwymedig ac yn gweithio'n galed iawn er lles y plant. Rydym yn genedl fach, gryno, sy'n ei gwneud yn gymharol hawdd inni ddysgu oddi wrth ein gilydd, felly mae'n bwysig iawn fod yr arferion da yn gallu lledu o amgylch Cymru. Rydym ni yma yn y Siambr hon yn rhieni corfforaethol i blant a phobl ifanc sy'n cael profiad o ofal; rydym yn gyfrifol amdanynt ledled Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno mai nod Llywodraeth Cymru yw gwneud ein gorau glas i ofalu am blant sydd yn y sefyllfaoedd anodd hyn. Rydym am leihau nifer y plant sydd mewn gofal, ac rydym am wneud ein gorau glas fel Llywodraeth i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau posibl mewn bywyd. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.