Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch. Nawr, yn 2017, cynhaliodd Mark Drakeford AC ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol mewn llywodraeth leol, ac roedd adran 6 yn gofyn a ddylai unrhyw aelod o staff cyngor o dan y lefel uwch allu sefyll i gael eu hethol i'w hawdurdod eu hunain, ac roedd 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent. Felly, o gofio bod y cyn-Weinidog llywodraeth leol, Mark Drakeford, wedi cychwyn pethau yn hyn o beth, ac o fy sgyrsiau gydag ef, roedd yn eithaf cefnogol i hyn mewn gwirionedd, pa drafodaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar ynglŷn â chyflwyno rhyw fath o ddeddfwriaeth gadarnhaol fel nad yw pobl o bob cefndir, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r rolau amrywiol sydd ganddynt, yn cael eu hatal rhag sefyll i gael eu hethol i awdurdodau lleol?