Tai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:21, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r ddwy ohonom yn cytuno bod angen llawer mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru, ond nid y cartrefi newydd yn unig sy'n bwysig; mae a wnelo â'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n amgylchynu'r cymunedau rydym yn eu creu, ac mae cyni yn peri problemau difrifol i awdurdodau lleol rhag gallu gwneud hynny—gymaint felly fel bod llawer o gyfleusterau newydd fel meysydd chwarae yn cael eu hadeiladu drwy gytundebau adran 106 yn unig. Y penwythnos hwn, rydym wedi gweld gwendidau dull gweithredu o'r fath, gyda'r newyddion fod datblygiad tai yn ne Llundain wedi atal plant o adran tai cymdeithasol y datblygiad rhag defnyddio'r maes chwarae a ddarparwyd drwy adeiladu gwrych na ellir ei groesi. Wrth wadu cyfrifoldeb, mae'r awdurdod lleol wedi dweud nad oes unrhyw beth o'i le ar y man llawer llai o faint, gan ei fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer meysydd chwarae. Dywedodd y datblygwr nad yw tenantiaid tai cymdeithasol yn talu costau cynhaliaeth ac felly na ddylai eu plant ddefnyddio'r maes chwarae mwy o faint. Sut y gwnaethom ganiatáu i'n sgwrs wleidyddol ynghylch tai cymdeithasol ddisgyn i lefel mor druenus? A wnewch chi ymchwilio i weld a oes pethau tebyg yn digwydd yng Nghymru?