2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Mawrth 2019.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu'r angen am dai cymdeithasol? OAQ53666
Diolch am y cwestiwn. Mae cyflenwad cynyddol o dai rhent cymdeithasol yn hanfodol. Byddwn yn cyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a bydd y mwyafrif o'r cartrefi hyn yn dai cymdeithasol i'w rhentu. Byddaf yn mynd gam ymhellach ac yn cefnogi cynghorau i fanteisio ar yr amodau newydd i adeiladu tai cyngor newydd ar raddfa fawr ac yn gyflym.
Weinidog, mae'r ddwy ohonom yn cytuno bod angen llawer mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru, ond nid y cartrefi newydd yn unig sy'n bwysig; mae a wnelo â'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n amgylchynu'r cymunedau rydym yn eu creu, ac mae cyni yn peri problemau difrifol i awdurdodau lleol rhag gallu gwneud hynny—gymaint felly fel bod llawer o gyfleusterau newydd fel meysydd chwarae yn cael eu hadeiladu drwy gytundebau adran 106 yn unig. Y penwythnos hwn, rydym wedi gweld gwendidau dull gweithredu o'r fath, gyda'r newyddion fod datblygiad tai yn ne Llundain wedi atal plant o adran tai cymdeithasol y datblygiad rhag defnyddio'r maes chwarae a ddarparwyd drwy adeiladu gwrych na ellir ei groesi. Wrth wadu cyfrifoldeb, mae'r awdurdod lleol wedi dweud nad oes unrhyw beth o'i le ar y man llawer llai o faint, gan ei fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer meysydd chwarae. Dywedodd y datblygwr nad yw tenantiaid tai cymdeithasol yn talu costau cynhaliaeth ac felly na ddylai eu plant ddefnyddio'r maes chwarae mwy o faint. Sut y gwnaethom ganiatáu i'n sgwrs wleidyddol ynghylch tai cymdeithasol ddisgyn i lefel mor druenus? A wnewch chi ymchwilio i weld a oes pethau tebyg yn digwydd yng Nghymru?
Rwy'n rhannu dicter yr Aelod ynghylch ymddygiad o'r fath yn llwyr. Rwy'n hyderus nad yw'r fath beth yn digwydd yng Nghymru, ond fe atgyfnerthaf ein hymdrechion i sicrhau nad yw'n digwydd. Yn ddiweddar, rydym wedi newid 'Polisi Cynllunio Cymru' i ailbwysleisio'r angen i greu lleoedd, cymunedau, cymunedau cynaliadwy, ar gyfer dinasyddion Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys set gynaliadwy o dai a'r cyfleusterau â ddaw gyda hynny. Felly, rydym yn gobeithio gweithio gydag awdurdodau lleol, gan fod Llywodraeth y DU wedi gweld synnwyr ac wedi cael gwared ar y cap oddi ar y cyfrif refeniw tai. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ystyried sut y gallant ddefnyddio eu pwerau newydd i'r eithaf er mwyn sicrhau eu bod yn adeiladu ar gyfer cymunedau cynaliadwy'r dyfodol, ar y cyd â'n cwmnïau adeiladu bach a chanolig, ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n llunwyr lleoedd yn gyffredinol yn ein cymdeithas.
Weinidog, rwy'n eich cymeradwyo am siarad am gymunedau cynaliadwy yn hytrach na thai cynaliadwy a thai fforddiadwy yn unig. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Leanne Wood, a defnyddiodd enghraifft dda fod angen inni sicrhau, oes, fod angen tai cymdeithasol newydd arnom, tai fforddiadwy newydd, ond mae angen cynaliadwyedd mewn perthynas â hynny. Gyda hynny mewn golwg, ceir pwysau mawr ar awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig awdurdodau gwledig, i roi caniatâd ar gyfer ardaloedd sy'n aml y tu allan i gwmpas y cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd, ardaloedd nad ydynt yn cael eu cynnal yn iawn naill ai gan wasanaethau na chysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy. Felly, beth rydych yn ei wneud fel Gweinidog i sicrhau, pan ystyrir ceisiadau gan awdurdodau lleol, nad ydynt yn cael eu derbyn oni bai eu bod yn bodloni meini prawf deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac yn darparu'r cynaliadwyedd go iawn hwnnw, yr ysbryd cymunedol go iawn hwnnw y mae angen inni ei gynhyrchu mewn pentrefi a threfi ledled Cymru?
Ie. Ailgyhoeddwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gan fy rhagflaenydd yn y portffolio cynllunio, Lesley Griffiths, tuag at ddiwedd y llynedd, ac mae'r ddogfen honno wedi'i hailysgrifennu drwyddi draw—nid diweddariad yn unig mohoni. Mae'r ddogfen honno'n gwneud ymdrech arbennig i bwysleisio pwysigrwydd adeiladu cymunedol, creu lleoedd, yn y system gynllunio ac yng nghynllun datblygu lleol unrhyw awdurdod lleol. Dylai fod gan awdurdodau lleol gynllun datblygu lleol ar waith sy'n gadarn, sy'n nodi eu hanghenion tai, a dylent allu glynu at hynny yn eu pwyllgorau, er mwyn sicrhau, os gwneir cynigion datblygu hapfasnachol y tu allan i'r CDLl, y gallant wrthsefyll hynny'n gadarn. Nid oes gennym set gyflawn o gynlluniau datblygu lleol ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn annog awdurdodau lleol naill ai i sicrhau bod ganddynt gynllun datblygu lleol ar waith pan nad oes un ganddynt, neu i'w hadolygu a'u diweddaru pan fo un ar waith ganddynt ond nad yw'n gwbl gyfoes, i'r diben a nodwyd gan Nick Ramsay, fel y gallant fod yn gadarn wrth amddiffyn penderfyniadau i beidio â chaniatáu datblygu hapfasnachol y tu allan i broses y CDLl.