Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:45, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb y cwestiwn—a chytunaf yn llwyr—rwy'n cytuno y dylid cael lluosydd. Fel arfer, mae'r ffigur yn 20 rhwng y cyflogau isaf a'r cyflogau uchaf mewn unrhyw sefydliad. Bydd cyngor partneriaeth y gweithlu, a fydd yn cael ei gadeirio ar ei newydd wedd yn ddiweddarach eleni gan y Dirprwy Weinidog, yn ystyried cyflogau ac amodau staff ar draws y sector cyhoeddus, ac nid oes amheuaeth y bydd gan gyngor partneriaeth y gweithlu rywbeth i'w ddweud am y lluosyddion a ddylai fod ar waith.