Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Mawrth 2019.
[Anghlywadwy.]—realiti economaidd cyni, a ddisgrifiwyd gennych yn rhan gyntaf eich ateb, ond gall fod yn wir y gall tâl gormodol ar ben uchaf sefydliad olygu nad yw pobl ar y lefelau is yn cael digon o dâl. A gwyddom, o ymchwiliad a gynhaliwyd gan BBC Wales yn 2017, fod y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn talu cyflog sy'n llai na'r cyflog byw go iawn i rai o'u staff. Onid ydych yn credu, Weinidog, ei bod yn bryd ichi edrych ar gyflogau haen uchaf awdurdodau lleol yng Nghymru i weld a allwn sicrhau bod y cynghorau hyn yn talu llai i'w gweithwyr blonegog a mwy i'r gweithwyr ar waelod eu graddfeydd cyflog?