Y Pwysau Ariannu mewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:55, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, dywedodd arweinydd cyngor Caerffili yn ddiweddar fod yr awdurdod ar ben ei dennyn ar ôl cael toriad i'w gyllid mewn termau real. O ganlyniad, mae trigolion Caerffili wedi gweld cynnydd o bron i 7 y cant yn eu biliau treth gyngor, ynghyd â thoriad o £14 miliwn i wasanaethau'r cyngor. Mae'r toriadau hyn i'r gwasanaethau yn cynnwys canolfan hamdden Pontllan-fraith, a allai gau erbyn diwedd mis Mehefin eleni, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan y gymuned leol. Dyna'r ardal lle mae [Anghlywadwy.] Neil Kinnock yn dal yno. A yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd ei setliad llywodraeth leol gwael yn cael effaith ddifrifol ac andwyol ar strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd, addysg a lles pobl sy'n byw yng Nghaerffili, os gwelwch yn dda?