Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:41, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, codais fater y swm mawr o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu mewn perthynas â saga hirhoedlog swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yr ymateb a gefais gan y Prif Weinidog oedd mai mater i'r cyngor ei hun yw hwn yn bennaf, sef yr ymateb a gawn yn aml pan fyddwn yn codi materion llywodraeth leol yma yn y Siambr, er bod goruchwylio llywodraeth leol yng Nghymru yn amlwg yn rhan o'ch cylch gwaith, Weinidog, a dyna pam fod pob un ohonom yma yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog llywodraeth leol heddiw.

Nawr, ers imi dynnu sylw'r Prif Weinidog at y mater hwn, mae wedi dod i'r amlwg nad £4 miliwn, sef y ffigur a ddyfynnais, yw'r ffigur a wastraffwyd ar saga Caerffili. Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod y ffigur mewn gwirionedd yn fwy na £6 miliwn. Ac eto, mae prif weithredwr y cyngor yn dal i ennill £130,000 y flwyddyn am wneud dim, sef yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud dros y chwe blynedd diwethaf. Weinidog, a oes gennych unrhyw amcangyfrif cywir bellach pa bryd y caiff y saga druenus hon ei datrys?