Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 27 Mawrth 2019.
Deallaf o fy nghyfarfod diweddar gydag arweinydd a phrif weithredwr Caerffili eu bod yn disgwyl i'r unigolyn annibynnol dynodedig gyflwyno eu hadroddiad rywbryd ym mis Ebrill. Felly, gallaf drosglwyddo mai dyna maent yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le: mater i'r cyngor yn llwyr yw materion cyflogaeth, ac nid ydym mewn sefyllfa i roi unrhyw fewnbwn yn hynny o beth.