8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:20, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynnig yn nodi bod talwyr y dreth gyngor yng Nghymru ar hyn o bryd yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr neu'r Alban. Mae hefyd yn gresynu bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, a bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi codi ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.

Yn 1998, roedd yn rhaid i dalwyr band D y dreth gyngor dalu £495 ar gyfartaledd. Mae wedi codi i £1,591 yn 2019. Mewn geiriau eraill, cododd y dreth gyngor yng Nghymru 221 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, ers i Lywodraeth Lafur y DU gymryd rheolaeth ar Gymru yn 1997, naid sy'n fwy o lawer nag yn Lloegr, sydd wedi gweld cynnydd o 153 y cant, ac yn yr Alban, sydd wedi codi 57 y cant. Ac er bod Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth yr Alban wedi galluogi'r dreth gyngor i gael ei rhewi yn y blynyddoedd hyd at 2017, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwario'r £94 miliwn o symiau canlyniadol a dderbyniodd ar gyfer helpu talwyr y dreth gyngor sydd dan bwysau mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hyn drwy ddatgan bod lefelau band D cyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru yn dal yn is nag yn Lloegr, gan osgoi'r gwirionedd mai talwyr y dreth gyngor yng Nghymru sy'n gwario'r gyfran fwyaf o'u cyflogau ar y dreth gyngor ym Mhrydain, mai hwy sy'n wynebu'r codiadau mwyaf, a bod hon yn gymhariaeth ffug am ei bod hi'n dechrau o linell sylfaen hanesyddol pan oedd lefelau'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru, drwy ddiffiniad, yn sylweddol is na'r rhai yn Lloegr.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr ers amser hir, gan hawlio bod cynghorau'n waeth eu byd. Fodd bynnag, wrth i bolisi cyllido llywodraeth leol amrywio'n sylweddol ers datganoli, gan gynnwys cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion a chadw ardrethi busnes yn Lloegr, mae'n gwbl amhosibl gwneud y gymhariaeth hon. Eu safbwynt diofyn bob amser yw beio Llywodraeth y DU am bopeth ac anghofio'n gyfleus fod y cyllid gwaelodol a gytunwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach yn elwa o'r sicrwydd na fydd yr arian y mae'n ei dderbyn ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn islaw 115 y cant o ffigur y pen yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 y pen a warir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, rhoddir £1.20 i Gymru. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gyson wedi ymrwymo i gytundebau gwael, er enghraifft, gyda Kancoat a Cylchffordd Cymru, sydd wedi costio miliynau i drethdalwyr Cymru. Llywodraeth Cymru a ddylai ateb am eu penderfyniadau ariannu gwarthus.

Yn ddiddorol hefyd, dywedodd y Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr—prif hyrwyddwyr Jeremy Corbyn—fis Hydref diwethaf nad oedd unrhyw gyngor dan arweiniad Llafur yn meddu ar gyn lleied o arian wrth gefn fel na ellid ei ddefnyddio i gynhyrchu adnoddau ar gyfer cyllideb heb unrhyw doriadau yn 2019-20.

Rwy'n dyfynnu; os ydych yn cwestiynu hynny, efallai y carech siarad â'ch cydweithwyr neu eich cymrodyr.

Mae awdurdodau lleol yn eistedd ar £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ac mae angen gwneud eu cynrychiolwyr etholedig yn atebol a dweud sut y caiff ei wario. Nid yw'n fater o fod ganddynt ddigon o adnoddau i dalu am brosiectau mawr, ond bod rhai cynghorau yn cynyddu eu lefelau o gronfeydd wrth gefn tra'n disgwyl i dalwyr y dreth gyngor dalu codiadau yn y dreth gyngor sy'n llawer uwch na chwyddiant.

Fel y manylais, cynghorau de Cymru sy'n cael eu rhedeg gan Lafur Cymru yw'r enillwyr go iawn yn sgil y setliad llywodraeth leol terfynol. Rhybuddiodd pennaeth cyllid Cyngor Sir Ynys Môn os na fyddai'r cyngor yn rhoi mwy o arian parod i mewn yn y cronfeydd wrth gefn, gallai'r awdurdod fynd yr un ffordd â Swydd Northampton, na lwyddodd i fantoli eu cyfrifon ac i bob pwrpas aeth yn fethdalwr y llynedd.

Mae un arall o'r rhai a gollodd fwyaf, Cyngor Sir y Fflint dan arweiniad Llafur, wedi gosod cynnydd o 8.1 y cant ar y dreth gyngor, gan fynd â chyfanswm y cynnydd, gan gynnwys preseptiau'r heddlu, yr awdurdod tân ac achub a chynghorau cymuned i 8.75 y cant. Lansiwyd ymgyrch ganddynt fis Tachwedd diwethaf, #BackTheAsk, a dynnodd sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynghylch y cyllid a gânt gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gofynnai'r ymgyrch yn benodol am gyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai Sir y Fflint yw un o'r cynghorau sy'n cael y lleiaf o arian y pen o'r boblogaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol gan yr holl bleidiau ar y cyngor.

Ym mis Rhagfyr, cyn pasio'r gyllideb derfynol, ac ar ôl y cyhoeddiad ynghylch arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roedd Sir y Fflint yn amcangyfrif eu bod yn dal i wynebu bwlch cyllido o £3.2 miliwn, gan ddweud ei bod yn afresymol fod cynghorau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, ac yn dilyn hynny, teithiodd grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr Sir y Fflint yma i lobïo am ariannu tecach y mis diwethaf. Hyd yn oed yn Sir y Fflint, fodd bynnag, roedd aelodau'r wrthblaid wedi cynnig cyllideb amgen gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ychwanegol i sicrhau nad oedd codiadau yn y dreth gyngor o fwy na 5.5 y cant, gan ddadlau bod arweinyddiaeth Lafur wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i wneud pwynt ynglŷn â thanariannu awdurdodau lleol.

O ystyried popeth a nodais, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru. Mewn llythyr at y Prif Weinidog, ymunodd Cyngor Sir Powys â galwadau am fformiwla ariannu decach, gan ddweud,

Mae'n bryd cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r fformiwla ariannu a bod awdurdodau gwledig fel Powys yn cael bargen deg. Nid ydym yn gofyn am driniaeth arbennig, dim ond chwarae teg... Mae'r amgylchedd ariannol a chymdeithasol sy'n wynebu llywodraeth leol wedi newid yn helaeth ers cyflwyno'r fformiwla ariannu. Mae'n bryd newid y fformiwla honno i adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo heddiw.

Roedd gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn yn gofyn inni gydnabod bod y fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu'n flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud o'r blaen, dylanwad cyfyngedig sydd gan eu his-grŵp dosbarthu cyllid ar y fformiwla, a dywedodd yn 2016 fod 'yr is-grŵp dosbarthu yn cynhyrchu adroddiad. Fel arfer mae'n adroddiad ar beth y mae'r grŵp wedi ymdrin ag ef yn ei raglen waith. Fel arfer mae'n rhan fach o'r fformiwla. Nid yw'r is-grŵp dosbarthu ond yn ymdrin ag ychydig o addasiadau bach a newidiadau bob blwyddyn. Yn y pen draw, fe wnaethom ni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gytuno i hynny fel cymdeithas. Nid yw'n gytundeb fod y fformiwla gyfan yn iawn; nid yw ond yn gytundeb ein bod wedi cyflawni rhaglen waith yr is-grŵp.'

Er bod adroddiad y comisiwn annibynnol ar gyllid llywodraeth leol yn 2016 wedi argymell y dylid rhewi fformiwla presennol y grant cynnal refeniw a sefydlu comisiwn grantiau annibynnol i oruchwylio datblygiad a gweithrediad fformiwla newydd ar gyfer dosbarthu grantiau yn y dyfodol, nid yw hyn wedi digwydd. Nid yw adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid llywodraeth leol ond yn sôn am ddatblygu fformiwla'r setliad, yn hytrach nag adolygiad llawn, gan ddweud bod y fformiwla yn fwy cymhleth ers ei sefydlu, a bod mantais mewn ystyried y posibilrwydd o symleiddio a newidiadau i wella tryloywder a gweithrediad. Fel y dangosais, fodd bynnag, mae'r angen i weithredu ar frys yn mynd lawer ymhellach na'r geiriau gweigion hyn sydd wedi'u saernïo'n ofalus, ac yn hytrach na chuddio tu ôl i lywodraeth leol, byddai Llywodraeth Cymru gyfrifol yn arwain ar hyn.