– Senedd Cymru ar 27 Mawrth 2019.
Eitem 8 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7018 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.
4. Yn gresynu bod
a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a
b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
Diolch. Mae ein cynnig heddiw yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau ariannu a wynebir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol Cymru.
O'u fformiwla ariannu llywodraeth leol ddiffygiol i'w diwygiadau llywodraeth leol carbwl, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gadael cynghorau i orfod mantoli'r cyfrifon o dan bwysau cyson. Mae naw o 22 awdurdod lleol Cymru yn cael mwy o arian o dan setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Fodd bynnag, ac eithrio Sir Ddinbych, sy'n cael yr un faint o arian o dan y setliad, mae holl gynghorau gogledd Cymru yn cael toriad, gyda'r toriadau mwyaf yn Sir y Fflint, Conwy ac Ynys Môn, ochr yn ochr â Sir Fynwy a Phowys.
O'r herwydd, mae cynghorau gwledig a chynghorau gogledd Cymru ar eu colled, a chynghorau dan arweiniad Llafur yn ne Cymru, megis Caerdydd, gyda chyfanswm eu cronfeydd defnyddiadwy ym mis Ebrill 2018 yn £109.6 miliwn, a Merthyr Tudful yw'r enillwyr mwyaf eleni, gyda chodiadau o 0.9 y cant a 0.8 y cant yn y drefn honno. Mae hyn yn gadael y cartref cyfartalog yng Nghymru i wynebu bil treth gyngor o £1,591, bron £100 yn uwch nag yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Dau yn unig o'r 22 awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, sydd heb dorri drwy'r cap cynnydd anffurfiol o 5 y cant ar godiadau treth gyngor a bennir gan Lywodraeth Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ond hwy sy'n cael rhai o'r setliadau ariannol mwyaf hael. Ie, Joyce.
Diolch ichi am gymryd yr ymyriad, ond hoffwn nodi eich bod yn gwybod yn iawn nad Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla hon, ond ei bod hi'n fformiwla y cytunwyd arni gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn cywiro'r camargraff hwnnw cyn inni fynd ymhellach.
Byddaf yn mynd i'r afael â hynny yng ngweddill fy araith.
Gyda chronfeydd wrth gefn o £152.1 miliwn, mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn derbyn cynnydd o 0.8 y cant; mae Casnewydd, gyda chronfeydd wrth gefn o £102.3 miliwn, yn cael cynnydd o 0.6 y cant; Abertawe, gyda chronfeydd wrth gefn o £95.1 miliwn, cynnydd o 0.5 y cant. Fodd bynnag, mae'r cynghorau gyda'r toriadau mwyaf o -0.3 y cant yn cynnwys Sir y Fflint, gyda chronfeydd wrth gefn o £49.4 miliwn, Conwy gyda £22.7 miliwn yn unig, ac Ynys Môn gyda £24.1 miliwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym bod ei fformiwla ariannu llywodraeth leol yn cael ei dylanwadu'n drwm gan ddangosyddion amddifadedd. Fodd bynnag, mae Ynys Môn a Chonwy ymhlith pump o awdurdodau lleol Cymru lle telir llai na'r cyflog byw gwirfoddol i 30 y cant neu fwy o weithwyr, a lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru ar ychydig o dan hanner lefelau Caerdydd, ac eto mae talwyr y dreth gyngor yn Ynys Môn a Chonwy yn wynebu cynnydd o 9.1 y cant, o'i gymharu â 5.8 y cant yn unig yng Nghaerdydd a 4.5 y cant yn Rhondda Cynon Taf.
Mae ein cynnig yn nodi bod talwyr y dreth gyngor yng Nghymru ar hyn o bryd yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr neu'r Alban. Mae hefyd yn gresynu bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, a bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi codi ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
Yn 1998, roedd yn rhaid i dalwyr band D y dreth gyngor dalu £495 ar gyfartaledd. Mae wedi codi i £1,591 yn 2019. Mewn geiriau eraill, cododd y dreth gyngor yng Nghymru 221 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, ers i Lywodraeth Lafur y DU gymryd rheolaeth ar Gymru yn 1997, naid sy'n fwy o lawer nag yn Lloegr, sydd wedi gweld cynnydd o 153 y cant, ac yn yr Alban, sydd wedi codi 57 y cant. Ac er bod Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth yr Alban wedi galluogi'r dreth gyngor i gael ei rhewi yn y blynyddoedd hyd at 2017, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwario'r £94 miliwn o symiau canlyniadol a dderbyniodd ar gyfer helpu talwyr y dreth gyngor sydd dan bwysau mewn mannau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hyn drwy ddatgan bod lefelau band D cyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru yn dal yn is nag yn Lloegr, gan osgoi'r gwirionedd mai talwyr y dreth gyngor yng Nghymru sy'n gwario'r gyfran fwyaf o'u cyflogau ar y dreth gyngor ym Mhrydain, mai hwy sy'n wynebu'r codiadau mwyaf, a bod hon yn gymhariaeth ffug am ei bod hi'n dechrau o linell sylfaen hanesyddol pan oedd lefelau'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru, drwy ddiffiniad, yn sylweddol is na'r rhai yn Lloegr.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr ers amser hir, gan hawlio bod cynghorau'n waeth eu byd. Fodd bynnag, wrth i bolisi cyllido llywodraeth leol amrywio'n sylweddol ers datganoli, gan gynnwys cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion a chadw ardrethi busnes yn Lloegr, mae'n gwbl amhosibl gwneud y gymhariaeth hon. Eu safbwynt diofyn bob amser yw beio Llywodraeth y DU am bopeth ac anghofio'n gyfleus fod y cyllid gwaelodol a gytunwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach yn elwa o'r sicrwydd na fydd yr arian y mae'n ei dderbyn ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn islaw 115 y cant o ffigur y pen yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 y pen a warir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, rhoddir £1.20 i Gymru. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gyson wedi ymrwymo i gytundebau gwael, er enghraifft, gyda Kancoat a Cylchffordd Cymru, sydd wedi costio miliynau i drethdalwyr Cymru. Llywodraeth Cymru a ddylai ateb am eu penderfyniadau ariannu gwarthus.
Yn ddiddorol hefyd, dywedodd y Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr—prif hyrwyddwyr Jeremy Corbyn—fis Hydref diwethaf nad oedd unrhyw gyngor dan arweiniad Llafur yn meddu ar gyn lleied o arian wrth gefn fel na ellid ei ddefnyddio i gynhyrchu adnoddau ar gyfer cyllideb heb unrhyw doriadau yn 2019-20.
Rwy'n dyfynnu; os ydych yn cwestiynu hynny, efallai y carech siarad â'ch cydweithwyr neu eich cymrodyr.
Mae awdurdodau lleol yn eistedd ar £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ac mae angen gwneud eu cynrychiolwyr etholedig yn atebol a dweud sut y caiff ei wario. Nid yw'n fater o fod ganddynt ddigon o adnoddau i dalu am brosiectau mawr, ond bod rhai cynghorau yn cynyddu eu lefelau o gronfeydd wrth gefn tra'n disgwyl i dalwyr y dreth gyngor dalu codiadau yn y dreth gyngor sy'n llawer uwch na chwyddiant.
Fel y manylais, cynghorau de Cymru sy'n cael eu rhedeg gan Lafur Cymru yw'r enillwyr go iawn yn sgil y setliad llywodraeth leol terfynol. Rhybuddiodd pennaeth cyllid Cyngor Sir Ynys Môn os na fyddai'r cyngor yn rhoi mwy o arian parod i mewn yn y cronfeydd wrth gefn, gallai'r awdurdod fynd yr un ffordd â Swydd Northampton, na lwyddodd i fantoli eu cyfrifon ac i bob pwrpas aeth yn fethdalwr y llynedd.
Mae un arall o'r rhai a gollodd fwyaf, Cyngor Sir y Fflint dan arweiniad Llafur, wedi gosod cynnydd o 8.1 y cant ar y dreth gyngor, gan fynd â chyfanswm y cynnydd, gan gynnwys preseptiau'r heddlu, yr awdurdod tân ac achub a chynghorau cymuned i 8.75 y cant. Lansiwyd ymgyrch ganddynt fis Tachwedd diwethaf, #BackTheAsk, a dynnodd sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynghylch y cyllid a gânt gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gofynnai'r ymgyrch yn benodol am gyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai Sir y Fflint yw un o'r cynghorau sy'n cael y lleiaf o arian y pen o'r boblogaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol gan yr holl bleidiau ar y cyngor.
Ym mis Rhagfyr, cyn pasio'r gyllideb derfynol, ac ar ôl y cyhoeddiad ynghylch arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roedd Sir y Fflint yn amcangyfrif eu bod yn dal i wynebu bwlch cyllido o £3.2 miliwn, gan ddweud ei bod yn afresymol fod cynghorau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, ac yn dilyn hynny, teithiodd grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr Sir y Fflint yma i lobïo am ariannu tecach y mis diwethaf. Hyd yn oed yn Sir y Fflint, fodd bynnag, roedd aelodau'r wrthblaid wedi cynnig cyllideb amgen gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ychwanegol i sicrhau nad oedd codiadau yn y dreth gyngor o fwy na 5.5 y cant, gan ddadlau bod arweinyddiaeth Lafur wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i wneud pwynt ynglŷn â thanariannu awdurdodau lleol.
O ystyried popeth a nodais, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru. Mewn llythyr at y Prif Weinidog, ymunodd Cyngor Sir Powys â galwadau am fformiwla ariannu decach, gan ddweud,
Mae'n bryd cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r fformiwla ariannu a bod awdurdodau gwledig fel Powys yn cael bargen deg. Nid ydym yn gofyn am driniaeth arbennig, dim ond chwarae teg... Mae'r amgylchedd ariannol a chymdeithasol sy'n wynebu llywodraeth leol wedi newid yn helaeth ers cyflwyno'r fformiwla ariannu. Mae'n bryd newid y fformiwla honno i adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Roedd gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn yn gofyn inni gydnabod bod y fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu'n flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud o'r blaen, dylanwad cyfyngedig sydd gan eu his-grŵp dosbarthu cyllid ar y fformiwla, a dywedodd yn 2016 fod 'yr is-grŵp dosbarthu yn cynhyrchu adroddiad. Fel arfer mae'n adroddiad ar beth y mae'r grŵp wedi ymdrin ag ef yn ei raglen waith. Fel arfer mae'n rhan fach o'r fformiwla. Nid yw'r is-grŵp dosbarthu ond yn ymdrin ag ychydig o addasiadau bach a newidiadau bob blwyddyn. Yn y pen draw, fe wnaethom ni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gytuno i hynny fel cymdeithas. Nid yw'n gytundeb fod y fformiwla gyfan yn iawn; nid yw ond yn gytundeb ein bod wedi cyflawni rhaglen waith yr is-grŵp.'
Er bod adroddiad y comisiwn annibynnol ar gyllid llywodraeth leol yn 2016 wedi argymell y dylid rhewi fformiwla presennol y grant cynnal refeniw a sefydlu comisiwn grantiau annibynnol i oruchwylio datblygiad a gweithrediad fformiwla newydd ar gyfer dosbarthu grantiau yn y dyfodol, nid yw hyn wedi digwydd. Nid yw adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid llywodraeth leol ond yn sôn am ddatblygu fformiwla'r setliad, yn hytrach nag adolygiad llawn, gan ddweud bod y fformiwla yn fwy cymhleth ers ei sefydlu, a bod mantais mewn ystyried y posibilrwydd o symleiddio a newidiadau i wella tryloywder a gweithrediad. Fel y dangosais, fodd bynnag, mae'r angen i weithredu ar frys yn mynd lawer ymhellach na'r geiriau gweigion hyn sydd wedi'u saernïo'n ofalus, ac yn hytrach na chuddio tu ôl i lywodraeth leol, byddai Llywodraeth Cymru gyfrifol yn arwain ar hyn.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.
Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Dai.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn i gyfrannu i'r ddadl yma ar lywodraeth leol, ac fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dwi yn symud y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Fel cyn-gynghorydd sir yn Abertawe am nifer o flynyddoedd, fel eraill yn y Siambr yma, yr wyf yn deall yn iawn yr heriau ariannol sydd yn wynebu ein siroedd. Wedi dweud hynny, rwyf yn synnu bod y Ceidwadwyr eisiau trafod yr heriau ariannol achos eu polisi nhw o lymder sydd yn dod lawr yr M4 o Lundain sydd wedi achosi'r cwtogi ariannol ar gyllidebau. Mae ein siroedd angen gwir bartneriaeth a chefnogaeth i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth ac mae'n wir i ddweud hefyd fod y Llywodraeth Lafur yma yn y Senedd ddim wastad wedi rhoi blaenoriaeth deilwng i ariannu llywodraeth leol chwaith. Gyda'r berthynas rhwng y Llywodraeth yn fan hyn ac arweinyddion ein siroedd ar brydiau yn gallu bod yn heriol, pwy all beidio ag anghofio cyhuddiad o Oliver Twist o enau Alun Davies, y Gweinidog ar y pryd? A hynny yn esgor ar nifer o gymariaethau tebyg o lyfrau'r byd Dickensian.
Nawr, daeth 22 o siroedd i fodolaeth ym 1996, cynllun y Ceidwadwyr, ac, wrth gwrs, daeth y Cynulliad i fodolaeth ym 1999. Nid ydym erioed wedi cael y drafodaeth synhwyrol, aeddfed o ddisgwyliadau'r ddau wahanol haenen yna o lywodraeth yn fan hyn. Sut allwn ni gydweithio? Hynny yw, y Cynulliad oedd y babi newydd a'r cynghorau oedd hefyd yn newydd. Chawsom ni erioed y drafodaeth aeddfed yna i benderfynu pwy a oedd yn gwneud beth, a sut y gallem ni gydweithio’n well i wella bywyd pobl Cymru. Hynny ydy, mae gennym ni Senedd. Pa weithgaredd, felly, dylai fod yn genedlaethol? Pa weithgaredd a ddylai fod yn rhanbarthol? A pha weithgaredd ddylai ddigwydd yn lleol? Yn ogystal â sut y dylem dalu yn lleol am hyn oll. Nid yw’r dreth gyngor nac ardrethi busnes yn deg o bell ffordd, ac yn gallu lladd mentergarwch. Ond eto, fel dwi wedi ei ddweud droeon yn y Senedd yma dros y blynyddoedd, nid yw Cymru yn cael ei hariannu yn ddigonol o dan Barnett, fel yr oedd am flynyddoedd, o dan y llawr nawr, ta beth. Dydy Cymru ddim yn cael ei hariannu yn ddigonol ta beth. Ac roedd hynny yn wir hyd yn oed cyn i bolisi creulon, dinistriol llymder y Ceidwadwyr ddod i fodolaeth. Cefnogwch ein gwelliannau, felly. Diolch yn fawr.
A yw awdurdodau lleol gwledig yn gyson yn cael bargen wael mewn perthynas â'r grant bloc gan Lywodraeth Cymru? Yr ateb i hynny yw 'ydynt'. Gwrandewais ar gyfraniad Dai Lloyd. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £550 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf hon, ond nid yw'r cyllid ychwanegol hwnnw wedi'i drosglwyddo ymlaen, yn sicr nid i gynghorau gwledig ar draws canolbarth a gogledd Cymru.
Fy ardal awdurdod lleol i ym Mhowys sydd wedi cael y setliad cyllideb gwaethaf neu gydradd waethaf mewn naw allan o'r 10 mlynedd diwethaf. Dyna £100 miliwn yn cael ei dynnu allan o'u cyllideb, ac mae honno, wrth gwrs, yn sefyllfa anghynaliadwy sydd yn anochel wedi effeithio ar y modd y darperir gwasanaethau lleol hanfodol. Fel y mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi nodi eisoes, rydym yn gweld cyngor Caerdydd yn cael cynnydd ond awdurdodau gwledig ar draws canolbarth ac gogledd Cymru yn cael gostyngiadau. Ie, Mike Hedges.
A fyddech yn derbyn bod Powys yn cael llawer mwy y pen nag y mae Caerdydd?
Wel, Mike, dof at hynny yn fy nghyfraniad. Mike, rydych yn gwneud ymyriad arnaf bob blwyddyn yn y ddadl flynyddol hon, gan ddweud—
Yr un peth.
—yn dweud yr un peth, a dof at hynny. Ac wrth gwrs, mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn pentyrru £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Mae eraill, fel Cyngor Sir Powys, fy ardal awdurdod lleol fy hun, yn gorfod mantoli eu cyfrifon ar ôl blynyddoedd o doriadau i'w cyllideb. Felly, a oes angen newid y fformiwla ariannu? Oes, yn bendant. A'r newid mwyaf arwyddocaol yn y fformiwla ariannu honno yn fy marn i yw bod angen i'r newid roi ystyriaeth i'r newid poblogaeth sylweddol yn oedran ei phoblogaeth hŷn.
Rhagfynegiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Powys yw y bydd gostyngiad o 7 y cant rhwng 2014 a 2039. Gyda llaw, dyma'r gostyngiad mwyaf a ragwelwyd o blith y 22 ardal awdurdod lleol. Ond yn ystod yr un cyfnod, mae'r boblogaeth hŷn ym Mhowys, y rhai dros 75 oed, yn mynd i gynyddu o 11 y cant fel y mae yn awr i 23 y cant yn 2039. Felly, erbyn 2039, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld y bydd chwarter poblogaeth Powys dros 75 mlwydd oed, ac mae honno'n gyfradd sy'n sylweddol uwch na'r hyn a ragwelir ar gyfer y cyfartaledd cenedlaethol yn 2039. Pam felly? Caiff ei briodoli'n bennaf i'r ffaith bod pobl eisiau ymddeol i Bowys. Pam? Oherwydd ei bod hi'n rhan brydferth iawn o'r wlad—hi yw'r sir brydferthaf yn y DU. Mae pobl eisiau ymddeol i'r ardal. Ond mewn rhai blynyddoedd ar ôl ymddeol i'r ardal, mae yna ganlyniad, wrth gwrs, i'r boblogaeth honno sy'n heneiddio. Nid wyf yn meddwl bod angen imi fynd i ormod o fanylder ynglŷn â hynny: mae'r rhesymau'n amlwg. [Torri ar draws.] Wel, os yw Joyce Watson am imi fanylu ar hynny, mae cost i'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae pawb ohonom yn gwybod mai'r gost fwyaf i awdurdod lleol yw ei gyllideb gwasanaethau cymdeithasol, ac os oes ganddynt boblogaeth hŷn mae'r cynnydd sydd ei angen i gyllideb y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd i fod yn sylweddol. Nid yw'r fformiwla ariannu yn ystyried hynny, a dyna'n union pam ein bod yn gofyn am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido.
Darparodd Age Cymru friff da iawn ar fy nghyfer yn gynharach yr wythnos hon, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfleusterau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gyfer darparu cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i fynd i'r afael ag unigrwydd a hyrwyddo iechyd a lles pobl hŷn er mwyn iddynt barhau i fod yn egnïol ac i gadw eu hannibyniaeth. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig. Os ydych chi'n gweithredu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig iawn, mae bob amser yn mynd i gostio llawer mwy i hynny ddigwydd, ac mae'r gost honno—. Er enghraifft, pan oedd Joyce Watson yn sôn am lyfrgell y Trallwng yr wythnos o'r blaen. Mae'r llyfrgell honno'n cael ei hisraddio oherwydd y setliad ariannol gwael y mae Cyngor Sir Powys yn ei gael o'r grant bloc gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny o ganlyniad i'r fformiwla annheg.
Nac ydyw. Mae'n ganlyniad i'ch camau gweithredu chi ar y cyngor.
Roeddwn am ddweud hyn: ychydig wythnosau'n ôl, ysgrifennodd arweinydd Cyngor Sir Powys lythyr agored at y Prif Weinidog i ofyn am newid y ffordd y mae cynghorau sir yn cael eu hariannu ac i roi bargen decach o lawer i awdurdodau gwledig. Yn anffodus, nid oes gennyf amser i ddarllen dyfyniad ohono, a buaswn wedi hoffi gwneud.
Dyna drueni.
Mae'n drueni. Mae Joyce Watson yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dylech fod yn ymladd ar ran Powys, yn hytrach nag ildio, ac rwy'n synnu nad yw Joyce Watson yn sefyll dros bobl Powys, y bobl mae hi i fod i'w cynrychioli.
Rydych wedi fy enwi dair gwaith yn awr, felly gallwch dderbyn ymyriad.
Deallaf eich rhwystredigaeth yn llwyr—
Rydych wedi fy enwi dair gwaith yn awr. Gallwch dderbyn ymyriad.
Nid wyf yn derbyn ymyriad, Joyce.
Rydych wedi fy enwi dair gwaith, dylech dderbyn ymyriad. Dair gwaith fe wnaethoch fy enwi.
Wel, nid wyf yn credu ei fod am wneud.
A oes hawl gennyf i roi ymyriad?
Gallwch, yn fyr.
Rwy'n credu bod angen i chi dderbyn na allwn ond gwario'r arian sydd gennym, ac rwyf am wybod sawl gwaith yr anfonoch chi lythyrau at y Llywodraeth a reolir gan y Ceidwadwyr sydd wedi amddifadu'r Llywodraeth hon o'r arian i'w roi i awdurdodau lleol. Dyna'r ateb yr hoffwn ei gael gennych chi.
Iawn. Russell George.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am ganiatáu hynny. Mae Joyce Watson yn methu'r pwynt yn llwyr yma. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru; mae Llywodraeth Cymru yn lleihau ei chyllid i Gyngor Sir Powys, ac mae Joyce Watson am amddiffyn hynny. Wel, mae hynny'n gwbl syfrdanol i rywun a ddylai fod yn amddiffyn ei hardal etholaethol ei hun.
Lynne Neagle.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn allu croesawu'r ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig oherwydd rwy'n credu bod llywodraeth leol yn wynebu ei chyfnod anoddaf ers datganoli yn 1999, ond anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell fyddai diolch i'r Torïaid am y cyfle i siarad am hyn oherwydd mai eu hagenda cyni hwy, y dewis gwleidyddol hwnnw i amddifadu gwasanaethau o gyllid, sydd wedi arwain at y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae'r dichell hwnnw i'w weld yn fwyaf amlwg ym mhwynt olaf cynnig y Torïaid, sy'n galw am adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol fel pe bai adolygiad o'r fformiwla yn sydyn yn mynd i gynyddu'r cyfanswm sydd ar gael i gynghorau yng Nghymru. Ni fydd yn gwneud hynny. Fel pe na bai'r fformiwla o dan adolygiad cyson rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae o dan adolygiad cyson. Fel pe bai unrhyw adolygiad annibynnol yn mynd i argymell symud arian oddi wrth gymunedau tlotach i gynghorau mwy cefnog, sy'n cael eu rhedeg gan y Torïaid. Sut y gallai wneud hynny?
Bydd hyd yn oed cipolwg bras ar y diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU dros yr wyth mlynedd diwethaf yn dangos mai ardaloedd tlotaf Cymru sydd wedi eu taro galetaf gan y newidiadau hynny. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol gyda diwygiadau'n gwthio 50,000 o blant ychwanegol i fyw mewn tlodi erbyn yr adeg y cânt eu gweithredu'n llawn: eich plaid chi. Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn dangos bod effaith anghymesur o negyddol gan y newidiadau ers 2010 ar incwm pobl mewn nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, rhai grwpiau ethnig, menywod, ac effeithiau arbennig o negyddol ar grwpiau croestoriadol sy'n wynebu anfanteision lluosog. Mae'n dilyn y byddai unrhyw adolygiad o gyllid llywodraeth leol yn gorfod ystyried hynny.
Mewn cyferbyniad, nid yw'r materion y mae'r Torïaid yn aml yn cyfeirio atynt ynghylch heriau i'r cynghorau y maent yn eu harwain ac yn dymuno eu harwain, natur wledig ac amser teithio, er enghraifft, wedi newid ac ni fyddant yn newid—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—a beth bynnag, maent eisoes yn ffactorau yn y fformiwla fel y mae'n bodoli heddiw. Fe ildiaf.
Diolch am ildio. Nid wyf yn anghytuno â chi, ac ni fyddem yn anghytuno â chi, y byddai unrhyw adolygiad o'r fformiwla cyllido yn gorfod ystyried y ffactorau hynny i gyd, ac efallai mewn rhai ardaloedd byddid yn penderfynu bod symiau o arian yn mynd i seddi fel eich un chi, mae'n iawn i hynny ddigwydd, ond ar yr un pryd rydym o'r farn y dylid ystyried materion fel teneurwydd y boblogaeth mewn ardaloedd gwledig fel y rhai y mae Russ George a minnau yn eu cynrychioli, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd.
Nick, rwy'n gyfarwydd iawn â'r fformiwla llywodraeth leol, ac mae teneurwydd poblogaeth eisoes yn cael ei ystyried, felly nid oes pwynt i chi fynd ar drywydd hynny. Nid wyf yn credu y byddai gan unrhyw AC Llafur neu Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw beth i'w ofni o adolygiad o'r modd y dyrennir cyllid, ond yn syml iawn, nid dyna lle mae'r broblem ar hyn o bryd. Mae'r broblem yn 11 Stryd Downing; dyna lle penderfynwyd ar ddiffyg o £1 biliwn i Gymru, a dyna lle cafodd cyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ei dorri at yr asgwrn. Y flwyddyn nesaf, ni fydd 168 o gynghorau yn Lloegr yn cael unrhyw arian Llywodraeth ganolog o gwbl, ac erbyn 2025, mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn amcangyfrif y bydd bwlch ariannu o £8 biliwn yn bodoli i gynghorau yn Lloegr. Beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu colli swyddi, preifateiddio ar raddfa eang, cau llyfrgelloedd a hyd yn oed yn awr, y posibilrwydd o ddiwrnodau ysgol byrrach. Os mai dyna yw gweledigaeth y Torïaid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, yna gadewch inni o leiaf fod yn onest am hynny.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru a'r cynghorau'n gweithio galed ac yn gweithio gyda'i gilydd i gadw gwasanaethau'n gynaliadwy. Roeddwn yn croesawu'r symud i ddyrannu adnoddau ychwanegol i gynghorau yn y gyllideb derfynol, gan gyflawni'r addewid mai hwy a fyddai'n gyntaf yn y ciw am unrhyw arian ychwanegol. Ond nid yw hynny ond wedi symud y dewisiadau ariannol o fod yn amhosibl i fod yn annymunol. Mae'r pwysau yno o hyd, a dyna pam y mae angen inni gael dadl wirioneddol onest am lywodraeth leol a chyllid, nid un sy'n seiliedig ar y prosbectws ffug ger ein bron heddiw. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd, dewr ac arloesol yn aml a wneir ar lefel leol er mwyn lleihau'r toriadau a'r codiadau treth anochel. Mae'r syniad fod cynghorwyr lleol yn falch o'r cyfle i godi'r dreth gyngor er mwyn cadw ein hysgolion ar agor drwy ddiwrnod llawn yn anfaddeuol.
Mae gwleidyddiaeth yn fyd cystadleuol, ond ni ddylem byth feirniadu cyngor o unrhyw liw sy'n penderfynu blaenoriaethu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd ceir consensws yn y Cynulliad, ac yn y wlad, y dylent fod yn flaenoriaethau i gynghorau ledled Cymru. Rwy'n falch fod hyn yn digwydd yn Nhorfaen o dan gyngor Llafur, a bod addysg yn cael ei chydnabod fel eu gwasanaeth ataliol pwysicaf. Hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Llafur Cyngor Torfaen, i'r holl gynghorwyr Llafur yn Nhorfaen, ac yn wir, i'r holl gynghorau ledled Cymru sy'n gweithio mor galed i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiad toriadau Torïaidd. Mae addysg a gofal cymdeithasol yn flaenoriaethau cenedlaethol ac maent yn flaenoriaethau lleol. Dylem fod yn ddigon dewr i gefnogi'r rhai sy'n gwneud y dewisiadau anodd, nid diraddio ein system wleidyddol ymhellach drwy esgus y gallwch dorri cyllidebau, torri trethi a chadw gwasanaethau. Celwydd gwleidyddol rhad yw dweud y gallwch wneud hynny.
Mae angen inni newid termau'r ddadl ynglŷn â llywodraeth leol os ydym o ddifrif eisiau gwella'r gwasanaethau sydd agosaf at y rhai a gynrychiolwn. Mae angen trafodaeth gadarnhaol am alluogi arloesedd, cynllunio ariannol a chymorth ar gyfer arweinyddiaeth ar bob lefel o lywodraeth leol, ond yn anad dim, mae angen rhoi diwedd ar gyni Torïaidd, ac nid yw'r cynnig heddiw yn gwneud dim i hyrwyddo'r agenda honno.
Edrychwch, tybed os gallwn ddechrau gyda'r amlwg yma, sef nad oes unrhyw Lywodraeth yn hoffi torri cyllid awdurdodau lleol ac nid oes unrhyw gyngor yn hoffi codi'r dreth gyngor. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n llai amlwg, er gwaethaf rhai o'r honiadau a wnaed yn y Siambr hon, yw pam fod hyn yn digwydd a pham fod diwygio cyllid llywodraeth leol yn dasg mor anodd, pan allai hynny ddechrau, oherwydd mae'n rhy hawdd ceisio mygu'r ddadl, fel y clywsom mewn cwestiynau yn gynharach a rhai o'r sylwadau heddiw, drwy feio Llywodraeth y DU. Os mai dyna'r cyfan rydych yn mynd i ddweud wrth ymateb i'r ddadl hon, Weinidog, waeth i bawb ohonom fynd adref nawr, oherwydd mae etholwyr yn edrych hefyd ar ble y caiff y penderfyniadau ynghylch sut y mae gwariant ar wasanaethau yn genedlaethol ac yn eu cymunedau eu blaenoriaethu. A dyna'r gwaith a wneir yn y Siambr hon ac mewn siambrau yn ein hardaloedd cyngor.
Ni waeth pa benderfyniadau cyllidebol a wneir yn Llundain, mae arian gwaelodol yn sicrhau bod gan y Llywodraeth hon fwy i'w wario ar y gwasanaethau hynny fesul y pen nag sydd ganddynt yn Lloegr, ac mae hwnnw'n ffigur y cytunwyd arno gyda'r Prif Weinidog Llafur presennol. Dywedodd eich rhagflaenydd, Weinidog, nad yw beio'r Torïaid yn strategaeth ar gyfer y dyfodol ac mae rhoi'r bai ar gyni a bwrw ymlaen â'r gwaith fel arfer yn dangos diffyg gweledigaeth. Mae cyn-arweinydd Llafur un o'r cynghorau yn fy rhanbarth yn dweud yr un peth fwy neu lai: 'Yr opsiwn hawdd a diog mewn perthynas â llywodraeth leol yw beio cyni a'r Torïaid. Yn rhy aml mae'n anwybyddu ffactorau eraill megis penderfyniadau gwael ynghylch cyllidebau a darparu gwasanaethau. Roedd yr ysgrifen ar y mur i'r rhan fwyaf o awdurdodau cyn 2008 hyd yn oed, sef dyddiad y cwymp ariannol wrth gwrs pan oedd yn dal i fod Llywodraeth Lafur gennym yn San Steffan.'
Rwy'n meddwl bod ganddynt bwynt. Mae'n mynd yn ôl i'r hyn yr oedd Lynne Neagle yn ei ddweud am edrych o'r newydd ar hyn. Ond nid wyf yn meddwl bod y pwynt hwnnw'n gywir ym mhob ffordd. Nid yw rhai o'n hawdurdodau lleol wedi cael unrhyw le i symud ers blynyddoedd lawer—dim lle i wneud penderfyniadau gwael—ond nid pob un ohonynt. Mae'r ffaith mai'r un cynghorau ydynt yn gyffredinol ag sy'n gwneud yn gymharol dda ac yn gymharol wael dros y cyfnod hwn o flynyddoedd yn drawiadol amlwg rwy'n credu. Ac os mai'r rheswm pam fod y cynghorau sy'n gwneud yn gymharol dda—ac rwy'n dweud 'cymharol'—yn deillio'n bennaf o aros am amddifadedd, yna rwy'n credu ei bod hi'n deg gofyn pam fod yr ardaloedd cyngor hynny'n dal i fod mor ddifreintiedig a bod lefelau eithaf uchel o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ganddynt o hyd. Mae cynghorau eraill wedi gorfod ymdrin â'u heriau gyda chryn dipyn yn llai o arian y pen a chronfeydd wrth gefn.
Nawr, wrth gwrs fy mod yn sylweddoli bod anghenion pob ardal cyngor yn wahanol, ond bellach mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn amlwg yn annheg, a chredaf fod hynny'n deillio o ddefnyddio fformiwla'n seiliedig ar hen ddata amherthnasol dros nifer o flynyddoedd. Pe bai'r fformwla hon yn deg a bod yr anhawster yn deillio'n gyfan gwbl o Lywodraeth y DU yn lleihau maint y pot cyffredinol, fe fyddech yn disgwyl i drethi cyngor ledled Cymru gynyddu ar yr un gyfradd yn fras. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd ac mae'r gwahaniaethau'n rhy amlwg i allu eu hegluro drwy gyfeirio at amodau lleol neu gyllidebu gwael yn unig. Fel y clywsom, mae cyngor Powys yn gorfod codi ei dreth gyngor ddwywaith cymaint â Chastell-nedd Port Talbot, ac nid yw hwnnw'n gynnydd ymylol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot y gwelwyd y cynnydd uchaf ond tri a Phowys a welodd y toriad anoddaf, felly byddai'n hawdd dod i gasgliad eithaf amlwg eleni. Ond cafodd Sir Benfro, sy'n codi 10 y cant—bron cymaint â'r llynedd—gynnydd mewn gwirionedd, er nad oedd yn llawer o gwbl, ond rwy'n defnyddio'r ddwy enghraifft i siarad am amddifadu cynghorau penodol yn ariannol dros nifer o flynyddoedd, nid yn ddiweddar yn unig, yn mynd yn ôl cyn belled â 2008—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Suzy?
Gwnaf.
Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn ymyriad, ac rwy'n falch eich bod wedi defnyddio achos Sir Benfro, oherwydd beth y mae Sir Benfro wedi'i wneud dros y blynyddoedd—ac arferwn fod yn gynghorydd sir yn Sir Benfro—yw defnyddio'r honiad mai yno y mae'r dreth gyngor isaf yng Nghymru, dim cynnydd yn union cyn yr etholiadau, fel esgus a rheswm i gael eu hailethol. Ond mae angen ichi edrych o dan yr wyneb gyda'r penawdau hynny: ai hwy yw'r awdurdod sy'n codi'r tâl uchaf am y gwasanaethau a ddarparant drwy beidio â chodi eu treth gyngor mewn gwirionedd a rhoi'r baich ar bawb heblaw ar y bobl sydd angen y gwasanaethau? Dyna sydd angen i chi ei wneud.
Wel, rwy'n credu efallai eich bod newydd wneud un o'r pwyntiau ar fy rhan, Joyce, sef y pwynt a godwyd gan gyn-arweinydd Llafur cyngor gwahanol yn gynharach ynghylch rhai cynghorau sy'n gwneud penderfyniadau gwael ynglŷn â sut y maent yn cyllidebu, ac yn awr maent yn manteisio ar y cyfle i gosbi eu trigolion eu hunain drwy wneud hyn. Ond fy mhwynt cyffredinol oedd dweud bod pethau wedi bod yn newid dros gyfnod o flynyddoedd ac mae rhai cynghorau dros y cyfnod hwnnw o flynyddoedd wedi gwneud yn gymharol well na chynghorau eraill.
Nawr, Weinidog, credaf fod gennych rai cwestiynau i'w gofyn i'r cynghorau hynny gyda'r cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy uchaf—o ddifrif nawr—yn ogystal â hanes o ymddygiad gwastraffus a phenderfyniadau gwael. Efallai fod Sir Benfro yn un o'r rheini. Ond bellach, mae'r holl gynghorau'n siarad am y ffaith eu bod yn cael eu hamddifadu'n ariannol, ac wrth gwrs mae cynghorwyr yn fy rhanbarth i'n pleidleisio yn erbyn cynnydd o 6 y cant a 6.6 y cant, oherwydd nid yw'r cynghorau Llafur hynny wedi gorfod gwneud hyn o'r blaen. Hwy sydd wedi dioddef leiaf yn sgil toriadau dros y blynyddoedd, ond maent hwy hyd yn oed wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol bellach, ac nid yn lleiaf oherwydd y llu o gyfrifoldebau deddfwriaethol a danarianwyd y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gosod arnynt.
Nawr, yn wahanol i Dorfaen, mae'r arweinydd Llafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dweud na all warchod gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, a gallwn yn hawdd dynnu sylw at achosion lle maent wedi gwastraffu arian mewn achosion cyfreithiol a gollwyd, cytundebau tir gwael, contractau'n mynd o chwith, ond er hynny, mae angen iddynt ariannu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol eleni. Ac mae'r arbedion a gynlluniwyd ganddynt sydd eu hangen i wneud hynny yn rhai risg uchel a risg canolig, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn iaith archwilio am arbedion na ellir eu cyflawni. Weinidog, os gallwch chi a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—ac rydym wedi clywed nad ydynt hwy'n hapus gyda'r fformiwla hon—dynnu hyn allan o'r blwch 'rhy anodd' a gwrthsefyll y dicter anochel a gewch gan y collwyr, dyma fydd eich cyflawniad pennaf. Mae rhai ar eu colled yn awr, ac ni ellir honni mwyach fod y broses sy'n peri iddynt fod ar eu colled yn un deg.
Croesawaf y cyfle hwn i drafod llywodraeth leol. Yn wir, croesawaf unrhyw gyfle i drafod llywodraeth leol a hoffwn pe baem yn cael mwy o'r dadleuon hyn ar lywodraeth leol. Efallai nad wyf yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd gan Mark Isherwood, Suzy Davies a Russell George, ond credaf ei bod yn bwysig inni gael y ddadl hon a'r drafodaeth sy'n digwydd o flaen pawb.
A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, fod hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o gyni Torïaidd—polisi gwleidyddol, nid un economaidd? Ond beth sy'n digwydd yma mewn gwirionedd? Mae'r ganran o gyllideb Cymru a werir ar iechyd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gan mai llywodraeth leol yw'r gyllideb fawr arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae wedi gostwng. Ond pan fyddwch yn ystyried rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol—addysg, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, casglu sbwriel, safonau masnach, hylendid bwyd, llygredd, cyfleusterau chwaraeon, digartrefedd a chynllunio—mae'n hawdd gweld pa mor bwysig yw llywodraeth leol a gwasanaethau lleol. Rhoddais y gorau iddi ar 10, a gallwn fod wedi parhau, ond ni chredaf y byddai neb wedi hoffi gwrando am bum munud ar restr o'r hyn y mae Llywodraeth Leol yn ei wneud.
Wrth i'r arian y mae llywodraeth leol yn ei gael gan Lywodraeth Cymru o dan y teitl bachog 'cyllid cyfansymiol allanol', fynd i lawr, mae dau beth yn digwydd: mae gwasanaethau'r cyngor yn lleihau, ac mae'r dreth gyngor a thaliadau'n cynyddu. Ceir cred gyffredinol gan lawer o dalwyr y dreth gyngor fod eu treth gyngor yn talu am y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf yw bod y dreth gyngor wedi codi er bod y gwasanaethau wedi lleihau, ac mae talwyr y dreth gyngor wedi adweithio mewn nifer o ffyrdd, yn amrywio rhwng dicter a dryswch. Mae hyn oherwydd bod y dreth gyngor yn talu am lai na chwarter cyfanswm gwasanaethau'r cyngor, gyda'r gweddill yn cael eu hariannu gan y grant cynnal ardrethi a chyfran y cynghorau o'r ardrethi busnes cyffredinol. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi ymddiheuro am y penderfyniad a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol yn y gorffennol, lle cafodd ardrethi busnes eu canoli a'u gwladoli, oherwydd dylai awdurdodau lleol allu gosod eu hardrethi busnes lleol eu hunain. Nawr, caiff ei osod yn ganolog, ac mae hynny'n cael effaith.
Ar ardrethi busnes—
A gaf fi wneud ymyriad?
Wrth gwrs.
A fyddech yn derbyn nad yw pobl yn deall ychwaith, oherwydd bod treth gyngor yn gyfran lai o'r swm a werir yn lleol—dywedwch ei fod, wn i ddim, yn 15 neu'n 20 y cant, beth bynnag ydyw—bydd gostyngiad o 1 y cant yn y grant cynnal refeniw sy'n mynd i awdurdod lleol yn arwain at gynnydd anghymesur o 5 i 10 y cant yn y dreth gyngor honno?
Buaswn yn ei wneud yn debycach i 4 i 5 y cant, ond ydw, rwy'n cytuno â'ch gosodiad cyffredinol.
Mae rhai ardaloedd cyngor yn gyfranwyr net i ardrethi busnes cenedlaethol, yn enwedig Caerdydd, sy'n talu ddwywaith cymaint yn fras ag y mae'n ei gael yn ôl. Wrth edrych ar Abertawe o ran incwm, cyrhaeddodd y grant cynnal trethi gam lle mae'n talu llai na 60 y cant, ar ei ffordd i lawr i 50 y cant, o'r arian y mae'r cyngor yn ei wario. Ardrethi annomestig cenedlaethol: tua 20 y cant. A'r dreth gyngor: tua 25 y cant. Ond mae 65 y cant o'r arian yn mynd ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac os caf nodi—ni allaf gofio i ba siaradwr yn gynharach—o ran mai'r gwasanaethau cymdeithasol yw'r gost unigol fwyaf i lywodraeth leol. Yn sicr, yn achos Abertawe, addysg yw'r gwariant mwyaf o gryn dipyn.
Diolch, Mike. Rwyf bob amser yn gwrando'n ofalus ar eich cyfraniadau ar lywodraeth leol. O ran gwasanaethau cymdeithasol, y gronfa honno yw'r fwyaf, fel rhan o'r gyllideb, ond gwneuthum y pwynt yn fy nghyfraniad: os oes gennych boblogaeth gynyddol oedrannus, fel Powys—bydd 25 y cant o'i phoblogaeth dros 75 oed erbyn 2040—does bosib nad ydych yn gwybod am y costau sylweddol ychwanegol o ddarparu gwasanaethau lleol gyda phoblogaeth hŷn. Nid yw'r fformiwla cyllido yn mynd i'r afael â hynny. A ydych o'r farn y dylai fynd i'r afael â hynny?
Nid yn unig fy mod yn credu y dylai, roeddwn yn meddwl ei bod yn gwneud hynny. Credaf mai rhan o'r fformiwla oedd canran y boblogaeth dros oedran arbennig, canran y boblogaeth sydd o oedran ysgol, felly credaf ei fod yn gwneud hynny. Rwy'n credu bod cynghorau yn gwarchod gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ac un o'r pethau tristaf am lywodraeth leol yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael yr un fath i raddau helaeth. Roedd Abertawe'n arfer bod yn wirioneddol dda am ddarparu gwasanaethau hamdden a gwasanaethau diwylliannol. Roedd Rhondda Cynon Taf yn dda iawn gyda gwasanaethau cyn-ysgol. Ond mae pawb yn cael yr un fath am fod pawb o dan yr un pwysau ac nid oes fawr o wahaniaeth rhyngddynt o ran y gwasanaethau a ddarperir.
Arferai'r grant cynnal ardrethi fod yr hyn a elwid yn gymorth i rai sydd â threth gyngor isel, ac ardrethi annomestig cenedlaethol isel yn flaenorol. Po isaf oedd yr incwm o drethi lleol, yr uchaf y byddai'r cymorth cenedlaethol, fel bod awdurdodau lleol yn cyrraedd beth oedd eu hasesiad gwariant safonol yn dweud y dylent ei wario. Nid serendipedd sy'n gyfrifol am y ffaith mai Mynwy, sydd â'r nifer uchaf o eiddo band D ac uwch, sy'n cael y lleiaf o gymorth Llywodraeth Cymru, ac mai Blaenau Gwent, gyda'r nifer isaf o eiddo band D ac uwch, sy'n cael y mwyaf o gymorth. Ar gyfer y cofnod, mae cyngor Sir Fynwy yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr, a Blaenau Gwent dan arweiniad annibynnol, ac i gywiro rhywbeth a ddywedwyd yn gynharach, mae Merthyr Tudful hefyd dan reolaeth annibynnol.
Hoffwn weld y canlynol yn digwydd: credaf fod angen archwiliad i gyllido llywodraeth leol. Mae gan iechyd astudiaeth Nuffield. Pe bai unrhyw un yn cael yr hyn y maent ei angen mewn gwirionedd—roedd yr astudiaeth Nuffield yn wych, oherwydd roeddent yn dweud faint o arian oedd ei angen arnynt, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae angen astudiaeth sy'n cyfateb i astudiaeth Nuffield ar lywodraeth leol i ddweud faint o arian sydd ei angen.
Ar y fformiwla, gall mân newidiadau— fel y dywedodd Nick Ramsay yn awr—gael effaith enfawr. Pan oeddwn yn aelod o'r is-grŵp dosbarthu, fe symudasom y priffyrdd o 52 y cant poblogaeth a 48 y cant ffyrdd i 50 y cant yr un. Mân newid. Symudodd hyn gannoedd o filoedd o bunnoedd o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd i Bowys, Sir Benfro a Gwynedd.
Dau benderfyniad uniongyrchol a allai helpu llywodraeth leol fyddai: gadael i awdurdodau lleol bennu'r holl daliadau—caiff rhai eu gosod ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru—a rhoi'r cyllid ar gyfer consortia rhanbarthol i ysgolion a gadael iddynt hwy benderfynu a ydynt am dalu i mewn i'r consortia rhanbarthol hynny ai peidio. O'r hyn a ddeallaf gan yr ysgolion yn Abertawe, ni fyddent yn talu i mewn iddynt.
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannu. Mae'r setliad terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn creu toriad mewn termau real yng nghyllid llywodraeth leol o'i gymharu â'r llynedd. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod angen cynnydd o tua £260 miliwn ar awdurdodau lleol er mwyn parhau lle maent yn unig o ran darparu gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, dewisodd Llywodraeth Cymru droi clust fyddar i apeliadau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nid oes dwywaith amdani: mae'n benderfyniad polisi ymwybodol gan Lywodraeth Cymru i dorri cyllid llywodraeth leol at yr asgwrn. Pan fyddant yn wynebu canlyniadau anochel eu penderfyniadau, mae Gweinidogion yn disgyn yn ôl ar hen esgusodion o feio San Steffan am eu helbulon a'u gweithredoedd. Fel mae'n digwydd, rwyf wedi cael llond bol ar wrando ar yr ochr hon i'r Siambr dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy bob tro y bydd—[Torri ar draws.] Arhoswch funud, Joyce. Yr hyn sydd— [Torri ar draws.] Pam y beiwch Lundain pan fo'r arian gennych chi?
Maent yn anghofio'n gyfleus fod y cytundeb arian gwaelodol yn golygu bod Cymru'n elwa o'r sicrwydd na fydd yr arian a ddaw i law ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn islaw 115 y cant y pen o'r ffigur yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 y pen a werir yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, rhoddir £1.20 i Lywodraeth Cymru. Mae Cymru'n elwa o £0.5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yng nghyllideb 2018. Felly, nid yw'r ddadl fod Cymru wedi'i hamddifadu o arian yn cyfateb i realiti.
O ganlyniad, mae talwyr y dreth gyngor yng Nghymru yn ysgwyddo baich penderfyniadau Llywodraeth Cymru i amddifadu cynghorau o'r adnoddau sydd eu hangen arnynt. Nid yw hyn yn newydd. Ers 1997, mae'r dreth gyngor wedi treblu o dan Lafur Cymru. Mae treth gyngor band D yn Lloegr wedi codi 153 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn yr Alban, mae'r cynnydd yn 57 y cant. Ond yng Nghymru, mae talwyr y dreth gyngor ym mand D bellach yn talu 221 y cant yn fwy. O dan y setliad ariannu ar gyfer 2019 a 2020, ni fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld eu cyllid craidd yn cynyddu digon i dalu cost chwyddiant. Dywedodd arweinydd cyngor Torfaen, ac rwy'n dyfynnu:
gadawyd cynghorau gyda diffyg mawr ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan nad yw'r cyllid yn codi'n unol â'r pwysau a wynebir gan wasanaethau fel gofal cymdeithasol.
Cau'r dyfyniad. [Torri ar draws.] Na. Felly, rhaid i deuluoedd sydd dan bwysau, yn aml yn yr ardaloedd tlotaf, ymdrechu'n galetach i ateb y galwadau sy'n uwch na chwyddiant.
Diolch i chi am ildio, a gwn eich bod wedi codi stêm yno. A yw'n gweld unrhyw debygrwydd o gwbl rhwng ein cwyn am afael haearnaidd cyllid Llywodraeth y DU ar Gymru a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr? Mae cynghorau Lloegr yn sgrechian ynglŷn â'r mesurau cyni arnynt, lle cafodd £16 biliwn o arian craidd ei dynnu'n ôl o lywodraeth leol yn Lloegr gan Lywodraeth y DU ers 2010. A allwch weld unrhyw elfennau cyffredin yn digwydd yma?
Rwyf eisoes wedi rhoi ffigurau i chi, a gennych chi y mae'r pŵer. Mae gennych reolaeth lwyr ar lywodraeth leol. Mae mesurau cyni, fel y dywedais yn gynharach—. Mewn gwirionedd, roedd y toriad hwn pan nad adawoch chi unrhyw arian ar ôl yn y Trysorlys pan oeddech yn Llywodraeth. Yn y bôn—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Toriad o geiniog yn y bunt yn unig a wnaeth y Llywodraeth, un geiniog yn y bunt, i roi—. Ac rydych yn dweud 'cyni' oherwydd eich bod yn gwastraffu arian. Mae eich Llywodraeth chi—. Llywodraeth leol—pwy sy'n rheoli llywodraeth leol? Y Blaid Lafur. Dychmygwch: Mynwy a Blaenau Gwent. Meddyliwch am yr awdurdodau hynny. Gwasanaethau Blaenau Gwent i bobl a Mynwy. Mae cronfeydd wrth gefn Mynwy yn dal i fod yn llai na'r hyn sydd gan Fynwy—eu cronfeydd wrth gefn yn y banciau. Pam y maent yn eistedd ar bentyrrau o arian? Pam na roddant y gwasanaethau cyhoeddus yno?
Mae cyngor Caerffili yn codi'r dreth 7 y cant; Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen bron 6 y cant; a Blaenau Gwent ychydig o dan 5 y cant. Rwyf newydd ddweud wrthych: meddyliwch am y cronfeydd wrth gefn a'r gwasanaeth y maent yn ei roi. Dyna un o'r cynghorau tlotaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae codiadau gormodol yn y dreth gyngor wedi cael effaith aruthrol ar aelwydydd Cymru. Mae canolfannau cyngor ar bopeth wedi labelu'r dreth gyngor fel ein problem ddyledion fwyaf yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol wedi ceisio sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen drwy dorri biwrocratiaeth a gwastraff diangen, ond gyda gwasanaethau statudol fel ysgolion a gofal cymdeithasol yn mynd â'r rhan fwyaf o'r gwariant, mae awdurdodau lleol wedi gorfod edrych ar wasanaethau eraill i ysgwyddo baich toriadau. Ddirprwy Lywydd, mae llyfrgelloedd, hebryngwyr croesfannau ysgol, parcio am ddim a chanolfannau hamdden ymhlith y gwasanaethau sydd wedi wynebu toriadau yng Nghymru, gan ennyn gwrthwynebiad cyhoeddus eang.
Ddirprwy Lywydd, mae Llafur wedi gwneud cam â llywodraeth leol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Galwaf ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi ein cynnig a sicrhau setliad gwell a thecach i lywodraeth leol yng Nghymru. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, fel arfer, ni chymerodd Mark Isherwood unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am y penderfyniad gwleidyddol a wnaed i orfodi cyni ar Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Gwnaeth pob siaradwr Torïaidd a'i dilynodd yn union yr un peth yr holl ffordd drwodd. Mae'n wir ddrwg gennyf eich bod wedi eich diflasu i'r fath raddau gan y sgwrs ar gyni fel na allwch weld y dioddefaint y mae'r polisi hwnnw wedi ei achosi i bobl Cymru a'r cynghorau sy'n darparu eu gwasanaethau sydd dan bwysau. Ar y llaw arall, darparodd Lynne Neagle ddadansoddiad realistig iawn o wir ddiben yr hyn yr ydym yma i'w drafod mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Fe ddechreuoch chi'r ddadl ar y pwynt hwnnw. Eisteddais a gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud, a dyna a ddywedasoch at ei gilydd.
Mae gwasanaethau llywodraeth leol yn cael effaith ar fywydau pawb ohonom. Maent yn darparu ysgolion ar gyfer ein plant a gofal i'n cymdogion sy'n agored i niwed. Maent yn creu'r mannau gwaraidd lle gallwn fyw a gweithio a bod yn gymdeithasol. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr her sy'n wynebu llywodraeth leol ar hyn o bryd. Gosodasom ein cyllideb ddrafft yn erbyn un o'r cyfnodau hwyaf o gyni parhaus o fewn cof. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi torri'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan ddilyn ymrwymiad ideolegol i leihau rôl llywodraeth yn ein bywydau. Rydym bellach yn wynebu canlyniadau'r penderfyniadau hynny. Mae'r penderfyniad hwn wedi cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb. Yn erbyn y cefndir hwnnw, rydym wedi parhau i amddiffyn llywodraeth leol orau y gallwn rhag effeithiau'r cyni hwnnw.
Yn 2019-20 bydd awdurdodau lleol yn cael £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 0.2 y cant ar sail debyg am debyg o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Yn unol â'n hymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddarparu cyllid ar gyfer y setliad gwaelodol, mae'r setliad yn cynnwys swm a ariannwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru o £3.5 miliwn i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn gorfod ymdopi â didyniad o fwy na 0.3 y cant yn ei gyllid cyfansymiol allanol y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs nid yw hyn yn ddigon i gynnal y lefel o wasanaethau lleol y byddem oll yn dymuno eu gweld, ond rydym wedi blaenoriaethu llywodraeth leol. Mae ein hymrwymiadau i wariant y GIG yng Nghymru yn hysbys ac yn ddealladwy; wedi i'r rheini gael eu diwallu, rydym wedi rhoi'r flaenoriaeth uchaf i lywodraeth leol.
Yn y cylch cyllidebol diwethaf, pan ryddhaodd Llywodraeth y DU fwy o arian rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, dyrannwyd arian ychwanegol gennym i lywodraeth leol fel rhan o'r broses o droi gostyngiad o £43 miliwn yn y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn gynnydd o £10 miliwn. Rydym wedi cydnabod yn ein penderfyniadau ariannu y meysydd penodol lle mae llywodraeth leol wedi dweud bod y pwysau arnynt ar ei waethaf, megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyflogau athrawon. Oddi allan i'r setliad llywodraeth leol, darperir dros £900 miliwn o arian grant hefyd i gefnogi gwasanaethau awdurdod lleol yn 2019-20. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn drwy'r byrddau partneriaeth iechyd a llywodraeth leol, lle mae iechyd a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddasom arian ychwanegol hefyd uwchlaw terfyn uchaf y swm canlyniadol Barnett a gafwyd gan Lywodraeth y DU i alluogi awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol newidiadau pensiwn Llywodraeth y DU ar gyfer athrawon a diffoddwyr tân.
Rydym wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad gorau posibl i lywodraeth leol, ond rydym yn cydnabod bod y setliad yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol mewn perthynas â phethau megis poblogaethau sy'n heneiddio, dyfarniadau tâl a phwysau chwyddiant o fathau eraill. Mae hyn yn wir wedi golygu bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd yn ein cynghorau. Wrth bennu eu cyllidebau, bydd cynghorau wedi bod yn ystyried yr holl ffynonellau ariannu, cynlluniau effeithlonrwydd, cynhyrchu incwm a rheoli cronfeydd wrth gefn, yn ogystal â blaenoriaethau a phwysau lleol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau'n lleol.
Rwy'n cytuno â Rhun ap Iorwerth fod angen dileu pwynt 4 yn y cynnig. Nid yw'n adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa gyda'r dreth gyngor. Yn wir, mae lefelau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo band E yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn is na rhai Lloegr, a dyna y mae gwelliant y Llywodraeth yn ceisio ei egluro. Bydd cynghorau'n cynnwys pobl leol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut y gwerir adnoddau lleol a pha wasanaethau a ddarperir. Mae dewisiadau anodd yn anochel. Hoffwn dalu teyrnged i'r cynghorwyr sy'n cymryd rhan yn y penderfyniadau anodd hyn ac yn gweithio'n galed i wella'r gwasanaethau y mae awdurdodau yn eu darparu.
Yn wahanol i Loegr, rydym yn parhau i roi hyblygrwydd i awdurdodau Cymru bennu eu cyllidebau eu hunain a lefelau'r dreth gyngor er mwyn helpu i reoli'r heriau ariannol y maent yn eu hwynebu—hyblygrwydd nad yw wedi bod ar gael i'w cymheiriaid yn Lloegr. Nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gynnal refferenda lleol costus, ac nid yw'r arian a godir drwy'r dreth gyngor wedi'i glustnodi at ddibenion penodol.
Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal system genedlaethol o gymorth y dreth gyngor ar gyfer y rhai lleiaf tebygol o allu talu. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau llawn ar gyfer cymorth y dreth gyngor o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Unwaith eto, rydym yn darparu £244 miliwn ar gyfer ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y setliad llywodraeth leol. Mae hyn yn sicrhau bod bron i 300,000 o aelwydydd incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu dyled treth gyngor, yn groes i'r hyn a ddywedwyd ar y meinciau gyferbyn. O'r rhain, bydd 220,000 yn parhau i osgoi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Rydym yn gwneud cynnydd ar wneud y dreth gyngor yn decach. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf.
Hefyd rwy'n cefnogi egwyddor gwelliant Rhun ap Iorwerth yn galw am setliadau mwy hirdymor i gefnogi cynlluniau mwy hirdymor. Rydym yn cydnabod ac yn cydymdeimlo â'r galwadau oddi wrth ein partneriaid sector cyhoeddus am gyllidebu dros gyfnod hwy lle bo'n bosibl i gefnogi blaengynllunio ariannol, a'n huchelgais bob amser yw cyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol yng ngoleuni'r ansicrwydd cyllidol parhaus, parhad y polisi cyni gan Lywodraeth y DU, a'r ansicrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau Brexit blêr sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad ariannu gan Lywodraeth y DU y tu hwnt i 2019-20 ar gyfer refeniw a 2020-21 ar gyfer cyfalaf, a dyna pam y mae'n rhaid imi wrthwynebu gwelliant rhif 3 yn anfoddog, er fy mod yn cefnogi'r egwyddor yn llwyr.
Nid wyf yn cefnogi'r alwad am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu. Adolygir y fformiwla ariannu yn flynyddol drwy gyfrwng partneriaeth rhwng llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r sail resymegol sylfaenol ar gyfer y fformiwla ddosbarthu yn syml. Mae'n defnyddio dangosyddion o angen cymharol, na ddylanwadir arnynt gan ddewisiadau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys ffactorau demograffig, dangosyddion amddifadedd a theneurwydd y boblogaeth. Lle mae'r data ar gyfer y dangosyddion hyn yn newid, mae'r dosbarthiad yn newid hefyd. Bob blwyddyn, rydym yn adnewyddu ac yn profi arwyddocâd dangosyddion presennol a dangosyddion a gynigir o'r newydd.
Rwyf wedi dweud droeon, ac rwyf am ei ddweud eto, os oes gan unrhyw un mewn llywodraeth leol neu yn y Cynulliad hwn neu yn y byd ehangach argymhellion rhesymegol o blaid dangosyddion newydd neu ddangosyddion gwahanol o angen gwariant, gofynnaf i hynny gael ei ystyried yn ein hadolygiad parhaus o'r fformiwla ddosbarthu ochr yn ochr â llywodraeth leol y mae gennyf berthynas waith dda iawn â hwy. Caf rywfaint o gysur yn y ffaith, fodd bynnag, fod ardaloedd trefol yn parhau i deimlo bod y fformiwla yn ffafrio'r gwledig ac i'r gwrthwyneb, fod ardaloedd deheuol yn teimlo bod y gogledd yn cael eu ffafrio ac fel arall, a bod ardaloedd tlawd yn teimlo bod y ffyniannus yn elwa, ac i'r gwrthwyneb, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llywodraeth leol a'r Llywodraeth hon wedi cytuno, mewn partneriaeth, sut beth yw'r fformiwla honno, ac roedd rhai o'r bobl y sonioch chi amdanynt yn eistedd wrth fy ochr yng ngweithgor y fformiwla ddosbarthu rai wythnosau yn ôl. Ac roedd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn bresennol hefyd, a chawsom gyfarfod da iawn, lle cafwyd consensws yn sicr.
Ni chaf unrhyw gysur o'r gamwybodaeth a'r gamddealltwriaeth sydd ynghlwm wrth y fformiwla hon. Mae gennym gyfrifoldeb i egluro sut y mae'n gweithio, ac mae hynny'n wir am bob Aelod Cynulliad, pob arweinydd cyngor a phrif weithredwr. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan ar y pwynt hwn y byddwn yn cynnig sesiynau briffio technegol ar union natur y fformiwla, ei phwysoliad a sut y mae'n gweithio, i bob Aelod Cynulliad, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau neu mewn unrhyw ffordd a fyddai'n sicrhau'r budd mwyaf i chi. Credaf ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i ddeall y fformiwla a gwneud iddi weithio, ac ni allwn ei throsglwyddo i ryw banel annibynnol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo'n gryf iawn y dylid cynorthwyo llywodraeth leol i wrthsefyll cyni. Teimlaf fod angen inni fod yn realistig am y toriadau yn y grant i'r Llywodraeth hon sy'n cyfateb i £800 miliwn y flwyddyn. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i amddiffyn llywodraeth leol. Maent wedi gweithio'n dda iawn gyda mi yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, ac rwy'n talu teyrnged i'w dyfalbarhad cyson yn darparu gwasanaethau yn wyneb y cyni parhaus hwn. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch. Cyn dirwyn y ddadl hon i ben, hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau ar draws y Siambr am gyfrannu at y ddadl amserol iawn hon. Wedi'r cyfan, bydd ein hetholwyr a theuluoedd gweithgar a phensiynwyr yn cael y biliau treth gyngor mawr hynny erbyn hyn. Nawr, llywodraeth leol yw'r sylfaen ar gyfer darparu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol iawn, ac mae mewn cysylltiad agos iawn â'r bobl y cawsom ninnau hefyd ein hethol i'w cynrychioli. Nawr, er bod data newydd wedi'i ryddhau gan Swyddfa Archwilio Cymru a StatsCymru, mae'r materion a glywsom heddiw yn rhy gyfarwydd o lawer. Maent yn dweud bod angen ailwampio cyllid llywodraeth leol mewn modd cynhwysfawr. Fel y dywedodd yr archwilydd cyffredinol:
mae'n bwysig nad yw cynghorau'n ychwanegu'n ddiangen at y baich a roddir ar dalwyr y dreth gyngor, drwy godi mwy o incwm drwy'r dreth gyngor nag sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau'r cyngor.
Yn bwysicach na dim, lle mae cynghorau'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn—ac maent yn dweud hyn—mae'n hanfodol fod y ffigurau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn eu cyllidebau eu hunain.
Nawr, roedd Dai Lloyd a sawl Aelod arall yn beio'r polisi cyni, ac mae'n air a or-ddefnyddiwyd yn helaeth yn y Siambr hon, oherwydd, diolch i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i glirio'r diffyg a etifeddodd—a'i etifeddu a wnaeth, ni allwch wadu hynny—gall ddechrau ad-dalu dyled y DU bellach a chynyddu'r gwariant ar wasanaethau cyhoeddus. Ac ni allwn wadu'r ffaith, am bob £1 a ddarperir i Loegr, y daw £1.20 i Gymru. Felly, nid gofyn a oes arian yn y pot yw diben hyn, ond yn hytrach, sut y gwerir yr arian hwnnw wedyn.
Lle mae cynghorau'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn, crybwyllwyd ei bod hi'n ymddangos yn annheg i lawer o fy etholwyr, pan fyddant yn dweud, 'Wel, maent yn cadw dros £100 miliwn, pam eu bod wedi cael cynnydd o 1 y cant tra bo fy awdurdod lleol yn cadw ceiniogau o'i gymharu â hynny ac maent wedi gweld -0.3 y cant?' A phan gaiff hyn i gyd ei gyfrifo'n ôl yn gynnydd yn y dreth gyngor—wyddoch chi, mae gennym ddemograffeg hŷn; mae mor annheg ac mae mor anghywir. Ond mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, chi yw'r Gweinidog cyntaf mewn wyth mlynedd—credaf fy mod wedi cael pum o Ysgrifenyddion Cabinet dros lywodraeth leol; chi yw'r Gweinidog cyntaf, Julie, sydd wedi cydnabod ein bod yn bryderus ynglŷn â'r fformiwla a'ch bod yn mynd i ddarparu sesiwn friffio dechnegol ac y gallwn gymryd rhan yn sut y teimlwn y dylid mynd i'r afael â'r dangosyddion hynny. Felly, rwyf wedi fy nghalonogi mewn gwirionedd, ac os oedd angen ein dadl i wneud hynny, mae hynny'n newyddion da.
Nawr, fel y nodir yn gyffredinol, mae'r amrywio rhanbarthol rhwng y cronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau yn eithaf syfrdanol. Rhondda Cynon Taf: £152 miliwn. Nawr, gofynnais i'ch rhagflaenydd pam nad oedd y symiau treigl hynny'n cael eu herio. Yr un awdurdodau lleol oedd yn cadw ceiniogau a'r un awdurdodau lleol oedd yn cadw miliynau lawer, ac rwy'n credu o ddifrif—. A hoffwn ofyn i chi fynd ati mewn ffordd wahanol, os gwelwch yn dda, ac edrych yn gyffredinol pwy sy'n cadw, pwy sy'n pentyrru'r arian hwnnw a hefyd yn cael ffigurau setliad da iawn. Amlygwyd hyn gan ymgyrch Cyngor Sir y Fflint, #BackTheAsk, i annog Llywodraeth Cymru i leddfu eu hargyfwng ariannol.
Nawr, beth am fynd ymlaen at gyllid addysg, gan fod Suzy Davies yn hollol gywir i godi'r mater fod yna guddio'n digwydd yno. Pan fo arian yn mynd drwodd i lywodraeth leol nad yw'n cael ei drosglwyddo i'n hysgolion, mae honno'n fwy fyth o sgandal sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mae darparwyr addysg, awdurdodau lleol a hyd yn oed yr undebau yn cynddeiriogi ynglŷn â hyn. Mae'n annirnadwy ac yn gwbl anghyfiawn nad yw £450 miliwn o arian ysgolion yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, unwaith eto, dylech fod yn gweithio'n fwy agos, efallai, gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y cawn yr arian hwnnw i mewn i'r ysgolion hynny, oherwydd mae gennyf athrawon yn awr sy'n gorfod prynu llyfrau, beiros a deunyddiau eraill i'w defnyddio yn eu hysgolion.
Y peth yw, mae gennym broblem yng Nghymru. Mae gennym y cyllid yn dod i Gymru. Mae angen edrych ar y fformiwla llywodraeth leol, a chredaf eich bod yn awyddus i edrych arni, Weinidog. Hefyd, er hynny, credaf fod angen ichi edrych yng nghyllideb y flwyddyn nesaf ar y setliad a roddir i awdurdodau lleol. Y cyfan rwy'n ei ofyn, y cyfan y gofynnwn amdano ar y meinciau hyn: gadewch inni gael rhywfaint o degwch, gadewch inni gael tegwch go iawn o ran y gwariant a dosbarthiad y setliad ar draws ein hawdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.