Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn i gyfrannu i'r ddadl yma ar lywodraeth leol, ac fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dwi yn symud y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Fel cyn-gynghorydd sir yn Abertawe am nifer o flynyddoedd, fel eraill yn y Siambr yma, yr wyf yn deall yn iawn yr heriau ariannol sydd yn wynebu ein siroedd. Wedi dweud hynny, rwyf yn synnu bod y Ceidwadwyr eisiau trafod yr heriau ariannol achos eu polisi nhw o lymder sydd yn dod lawr yr M4 o Lundain sydd wedi achosi'r cwtogi ariannol ar gyllidebau. Mae ein siroedd angen gwir bartneriaeth a chefnogaeth i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth ac mae'n wir i ddweud hefyd fod y Llywodraeth Lafur yma yn y Senedd ddim wastad wedi rhoi blaenoriaeth deilwng i ariannu llywodraeth leol chwaith. Gyda'r berthynas rhwng y Llywodraeth yn fan hyn ac arweinyddion ein siroedd ar brydiau yn gallu bod yn heriol, pwy all beidio ag anghofio cyhuddiad o Oliver Twist o enau Alun Davies, y Gweinidog ar y pryd? A hynny yn esgor ar nifer o gymariaethau tebyg o lyfrau'r byd Dickensian.
Nawr, daeth 22 o siroedd i fodolaeth ym 1996, cynllun y Ceidwadwyr, ac, wrth gwrs, daeth y Cynulliad i fodolaeth ym 1999. Nid ydym erioed wedi cael y drafodaeth synhwyrol, aeddfed o ddisgwyliadau'r ddau wahanol haenen yna o lywodraeth yn fan hyn. Sut allwn ni gydweithio? Hynny yw, y Cynulliad oedd y babi newydd a'r cynghorau oedd hefyd yn newydd. Chawsom ni erioed y drafodaeth aeddfed yna i benderfynu pwy a oedd yn gwneud beth, a sut y gallem ni gydweithio’n well i wella bywyd pobl Cymru. Hynny ydy, mae gennym ni Senedd. Pa weithgaredd, felly, dylai fod yn genedlaethol? Pa weithgaredd a ddylai fod yn rhanbarthol? A pha weithgaredd ddylai ddigwydd yn lleol? Yn ogystal â sut y dylem dalu yn lleol am hyn oll. Nid yw’r dreth gyngor nac ardrethi busnes yn deg o bell ffordd, ac yn gallu lladd mentergarwch. Ond eto, fel dwi wedi ei ddweud droeon yn y Senedd yma dros y blynyddoedd, nid yw Cymru yn cael ei hariannu yn ddigonol o dan Barnett, fel yr oedd am flynyddoedd, o dan y llawr nawr, ta beth. Dydy Cymru ddim yn cael ei hariannu yn ddigonol ta beth. Ac roedd hynny yn wir hyd yn oed cyn i bolisi creulon, dinistriol llymder y Ceidwadwyr ddod i fodolaeth. Cefnogwch ein gwelliannau, felly. Diolch yn fawr.