8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:36, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am ganiatáu hynny. Mae Joyce Watson yn methu'r pwynt yn llwyr yma. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru; mae Llywodraeth Cymru yn lleihau ei chyllid i Gyngor Sir Powys, ac mae Joyce Watson am amddiffyn hynny. Wel, mae hynny'n gwbl syfrdanol i rywun a ddylai fod yn amddiffyn ei hardal etholaethol ei hun.