8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:39, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nick, rwy'n gyfarwydd iawn â'r fformiwla llywodraeth leol, ac mae teneurwydd poblogaeth eisoes yn cael ei ystyried, felly nid oes pwynt i chi fynd ar drywydd hynny. Nid wyf yn credu y byddai gan unrhyw AC Llafur neu Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw beth i'w ofni o adolygiad o'r modd y dyrennir cyllid, ond yn syml iawn, nid dyna lle mae'r broblem ar hyn o bryd. Mae'r broblem yn 11 Stryd Downing; dyna lle penderfynwyd ar ddiffyg o £1 biliwn i Gymru, a dyna lle cafodd cyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ei dorri at yr asgwrn. Y flwyddyn nesaf, ni fydd 168 o gynghorau yn Lloegr yn cael unrhyw arian Llywodraeth ganolog o gwbl, ac erbyn 2025, mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn amcangyfrif y bydd bwlch ariannu o £8 biliwn yn bodoli i gynghorau yn Lloegr. Beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu colli swyddi, preifateiddio ar raddfa eang, cau llyfrgelloedd a hyd yn oed yn awr, y posibilrwydd o ddiwrnodau ysgol byrrach. Os mai dyna yw gweledigaeth y Torïaid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, yna gadewch inni o leiaf fod yn onest am hynny.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru a'r cynghorau'n gweithio galed ac yn gweithio gyda'i gilydd i gadw gwasanaethau'n gynaliadwy. Roeddwn yn croesawu'r symud i ddyrannu adnoddau ychwanegol i gynghorau yn y gyllideb derfynol, gan gyflawni'r addewid mai hwy a fyddai'n gyntaf yn y ciw am unrhyw arian ychwanegol. Ond nid yw hynny ond wedi symud y dewisiadau ariannol o fod yn amhosibl i fod yn annymunol. Mae'r pwysau yno o hyd, a dyna pam y mae angen inni gael dadl wirioneddol onest am lywodraeth leol a chyllid, nid un sy'n seiliedig ar y prosbectws ffug ger ein bron heddiw. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd, dewr ac arloesol yn aml a wneir ar lefel leol er mwyn lleihau'r toriadau a'r codiadau treth anochel. Mae'r syniad fod cynghorwyr lleol yn falch o'r cyfle i godi'r dreth gyngor er mwyn cadw ein hysgolion ar agor drwy ddiwrnod llawn yn anfaddeuol.

Mae gwleidyddiaeth yn fyd cystadleuol, ond ni ddylem byth feirniadu cyngor o unrhyw liw sy'n penderfynu blaenoriaethu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd ceir consensws yn y Cynulliad, ac yn y wlad, y dylent fod yn flaenoriaethau i gynghorau ledled Cymru. Rwy'n falch fod hyn yn digwydd yn Nhorfaen o dan gyngor Llafur, a bod addysg yn cael ei chydnabod fel eu gwasanaeth ataliol pwysicaf. Hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Llafur Cyngor Torfaen, i'r holl gynghorwyr Llafur yn Nhorfaen, ac yn wir, i'r holl gynghorau ledled Cymru sy'n gweithio mor galed i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiad toriadau Torïaidd. Mae addysg a gofal cymdeithasol yn flaenoriaethau cenedlaethol ac maent yn flaenoriaethau lleol. Dylem fod yn ddigon dewr i gefnogi'r rhai sy'n gwneud y dewisiadau anodd, nid diraddio ein system wleidyddol ymhellach drwy esgus y gallwch dorri cyllidebau, torri trethi a chadw gwasanaethau. Celwydd gwleidyddol rhad yw dweud y gallwch wneud hynny.

Mae angen inni newid termau'r ddadl ynglŷn â llywodraeth leol os ydym o ddifrif eisiau gwella'r gwasanaethau sydd agosaf at y rhai a gynrychiolwn. Mae angen trafodaeth gadarnhaol am alluogi arloesedd, cynllunio ariannol a chymorth ar gyfer arweinyddiaeth ar bob lefel o lywodraeth leol, ond yn anad dim, mae angen rhoi diwedd ar gyni Torïaidd, ac nid yw'r cynnig heddiw yn gwneud dim i hyrwyddo'r agenda honno.