Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 27 Mawrth 2019.
A fyddech yn derbyn nad yw pobl yn deall ychwaith, oherwydd bod treth gyngor yn gyfran lai o'r swm a werir yn lleol—dywedwch ei fod, wn i ddim, yn 15 neu'n 20 y cant, beth bynnag ydyw—bydd gostyngiad o 1 y cant yn y grant cynnal refeniw sy'n mynd i awdurdod lleol yn arwain at gynnydd anghymesur o 5 i 10 y cant yn y dreth gyngor honno?