8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:01, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, fel arfer, ni chymerodd Mark Isherwood unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am y penderfyniad gwleidyddol a wnaed i orfodi cyni ar Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Gwnaeth pob siaradwr Torïaidd a'i dilynodd yn union yr un peth yr holl ffordd drwodd. Mae'n wir ddrwg gennyf eich bod wedi eich diflasu i'r fath raddau gan y sgwrs ar gyni fel na allwch weld y dioddefaint y mae'r polisi hwnnw wedi ei achosi i bobl Cymru a'r cynghorau sy'n darparu eu gwasanaethau sydd dan bwysau. Ar y llaw arall, darparodd Lynne Neagle ddadansoddiad realistig iawn o wir ddiben yr hyn yr ydym yma i'w drafod mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Fe ddechreuoch chi'r ddadl ar y pwynt hwnnw. Eisteddais a gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud, a dyna a ddywedasoch at ei gilydd.

Mae gwasanaethau llywodraeth leol yn cael effaith ar fywydau pawb ohonom. Maent yn darparu ysgolion ar gyfer ein plant a gofal i'n cymdogion sy'n agored i niwed. Maent yn creu'r mannau gwaraidd lle gallwn fyw a gweithio a bod yn gymdeithasol. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr her sy'n wynebu llywodraeth leol ar hyn o bryd. Gosodasom ein cyllideb ddrafft yn erbyn un o'r cyfnodau hwyaf o gyni parhaus o fewn cof. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi torri'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan ddilyn ymrwymiad ideolegol i leihau rôl llywodraeth yn ein bywydau. Rydym bellach yn wynebu canlyniadau'r penderfyniadau hynny. Mae'r penderfyniad hwn wedi cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb. Yn erbyn y cefndir hwnnw, rydym wedi parhau i amddiffyn llywodraeth leol orau y gallwn rhag effeithiau'r cyni hwnnw.

Yn 2019-20 bydd awdurdodau lleol yn cael £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 0.2 y cant ar sail debyg am debyg o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Yn unol â'n hymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddarparu cyllid ar gyfer y setliad gwaelodol, mae'r setliad yn cynnwys swm a ariannwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru o £3.5 miliwn i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn gorfod ymdopi â didyniad o fwy na 0.3 y cant yn ei gyllid cyfansymiol allanol y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs nid yw hyn yn ddigon i gynnal y lefel o wasanaethau lleol y byddem oll yn dymuno eu gweld, ond rydym wedi blaenoriaethu llywodraeth leol. Mae ein hymrwymiadau i wariant y GIG yng Nghymru yn hysbys ac yn ddealladwy; wedi i'r rheini gael eu diwallu, rydym wedi rhoi'r flaenoriaeth uchaf i lywodraeth leol.

Yn y cylch cyllidebol diwethaf, pan ryddhaodd Llywodraeth y DU fwy o arian rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, dyrannwyd arian ychwanegol gennym i lywodraeth leol fel rhan o'r broses o droi gostyngiad o £43 miliwn yn y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn gynnydd o £10 miliwn. Rydym wedi cydnabod yn ein penderfyniadau ariannu y meysydd penodol lle mae llywodraeth leol wedi dweud bod y pwysau arnynt ar ei waethaf, megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyflogau athrawon. Oddi allan i'r setliad llywodraeth leol, darperir dros £900 miliwn o arian grant hefyd i gefnogi gwasanaethau awdurdod lleol yn 2019-20. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn drwy'r byrddau partneriaeth iechyd a llywodraeth leol, lle mae iechyd a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddasom arian ychwanegol hefyd uwchlaw terfyn uchaf y swm canlyniadol Barnett a gafwyd gan Lywodraeth y DU i alluogi awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol newidiadau pensiwn Llywodraeth y DU ar gyfer athrawon a diffoddwyr tân.

Rydym wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad gorau posibl i lywodraeth leol, ond rydym yn cydnabod bod y setliad yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol mewn perthynas â phethau megis poblogaethau sy'n heneiddio, dyfarniadau tâl a phwysau chwyddiant o fathau eraill. Mae hyn yn wir wedi golygu bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd yn ein cynghorau. Wrth bennu eu cyllidebau, bydd cynghorau wedi bod yn ystyried yr holl ffynonellau ariannu, cynlluniau effeithlonrwydd, cynhyrchu incwm a rheoli cronfeydd wrth gefn, yn ogystal â blaenoriaethau a phwysau lleol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau'n lleol.

Rwy'n cytuno â Rhun ap Iorwerth fod angen dileu pwynt 4 yn y cynnig. Nid yw'n adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa gyda'r dreth gyngor. Yn wir, mae lefelau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo band E yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn is na rhai Lloegr, a dyna y mae gwelliant y Llywodraeth yn ceisio ei egluro. Bydd cynghorau'n cynnwys pobl leol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut y gwerir adnoddau lleol a pha wasanaethau a ddarperir. Mae dewisiadau anodd yn anochel. Hoffwn dalu teyrnged i'r cynghorwyr sy'n cymryd rhan yn y penderfyniadau anodd hyn ac yn gweithio'n galed i wella'r gwasanaethau y mae awdurdodau yn eu darparu.

Yn wahanol i Loegr, rydym yn parhau i roi hyblygrwydd i awdurdodau Cymru bennu eu cyllidebau eu hunain a lefelau'r dreth gyngor er mwyn helpu i reoli'r heriau ariannol y maent yn eu hwynebu—hyblygrwydd nad yw wedi bod ar gael i'w cymheiriaid yn Lloegr. Nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gynnal refferenda lleol costus, ac nid yw'r arian a godir drwy'r dreth gyngor wedi'i glustnodi at ddibenion penodol.

Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal system genedlaethol o gymorth y dreth gyngor ar gyfer y rhai lleiaf tebygol o allu talu. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau llawn ar gyfer cymorth y dreth gyngor o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Unwaith eto, rydym yn darparu £244 miliwn ar gyfer ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y setliad llywodraeth leol. Mae hyn yn sicrhau bod bron i 300,000 o aelwydydd incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu dyled treth gyngor, yn groes i'r hyn a ddywedwyd ar y meinciau gyferbyn. O'r rhain, bydd 220,000 yn parhau i osgoi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Rydym yn gwneud cynnydd ar wneud y dreth gyngor yn decach. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf.

Hefyd rwy'n cefnogi egwyddor gwelliant Rhun ap Iorwerth yn galw am setliadau mwy hirdymor i gefnogi cynlluniau mwy hirdymor. Rydym yn cydnabod ac yn cydymdeimlo â'r galwadau oddi wrth ein partneriaid sector cyhoeddus am gyllidebu dros gyfnod hwy lle bo'n bosibl i gefnogi blaengynllunio ariannol, a'n huchelgais bob amser yw cyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol yng ngoleuni'r ansicrwydd cyllidol parhaus, parhad y polisi cyni gan Lywodraeth y DU, a'r ansicrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau Brexit blêr sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad ariannu gan Lywodraeth y DU y tu hwnt i 2019-20 ar gyfer refeniw a 2020-21 ar gyfer cyfalaf, a dyna pam y mae'n rhaid imi wrthwynebu gwelliant rhif 3 yn anfoddog, er fy mod yn cefnogi'r egwyddor yn llwyr.

Nid wyf yn cefnogi'r alwad am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu. Adolygir y fformiwla ariannu yn flynyddol drwy gyfrwng partneriaeth rhwng llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r sail resymegol sylfaenol ar gyfer y fformiwla ddosbarthu yn syml. Mae'n defnyddio dangosyddion o angen cymharol, na ddylanwadir arnynt gan ddewisiadau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys ffactorau demograffig, dangosyddion amddifadedd a theneurwydd y boblogaeth. Lle mae'r data ar gyfer y dangosyddion hyn yn newid, mae'r dosbarthiad yn newid hefyd. Bob blwyddyn, rydym yn adnewyddu ac yn profi arwyddocâd dangosyddion presennol a dangosyddion a gynigir o'r newydd.

Rwyf wedi dweud droeon, ac rwyf am ei ddweud eto, os oes gan unrhyw un mewn llywodraeth leol neu yn y Cynulliad hwn neu yn y byd ehangach argymhellion rhesymegol o blaid dangosyddion newydd neu ddangosyddion gwahanol o angen gwariant, gofynnaf i hynny gael ei ystyried yn ein hadolygiad parhaus o'r fformiwla ddosbarthu ochr yn ochr â llywodraeth leol y mae gennyf berthynas waith dda iawn â hwy. Caf rywfaint o gysur yn y ffaith, fodd bynnag, fod ardaloedd trefol yn parhau i deimlo bod y fformiwla yn ffafrio'r gwledig ac i'r gwrthwyneb, fod ardaloedd deheuol yn teimlo bod y gogledd yn cael eu ffafrio ac fel arall, a bod ardaloedd tlawd yn teimlo bod y ffyniannus yn elwa, ac i'r gwrthwyneb, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llywodraeth leol a'r Llywodraeth hon wedi cytuno, mewn partneriaeth, sut beth yw'r fformiwla honno, ac roedd rhai o'r bobl y sonioch chi amdanynt yn eistedd wrth fy ochr yng ngweithgor y fformiwla ddosbarthu rai wythnosau yn ôl. Ac roedd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn bresennol hefyd, a chawsom gyfarfod da iawn, lle cafwyd consensws yn sicr.

Ni chaf unrhyw gysur o'r gamwybodaeth a'r gamddealltwriaeth sydd ynghlwm wrth y fformiwla hon. Mae gennym gyfrifoldeb i egluro sut y mae'n gweithio, ac mae hynny'n wir am bob Aelod Cynulliad, pob arweinydd cyngor a phrif weithredwr. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan ar y pwynt hwn y byddwn yn cynnig sesiynau briffio technegol ar union natur y fformiwla, ei phwysoliad a sut y mae'n gweithio, i bob Aelod Cynulliad, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau neu mewn unrhyw ffordd a fyddai'n sicrhau'r budd mwyaf i chi. Credaf ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i ddeall y fformiwla a gwneud iddi weithio, ac ni allwn ei throsglwyddo i ryw banel annibynnol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo'n gryf iawn y dylid cynorthwyo llywodraeth leol i wrthsefyll cyni. Teimlaf fod angen inni fod yn realistig am y toriadau yn y grant i'r Llywodraeth hon sy'n cyfateb i £800 miliwn y flwyddyn. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i amddiffyn llywodraeth leol. Maent wedi gweithio'n dda iawn gyda mi yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, ac rwy'n talu teyrnged i'w dyfalbarhad cyson yn darparu gwasanaethau yn wyneb y cyni parhaus hwn. Diolch.