Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 27 Mawrth 2019.
Edrychwch, oherwydd y twyll hwnnw mae hi bellach yn rheidrwydd arnom i fod yn onest wrth bobl ynglŷn â chanlyniadau'r dewisiadau sy'n cael eu gwneud heno. Gallaf weld pam y dywedodd Ysgrifennydd masnach yr wrthblaid y bore yma nad oedd Llafur yn blaid dros aros; ni fyddai Llafur yn cefnogi'r gwelliannau dirymu ac ati, ond nid yn awr yw'r amser i fanteisio'n wleidyddol neu i fod yn amwys. Rhaid i ni wneud ein dewis a'n lleisiau'n glir. Nid wyf am ddweud rhagor am UKIP. Rwy'n falch fod cordon sanitaires yn cael eu hagor rhyngom bellach. Felly, edrychwch, gadewch inni beidio â sôn amdanynt hwy.
O ran y Blaid Geidwadol—mae eich gwelliant, fel eich gwleidyddiaeth, yn wag. Hynny yw, efallai fod 'Peidiwch â chynhyrfu a daliwch ati' yn boster braf, ond nid yw'n strategaeth wleidyddol pan fyddwch yn wynebu wal frics neu ymyl clogwyn.
Y gwelliant mwyaf siomedig, rhaid i mi ddweud unwaith eto, yw un y Llywodraeth. Fel llu o ddatganiadau a gawsom gan Lywodraeth Cymru, mae'n fwy arwyddocaol o ran yr hyn nad yw'n ei ddweud. Nid yw'n sôn am y syniad—y syniad canolog, does bosib—o refferendwm cadarnhau neu bleidlais gyhoeddus. Mae'n methu cydnabod, yn ein barn ni, nad rhwng Brexit meddal neu Brexit caled y mae'r llinell allweddol sy'n rhannu ar y mater allweddol hwn yn ein hanes mwyach; mae'r ddadl wedi symud ymlaen. Rhwng Brexit a dim Brexit y mae'r ddadl bellach. Mae gwelliant y Llywodraeth yn dweud
'beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai'r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a'r 27 gwladwriaeth arall sy'n rhan o'r UE.'
Cytunaf yn llwyr â hynny. Ond does bosib nad y berthynas agosaf bosibl yw aros o fewn yr UE, ac os credwch hynny, dywedwch hynny.
Mae ein gwelliant yn ymgais onest i unioni'r hepgoriad hwn. Wrth i San Steffan gynnal ei phleidleisiau dangosol ei hun, mae angen inni ddynodi yma, heno, ein bod yn barod i wneud ein rhan. Nid yw'n ddigon inni alw ar Lywodraeth y DU i wneud paratoadau ar gyfer pleidlais y bobl; mae gennym ninnau gyfrifoldeb hefyd. Mae angen inni baratoi—paratoi'r ddadl—felly gadewch i ni basio'r gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth a chyfarfod yr wythnos hon, fel arweinwyr ein pleidiau, yn drawsbleidiol, ac adeiladu'r ymgyrch dros y refferendwm a dechrau cynllunio hefyd ar gyfer ennill yr ymgyrch honno. Pa gyferbyniad mwy â'r gyfres o raniadau a welwn yn San Steffan heno na tharo nodyn o undod yma yng Nghymru?