Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, Ebrill yw'r mis pan ein bod ni'n aml yn gweld cynnydd yn nifer y tanau glaswellt. Yn anffodus, mae mwyafrif llethol y tanau glaswellt yng Nghymru yn cael eu cynnau'n fwriadol. A allwch chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pobl am beryglon cynnau tanau glaswellt?