1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 2 Ebrill 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch Llywydd. Neithiwr, gwrthododd Tŷ'r Cyffredin y syniad o refferendwm cadarnhau fel modd o ddatrys y diffyg cytundeb seneddol o ddim ond 12 o bleidleisiau. A yw'r Prif Weinidog yn ymuno â mi i resynu at y ffaith bod 24 o ASau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn? Pe bydden nhw wedi pleidleisio yn unol, wrth gwrs, â pholisi'r Blaid Lafur a'r chwip Llafur neithiwr yn wir, byddai wedi rhoi mwyafrif eglur o blaid pleidlais y bobl. Yn benodol, a ydych chi'n gresynu, fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, bod eich dirprwy, Carolyn Harris AS, wedi methu â chefnogi polisi'r blaid? Ac a ydych chi'n o'r farn bod ei swydd fel dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn anghynaladwy erbyn hyn?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud fy mod i'n gresynu at y ffaith na lwyddodd Tŷ'r Cyffredin i ddod o hyd i fwyafrif dros unrhyw un o'r cynigion a roddwyd ger ei fron neithiwr. Roeddwn i'n falch iawn bod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur—mai ein safbwyntiau yn Nhŷ'r Cyffredin oedd cefnogi marchnad gyffredin 2.0 a'r cynnig y mae Adam Price wedi cyfeirio ato, oherwydd mae hwnnw'n gwbl gyson â'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hyrwyddo dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Y neges yr hoffwn i ei roi i Aelodau Seneddol o bob plaid yw hon: rydym ni'n wynebu'r adeg fwyaf difrifol yn y daith Brexit gyfan hon, lle ceir perygl o ddisgyn allan o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gyda'r holl effeithiau trychinebus y gwyddom fod Syr Mark Sedwill wedi rhybuddio Cabinet y DU amdanyn nhw y bore yma, y byddai'r risgiau hynny yn troi'n realiti i bobl yng Nghymru. Ac o wynebu'r realiti hwnnw, yr hyn yr wyf i'n ei annog Aelodau Seneddol i'w wneud yw peidio â pharhau i fod yn barod i gefnogi dim ond yr un dewis sydd agosaf i'w dymuniad nhw, ond i fod yn barod i bleidleisio o blaid amrywiaeth o bosibiliadau sy'n lliniaru'r risg honno ac sy'n ein harwain at fath o Brexit neu ail refferendwm, a fyddai'n gallu diogelu buddiannau pobl nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.
Rwy'n sylwi na wnaeth y Prif Weinidog ymateb i fy nghwestiwn penodol, a gwn ei bod wedi dod yn arferol, yn ddiweddar, i arweinwyr a dirprwy arweinwyr yn y Blaid Lafur fod â safbwyntiau cwbl groes, ond nid oeddwn i'n ymwybodol tan nawr ei bod hi'n ymddangos bod yr haint hwnnw yn effeithio ar y Blaid Lafur yng Nghymru erbyn hyn. Rwy'n dehongli'r ffaith na wnaeth ateb nad oes ganddo ffydd llawn yn nirprwy arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
Cyfeiriodd at lythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu canlyniadau Brexit 'dim cytundeb'. Yn wir, rydych chi eich hun wedi disgrifio'r sefyllfa honno fel un drychinebus. Yng ngoleuni hynny, a allwch chi ddweud pam wnaethoch chi ac, yn wir, eich cydweithwyr mainc flaen yn San Steffan—mewn cyferbyniad, mae'n rhaid dweud, â nifer sylweddol iawn o ASau Llafur ar y meinciau cefn—benderfynu peidio â chefnogi gwelliant dirymiad, a fyddai, o leiaf, yn rhoi seibiant brys i ni atal y drychineb yr ydych chi'n ei disgrifio?
Mae'n debyg bod Prif Weinidog y DU, y bore yma, wedi briffio'r Cabinet os caiff ei chytundeb ei wrthod unwaith yn rhagor, yna bydd y dewis rhwng dim cytundeb a dirymu, a bod yn well ganddi ddim cytundeb yn y sefyllfa honno. Os mai dyna yw'r dewis yr ydym ni'n ei wynebu, mewn mater o ddyddiau o bosibl, a wnewch chi a'ch plaid barhau i wrthwynebu dirymu pan allai fod yr unig achubiaeth sydd ar ôl?
Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau ystyried difrifoldeb dwfn y penderfyniad o ddirymu, oherwydd roedd dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn eglur iawn ynghylch yr hyn y byddai dirymu yn ei olygu. Ni ellir defnyddio dirymu fel tacteg. Ni ellir defnyddio dirymu i brynu amser ar gyfer trafodaethau pellach. Roedd dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn dweud y gallai unrhyw aelod-wladwriaeth a fyddai'n defnyddio dirymu wneud hynny dim ond ar y sail ei fod—a dyma ddywedodd y llys—yn ddiamwys ac yn ddiamod. Mewn geiriau eraill, byddai dirymiad yn gwyrdroi'r refferendwm. Byddai'n gwrthdroi'r refferendwm heb y posibilrwydd o fynd yn ôl i ofyn i bobl yn y wlad hon beth oedd eu barn ar y penderfyniad hwnnw. Byddai'n rhaid iddo fod yn ddiamwys ac yn ddiamod. Rydych chi'n cael gwared ar y bwriad i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd na allech chi fynd ymlaen i'w gwrthdroi. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall difrifoldeb y cam hwnnw.
Nawr, mae Adam Price yn gofyn i mi beth fyddai fy marn, o leiaf, pe byddem ni yn y funud olaf honno pan mai'r unig ddewis fyddai rhwng Brexit disgyn allan neu ddirymu. Oherwydd yr effaith ddifrifol y byddai Brexit disgyn allan yn ei chael ar bobl yma yng Nghymru, ar yr adeg honno, pe byddwn i'n bwrw pleidlais, byddwn yn ei bwrw dros ddirymu, gan fod y canlyniadau mor drychinebus i deuluoedd yng Nghymru. Ond i mi, byddai'n rhaid iddi fod yn sicr ein bod ni'n gwybod ein bod ni yn y funud olaf honno, gan fod canlyniadau cyfansoddiadol a gwleidyddol defnyddio'r cam gweithredu hwnnw yn hynod, hynod ddifrifol.
Rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud, ac rwy'n ei annog nawr i gyfleu'r neges honno ar ddirymu fel modd terfynol o osgoi trychineb, a hefyd i annog dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru yn y fan yma i bleidleisio o blaid yr ail refferendwm, oherwydd, fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei dderbyn, mae canlyniadau diffyg gweithredu ar y cyfnod hwn o ymatal yn wirioneddol rhy erchyll i ni eu hystyried.
A gaf i droi at fater arall? Yr wythnos diwethaf, canfu'r Uchel Lys bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac wedi torri'r addewid o annibyniaeth o ran yr ymchwiliad gan Paul Bowen QC, a wnaed mewn datganiad i'r wasg ar 10 Tachwedd y llynedd. A allwch chi gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn dyfarniad y llys yn llawn, a pha un a ydych chi wedi ymddiheuro i'r teulu Sargeant neu'n bwriadu gwneud hynny? A ydych chi'n bwriadu hepgor eich hawl i apelio? A allwch chi ddweud wrth y Senedd sut yr ydych chi'n bwriadu ymateb yn fanwl i'r dyfarniad yn yr achos o ran y trefniadau a oedd yn llywodraethu'r ymchwiliad? Yn arbennig, a ydych chi'n bwriadu derbyn yr awgrym a wnaed yn y dyfarniad bod y Llywydd yn enwebu unigolyn i wneud penderfyniadau terfynol ar brotocol gweithredu'r ymchwiliad, neu, fel yr awgrymwyd gan Mr Bowen, bod yr ymchwiliad yn cael ei droi'n ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005?
A allwch chi ddweud pryd y daethoch chi yn bersonol yn ymwybodol gyntaf bod cylch gwaith blaenorol y protocol gweithredol ar gyfer yr ymchwiliad wedi ei roi i'r Ysgrifennydd Parhaol ar 9 Tachwedd, a bod y cyn Brif Weinidog wedi parhau i gael dylanwad uniongyrchol dros y protocol, gan dorri'r addewid o annibyniaeth? Yn olaf, o ystyried y niwed a wnaed i enw da Llywodraeth Cymru am dryloywder, bod yn agored a gonestrwydd, a wnewch chi gyhoeddi fersiwn wedi ei golygu o adroddiad yr ymchwiliad datgeliadau nawr, fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y Senedd ac fel y gofynnwyd yn ddiweddar gan Aelodau meinciau cefn eich plaid eich hun?
Llywydd, gallaf ateb nifer o'r cwestiynau yna. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wrth gwrs yn derbyn dyfarniad yr Uchel Lys yn llawn. Gallaf gadarnhau i mi ddod yn ymwybodol o delerau'r adolygiad barnwrol a'r materion a oedd yn y fantol ynddo gyntaf pan gefais fy mriffio ar y mater hwnnw pan ddeuthum yn Brif Weinidog. Gallaf hefyd gadarnhau fy mod i wrthi'n cael cyngor sylweddol ar yr hyn y mae'r dyfarniad yn ei ddweud a'r camau gweithredu sydd ar gael i mi. Cyn gynted ag y gallaf ddatrys y materion hynny, byddaf yn cyhoeddi datganiad i'r Cynulliad yn nodi fy mhenderfyniadau.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Pam mae eich Llywodraeth wedi methu â chefnogi meddygon teulu ar adeg y maen nhw'n ei disgrifio fel argyfwng i'r proffesiwn?
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi cefnogi meddygon teulu erioed. Dyna pam yr ydym ni wedi llwyddo i gytuno telerau ac amodau newydd a chontractau newydd gyda meddygon teulu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y darparwyd cynnydd sylweddol gennym i'r contract y llynedd, a pham yr oeddem ni eisiau darparu cynnydd sylweddol arall i'r contract ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd—cynnydd o 5.4 y cant yn 2019-20, ymhell y tu hwnt i'r hyn a oedd ar gael i'w cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd ein trafodaethau gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn ailgychwyn, rydym ni'n gobeithio, yn fuan iawn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gytuno â nhw rhagor o fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.
Dewch, Prif Weinidog, ni allwch chi anwybyddu'r hyn y mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthych chi. Lleisiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru ei barn dros y penwythnos gyda'r hyn a ddisgrifiwyd ganddi fel tristwch ynghylch sut yr oedd trafodaethau contract gyda'ch Llywodraeth chi wedi mynd rhagddynt. Dywedodd cadeiryddes y pwyllgor meddygon teulu, Charlotte Jones, bod eich dull cyffredinol o ymgymryd â thrafodaethau wedi bod yn siomedig a bod y canlyniad—dyfynnaf—wedi bod ymhell o fod yn gytundeb lle gallai'r pwyllgor edrych i lygaid meddygon a dweud ei fod yn dda ar gyfer y proffesiwn. Nawr, cyhoeddodd eich Gweinidog ddatganiad ddoe ar lansiad y cynllun ar gyfer indemniad ymarfer meddygol cyffredinol, er iddo gael ei wrthod mor bendant gan y pwyllgor. Mae'r un llais hwn yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu â'i gefnogi ar adeg o argyfwng.
Ond nid yw hyn yn berthnasol i feddygon teulu yn unig, Prif Weinidog. Rydym ni wedi gofyn i chi gymryd camau i fynd i'r afael â'r gostyngiad i nifer y bydwragedd yng Nghymru, ac rydym ni'n gweld bellach ffigurau diweddar, er gwaethaf straen gynyddol ar y GIG, bod gostyngiad i niferoedd staff nyrsio ac ymwelwyr iechyd hefyd. Pam, Prif Weinidog, mae pobl yn cael eu gyrru o'r proffesiwn gofal iechyd yma yng Nghymru? Beth mae hyn yn ei olygu i bobl y wlad a beth ydych chi'n ei wneud am y peth?
Llywydd, gadewch i mi roi ar gofnod i'r Aelodau rywbeth o'r trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda GPC Cymru dros y mis diwethaf, ac yn wir gyda Dr Jones, yr wyf i wedi gweithio â hi, a gwn fod y Gweinidog iechyd presennol wedi gweithio â hi, yn agos iawn ac yn adeiladol iawn dros y blynyddoedd lawer y mae hi wedi darparu arweinyddiaeth i'r gymuned meddygon teulu yng Nghymru. Felly, darparodd Llywodraeth Cymru gyfres o gynigion i Bwyllgor Meddygon Teulu Cymru am y tro cyntaf ddechrau mis Mawrth. Cafwyd sylwadau cychwynnol gan GPC Cymru ar 11 Mawrth ac eto ar 13 Mawrth. Cynhaliwyd trafodaethau pellach ac erbyn 25 Mawrth, roedd y pwyllgor eisiau archwilio cyfres wahanol o syniadau gyda ni. Rydym yn parhau i fod yn barod i wneud hynny. Rydym ni'n edrych ymlaen at gyfarfod arall gyda nhw. Mae arweinydd yr wrthblaid yn gwbl anghywir pan ei fod yn awgrymu bod GPC Cymru wedi gwrthod y cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth yr ydym ni wedi ei gynnig. O ganlyniad iddyn nhw'n dod atom ni i siarad am y pwysau y mae yswiriant indemniad yn ei roi ar feddygon teulu yr ydym ni wedi datblygu cynllun o'r fath, ac wedi gwneud hynny mewn trafodaethau agos iawn gyda'i Lywodraeth ef yn Lloegr, sydd wedi cynnig cynllun tebyg iawn ar gyfer meddygon teulu yn y fan honno. Rydym ni'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny ac am iddyn nhw gael eu cwblhau'n llwyddiannus.
O ran yr ail bwynt a godwyd gan yr Aelod, Llywydd, cyhoeddwyd ffigurau yr wythnos diwethaf ar gyfer staffio yn GIG Cymru. Yn 2017, am y tro cyntaf, aeth nifer y bobl a gyflogir yn GIG Cymru uwchben y marc 90,000. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar yn dangos bod hynny'n 92,500 o bobl, a chynnydd sylweddol arall i nifer y meddygon, i nifer y meddygon ymgynghorol, i nifer y therapyddion, i nifer y staff gwyddonol a thechnegol sy'n gweithio yn y GIG, i nifer y staff ambiwlans. Rwy'n sylwi nad yw'r Aelod yn sôn am yr un o'r rhain. Nid yw'n sôn am yr un o'r grwpiau hynny lle'r ydym ni wedi cael cynnydd sylweddol i nifer y staff yn y GIG. Mae'r ffigurau yn dangos gostyngiad bach iawn i nifer y nyrsys a bydwragedd, ac rydym ni'n ffyddiog iawn y bydd y rhaglenni hyfforddiant sydd gennym ni ar waith, sydd wedi cynyddu'n sylweddol iawn nifer y nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant, yn gwrthdroi'r duedd honno ac y bydd cynnydd i'r niferoedd staffio hynny hefyd yn ystod y 12 mis nesaf.
Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau i chi, Prif Weinidog. Mae ffigurau diweddar o'r arolwg cenedlaethol yn dangos bod bron i hanner y bobl yng Nghymru yn cyfaddef eu bod wedi cael trafferth i weld eu meddyg teulu y llynedd. Mae'r nifer hon wedi cynyddu dros y blynyddoedd. A dyfynnodd eich Gweinidog eich hun y ffigurau hyn mewn datganiad diweddar a gyhoeddwyd ganddo i'r Siambr hon mewn gwirionedd. Nawr, er iddi gael ei rhybuddio am hyn gan gyrff proffesiynol fel Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chael ei herio gennym ni ar y meinciau hyn ar sawl achlysur, mae eich plaid chi wedi anwybyddu hyn i gyd ac wedi methu â mynd i'r afael â'r broblem hon. Gwelsom 15 o feddygfeydd teulu yn cau ledled y wlad y llynedd hyd yn oed. Mae ffigurau boddhad cleifion wedi llithro dros y blynyddoedd, ac mae meddygon cymunedol yn gadael y proffesiwn gyda gostyngiad o bron i 20 y cant ers 2017, gan orfodi meddygfeydd i gau. Nawr, efallai'n wir bod eich Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad diweddar yn cydnabod nad yw disgwyliadau pobl yn cael eu bodloni, ond nid yw'n ddigon da, Prif Weinidog. Sut y byddwch chi'n rhoi sicrwydd yn y fan yma heddiw i bobl Cymru bod eich Llywodraeth yn cefnogi parhad gofal iechyd lleol ym mhob cymuned ar draws y wlad?
Wel, Llywydd, polisi'r Llywodraeth hon yn sicr yw cryfhau'r ddarpariaeth leol o wasanaethau ac i ddod â gwasanaethau yn nes at bobl. Nid yw'n syndod i neb, ar ôl bron i ddegawd o gyni cyllidol, bod gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo pwysau a straen. Ac, wrth gwrs, mae lefelau hyder yn GIG Cymru yn sylweddol uwch na lle mae ei blaid ef yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, yn Lloegr. Ac mae'r ffigurau hynny yn arbennig o wir pan ddaw i ofal sylfaenol. Felly mae e'n gwbl anghywir wrth awgrymu nad yw'r gwasanaethau y mae meddygon teulu yn eu darparu yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cleifion; rydym ni'n gwybod eu bod nhw bob dydd.
Ond, rydym ni hefyd yn gwybod bod yn rhaid i'n cymuned meddygon teulu wneud mwy i fodloni disgwyliadau poblogaethau cleifion cyn belled ag y mae mynediad yn y cwestiwn. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod y ffordd y mae meddygfeydd teulu unigol yn trefnu mynediad yn amrywio'n sylweddol iawn a bod rhai meddygfeydd sydd gryn dipyn yn fwy llwyddiannus o ran dod o hyd i systemau sy'n eu galluogi i fodloni'r galw hwnnw nag eraill. Dyna'r gwaith safonau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd ddim ond rhyw wythnos yn ôl. Mae'n dweud wrth ein cymuned meddygon teulu ein bod ni'n disgwyl, ac mae gan gleifion yr hawl i ddisgwyl, yn gyfnewid am y buddsoddiad sylweddol iawn yr ydym ni'n ei wneud mewn gofal sylfaenol ac yr ydym ni eisiau parhau i'w wneud mewn gofal sylfaenol, y bydd cyfres o safonau cyffredin—os ydych chi'n dibynnu ar y ffôn i gysylltu â'ch meddygfa deulu, y bydd y ffôn hwnnw'n cael ei ateb yn brydlon, os ydych chi'n disgwyl cael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, bod gennych chi ddisgwyliad priodol y bydd y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu'n ddwyieithog, a chyfres o fesurau eraill a nodwyd yn natganiad Vaughan Gething. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r gymuned meddygon teulu i sicrhau'r safonau hynny, oherwydd yn y modd hwnnw, bydd y lefelau uchel iawn o foddhad sydd gan gleifion yng Nghymru gyda'r gwasanaethau hynny yn parhau i gael eu sicrhau.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, Ebrill yw'r mis pan ein bod ni'n aml yn gweld cynnydd yn nifer y tanau glaswellt. Yn anffodus, mae mwyafrif llethol y tanau glaswellt yng Nghymru yn cael eu cynnau'n fwriadol. A allwch chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu pobl am beryglon cynnau tanau glaswellt?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n amserol yn yr ystyr, wrth i ni gychwyn cyfnod y Pasg, ein bod ni'n gwybod bod honno'n aml yn adeg pan fydd nifer y tanau glaswellt yn cynyddu. Bu llwyddiant sylweddol iawn gan ein gwasanaeth tân yng Nghymru yn yr agwedd hon ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud, yn ogystal ag mewn llawer o agweddau eraill, i gymryd mesurau ataliol i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddiogelu'r ardaloedd hynny fel nad oes tanau yn cael eu cynnau yn y lle cyntaf. Rydym ni wedi defnyddio rhywfaint o waith arbrofol, gan ddefnyddio dulliau gwyddor ymddygiadol i ddod o hyd i ffordd o gyfathrebu gyda'r bobl hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yn fwyaf tebygol o gynnau tanau o dan yr amgylchiadau hyn, ac i ddangos rhai o'r risgiau y mae hynny'n eu peri i bobl eraill ac i geisio dylanwadu ar eu hymddygiad yn y ffordd honno. Felly, ein prif ddull yw gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân a defnyddio'r llwyddiant y maen nhw wedi ei gael, ond hefyd i ddod o hyd i ffyrdd eraill y gallwn ni gael mynediad at y grwpiau hynny sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch o'r math hwn a dylanwadu arnyn nhw.
Diolchaf i chi am yr ateb yna. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull da, ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny gan y Llywodraeth pan fydd yr wybodaeth honno gennych. Nawr, mae'r rhan fwyaf o'r tanau hyn, o ran eu natur, yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd gwledig neu uwchben cymunedau yn y Cymoedd. Mae mwyafrif y diffoddwyr tân dan sylw, felly, yn swyddogion tân wrth gefn, sy'n golygu eu bod nhw'n bobl sydd â swyddi eraill hefyd. Ddwy flynedd yn ôl, cawsom ni argyfwng i raddau gyda nifer y diffoddwyr tân wrth gefn yng Nghymru ar ei hisaf erioed. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi diffoddwyr tân wrth gefn a'r cwmnïau sy'n eu cyflogi?
Yn gyntaf oll, Llywydd, a gaf i dalu teyrnged i waith diffoddwyr tân wrth gefn ym mhob rhan o Gymru? Maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol. Maen nhw'n gwneud hynny yn y ffordd y mae Gareth Bennett wedi ei ddweud, yn aml yn rhan o waith arall y maen nhw'n ei wneud. Rydym ni eisiau pwysleisio i'r cyflogwyr hynny y gwasanaeth cyhoeddus y mae'r bobl hynny yn ei ddarparu, a cheisio eu perswadio i wneud eu cyfraniad hwythau hefyd drwy ei gwneud yn rhwydd i bobl a gyflogir o dan yr amgylchiadau hynny i gael eu rhyddhau yn yr achosion brys hynny pan fo angen eu gwasanaethau, ac i ystyried hynny fel cyfraniad y maen nhw, fel cyflogwyr, yn ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus a chyflogwyr preifat hefyd, i ystyried hynny'n rhan o'u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, fel y'i disgrifir fel arfer.
Yn fwy cyffredinol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r ffaith bod llai o danau yng Nghymru, a bod y gwasanaeth tân wedi llwyddo i'r graddau y mae wedi ei wneud i atal problemau rhag codi, yn arwain yn anochel at rai heriau o ran cadw'r gweithlu sydd wedi bod yno yn y gorffennol pan fo'u prif dasg yn lleihau. Yn hyn yr ydym ni wedi bod eisiau ei wneud yng Nghymru yw dod o hyd i ffyrdd eraill y gallwn ni ddefnyddio doniau a sgiliau'r bobl hynny, yn enwedig wrth chwilio am ffyrdd y gallan nhw gynorthwyo gwasanaethau brys eraill, a'r gwasanaeth iechyd yn arbennig.
Unwaith eto, oes, mae llawer yn yr ateb yna y byddwn yn ei groesawu. Mae tanau glaswellt, yn amlwg, yn bla. Maen nhw'n gallu dinistrio cynefinoedd, maen nhw'n lladd da byw ac maen nhw hyd yn oed yn bygwth adeiladau a busnesau. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am yr ochr addysgol mewn ateb cynharach, yr wyf i'n ei groesawu, fel y dywedais. A oes angen strategaeth drawsbynciol, yn mynd ar draws y gwahanol bortffolios gweinidogol, er mwyn ymdrin â'r broblem hon?
Wel, rwy'n berffaith hapus i ystyried hynny, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod hwn yn un o'r meysydd lle mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld yn awgrymu bod y gwaith hwnnw eisoes yn cael ei wneud yn llwyddiannus. Gwn fod y ffordd y mae awdurdodau lleol, yn ogystal â buddiannau addysg, yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill wedi bod wrth wraidd y ffordd yr ydym ni wedi mynd i'r afael â cheisio ymdrin â thanau glaswellt ac enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys llosgi bwriadol sy'n digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu, Llywydd, ei fod yn glod i'r ffordd y mae awdurdodau eisoes yn gweithio ar draws ffiniau a chyda Llywodraeth Cymru ein bod ni wedi gweld y llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld.