Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 2 Ebrill 2019.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi cefnogi meddygon teulu erioed. Dyna pam yr ydym ni wedi llwyddo i gytuno telerau ac amodau newydd a chontractau newydd gyda meddygon teulu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y darparwyd cynnydd sylweddol gennym i'r contract y llynedd, a pham yr oeddem ni eisiau darparu cynnydd sylweddol arall i'r contract ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd—cynnydd o 5.4 y cant yn 2019-20, ymhell y tu hwnt i'r hyn a oedd ar gael i'w cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd ein trafodaethau gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn ailgychwyn, rydym ni'n gobeithio, yn fuan iawn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gytuno â nhw rhagor o fuddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.