10. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru)

– Senedd Cymru am 6:03 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:03, 2 Ebrill 2019

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Deddfwriaeth (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yn ffurfiol. 

Cynnig NDM7024 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:04, 2 Ebrill 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:04, 2 Ebrill 2019

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch.