Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch. Y rheswm dros ofyn y cwestiwn hwn i chi yw fy mod wedi bod yn ymdrin â nifer o achosion o fewn fy etholaeth i lle mae trafnidiaeth uniongyrchol o'u cartref wedi cael ei wrthod i ddisgyblion ysgol, er gwaethaf y straen a achosir gan lawer o deithiau cerdded ar hyd llwybrau coedwig ac ardaloedd eithaf ynysig ar brydiau. Yn ôl adran 3 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, rhaid i awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth y ffaith na ddylai'r trefniadau teithio y maent yn eu gwneud achosi lefelau afresymol o straen. Wel, gallaf ddweud wrthych, yn achos rhai o'r teuluoedd yr wyf yn ymdrin â nhw, mae hyn yn achosi llawer o bryder ynglŷn â diogelwch y plentyn. Ac fe welir fod yr hyn a ystyrir yn ddiogel neu'n anniogel yn oddrychol: ffyrdd wedi'u goleuo'n wael, ffyrdd sy'n gwbl anghysbell, ac rydym yn sôn, mewn rhai achosion, am lonydd fferm a llwybrau coedwig. Felly, mae hyn yn broblem, oherwydd nid oes unrhyw ddiffiniad o straen na rhestr ddiffiniol o ba feini prawf y gellid eu hystyried. Felly, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu sut y gwneir asesiadau straen, yn unol â'u polisi teithio dysgwyr eu hunain. Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog Addysg i ddarparu rhestr o ba feini prawf y dylai'r awdurdodau lleol eu hystyried wrth ymdrin â straen fel mesur, yng nghyd-destun y Mesur 2008 ei hun?