Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Mesur, wrth gwrs, yn rhoi rhwymedigaeth sylfaenol ar awdurdodau lleol i ddarparu trafnidiaeth mewn amgylchiadau penodedig, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac, yn amlwg, yn yr un modd, ceir elfen o ddisgresiwn i awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau o fewn y fframwaith hwnnw. Credaf y bydd yn gwybod bod y Gweinidog Addysg wedi ymrwymo'r Llywodraeth i adnewyddu'r canllawiau gweithredol yn ehangach mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth teithio i ddysgwyr, ac rwy'n siŵr mai dyma'r math o beth fyddai ganddi mewn golwg fel rhan o'r broses ehangach honno.