Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 2 Ebrill 2019.
Yr adran gwasanaethau cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyngor ar faterion cymhleth yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus, cyfraith cyflogaeth a chyfraith fasnachol, drafftio cyfarwyddiadau i Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol i ddrafftio deddfwriaeth sylfaenol, paratoi holl is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ac ymdrin ag ymgyfreitha uchel ei broffil.