Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ffodus i allu troi at dîm o gynghorwyr cyfreithiol ar wahanol faterion. Ond cefais fy synnu braidd, drwy ganlyniadau cais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar, o ganfod bod cyfreithwyr allanol a oedd yn gwneud gwaith ar ran Gweinidogion wedi bod yn cyfarwyddo cwnsleriaid am gost enfawr i drethdalwyr. Er enghraifft, canfûm, yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, bod bron i £1.5 miliwn wedi ei wario gan Lywodraeth Cymru ar fargyfreithwyr. Rwyf i hefyd yn ymwybodol mai hwn yw'r ffigur isaf a roddwyd ar gyfer y gwariant, gan nad yw gwariant ar rai cyfarwyddiadau yn cael eu cofnodi. Nawr, er fy mod i'n sylweddoli bod manylion unrhyw gyfarwyddiadau wedi eu diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol, a wnewch chi esbonio pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau yr ystyrir bod pob cyfarwyddyd yn hanfodol, a bod rhywfaint o dryloywder yn cael ei gyflwyno i'r broses o gaffael cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, fel bod trywydd archwilio wedi'i gostio'n llawn ar gael i'w weld?