Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:34, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r penderfyniad ynghylch pryd i roi cyfarwyddyd i gwnsleriaid yn amlwg yn cael ei wneud yn ofalus iawn ar sail achosion unigol. Rhoddir cyfarwyddyd i gwnsleriaid, er enghraifft, o ran materion lle mae angen eiriolaeth yn y llysoedd uwch, neu lle mae angen cyngor cyfreithiol ar faterion sy'n arbennig o gymhleth neu sy'n codi pwyntiau newydd o gyfraith efallai nad yw cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw iddynt yn y gorffennol. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelod yw bod arbenigedd sylweddol, enfawr, o fewn Llywodraeth Cymru o ran nifer o'r meysydd a amlinellir yn fy nghwestiwn cychwynnol iddi hi, ac, o ganlyniad i hynny, rydym ni'n anfon llai o gyfarwyddiadau i gwnsleriaid nag y byddem ni ei wneud fel arall. Ac rwy'n aml yn clywed bargyfreithwyr sy'n ymarfer yng Nghymru yn dweud wrthyf y bydden nhw'n falch pe byddem ni'n allanoli neu'n anfon mwy o waith allan nag yr ydym ni'n ei wneud efallai. Ond mae'r dyfarniadau hyn yn ddyfarniadau gofalus i fantoli gwerth am arian ar y naill law a'r angen am arbenigedd a lefel yr eiriolaeth sydd ei hangen yn rhai o'r llysoedd uwch ar y llaw arall. Mae hwn yn faes yr wyf i'n ei adolygu'n barhaus, o ran cyfarwyddiadau i fargyfreithwyr a chyfreithwyr fel ei gilydd, ac rwy'n gwneud hynny gyda'r ddau egwyddor hanfodol hynny mewn golwg.