Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 2 Ebrill 2019.
Hoffwn godi mater grant byw'n annibynnol Cymru gyda chi, Trefnydd. Ysgrifennais at Lywodraeth Cymru ganol y mis diwethaf yn gofyn am amserlen glir ar gyfer cynnal asesiadau ac adfer pecynnau ariannol i bobl anabl sydd ar eu colled yn dilyn diddymu'r gronfa byw'n annibynnol. Nid wyf wedi cael ateb eto. Ar ran pobl anabl a'u teuluoedd sydd yn croesawu newid meddwl y Llywodraeth ar y mater hwn, a allwch roi unrhyw arwydd pa bryd fydd y geiriau cynnes hynny'n troi'n weithredoedd? Byddwn yn croesawu datganiad yn fawr.
Rwyf eisiau codi mater tlodi ac esgeulustod yn ein hen ardaloedd diwydiannol, yn enwedig yn y Cymoedd. Mae diweithdra yn rhy uchel, mae'r defnydd o fanciau bwyd yn annerbyniol o uchel, mae'r cyfleoedd yn brin, ac mae gormod o bobl ifanc yn awyddus iawn i adael. I waethygu'r sefyllfa, mae cyni wedi cael effaith lem ar lawer o rwydweithiau cymorth a oedd ar un adeg yn gallu cynnal pobl pan oeddent mewn angen. Mae hyn wedi dod yn fater hollbwysig bellach i lawer o gymunedau. Yn fy nghymorthfeydd stryd yn y Rhondda yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi gweld digon o bobl sy'n teimlo eu bod dan warchae. 'Does gennym ddim byd ar ôl' yw sut y gwnaeth un fenyw ym Maerdy grynhoi pethau. 'Mae ein cymunedau yn cael eu gadael i farw,' meddai un arall. Felly, beth all tasglu'r Cymoedd ei wneud i helpu lleoedd fel y Rhondda, sydd â lefel diweithdra bron ddwywaith yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru a mwy na dwywaith yn uwch na lefel y DU? Mae rhai prosiectau gwych yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr. Sut ellir eu cefnogi yn hytrach na'u llesteirio? A yw hi'n bosib, er enghraifft, neilltuo arian i alluogi awdurdodau lleol i gymryd yn ôl rai o'r gwasanaethau y cefnwyd arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym fod cyni wedi dod i ben. Ni allwn anwybyddu'r cymunedau hyn. Mae gennych chi gyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod yna gamau i ymdrin â diweithdra a thlodi, ac eto i gyd ni allaf weld dim sy'n ddigon radical i wneud y gwaith. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o weithredu ar y cyd, cynllun clir o'r hyn yr ydych yn ei wneud i helpu i atal rhai o'n cymunedau rhag suddo.