– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Ebrill 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. A dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Brexit yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar drafodaethau'r UE. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i geisio atal y Rheolau Sefydlog yfory i alluogi dadl ar Adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-19. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y risg i gyfleusterau canser yn y dyfodol a gyflwynir o ganlyniad i'r prinder arbenigwyr yng Nghymru? Mae'r ffigurau a gynhyrchwyd gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos mai dim ond tri meddyg canser ychwanegol a ymunodd â'r GIG Cymru yn y pum mlynedd diwethaf. Gallwn weld hefyd fod y cyfraddau swyddi gwag ar gyfer oncolegwyr clinigol yr uchaf yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Brenhinol, a dyfynnaf:
'Mae prinder arbenigwyr canser yn risg gwirioneddol i'r dyfodol. Mae hyn yn effeithio ar ofal clinigol, ymchwil, addysg, arweinyddiaeth a datblygu'r gwasanaeth.'
Cau'r dyfyniad. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mater difrifol iawn hwn, os gwelwch yn dda?
A'r ail ddatganiad, Gweinidog, yr hoffwn ei gael, oherwydd mae Llywodraeth Cymru—. Rydym yn gofyn yn y Siambr hon a ellir datganoli mwy o bwerau cyfreithiol i'n Siambr a'r sefydliad ardderchog hwn. Ar y llaw arall, pan fo rhai achosion uchel eu proffil yn Lloegr y mae'r Cynulliad hwn yn ymwneud â nhw, rydym yn llogi bargyfreithiwr Saesneg. A oes yna brinder bargyfreithwyr yng Nghymru sydd â'r cymhwysedd a'r ansawdd? Pam na wnawn ni eu llogi nhw a defnyddio ein bargyfreithwyr dawnus cynhenid ni ein hunain ac wynebu'r anghydfodau cyfreithiol hynny yn yr Uchel Lys yn Llundain?
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater, yn enwedig ynglŷn ag oncolegwyr clinigol. Byddwn yn awgrymu mai'r prynhawn yma fyddai'r cyfle cyntaf i chi i godi hynny gyda'r Gweinidog iechyd yn y datganiad ar 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', sef ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym y staff priodol o fewn y GIG sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.
Ac, ar fater bargyfreithwyr Cymru, byddwn yn dychmygu bod gan argaeledd, sgiliau ac arbenigedd rywbeth i'w wneud â hyn. Ond byddwn unwaith eto yn awgrymu eich bod yn codi hyn uniongyrchol gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a bydd ef yn gallu rhoi barn ar hynny.
Trefnydd, yr wythnos diwethaf, codais y mater ynglŷn â beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran morlyn llanw Bae Abertawe gyda'r Gweinidog dros yr Amgylchedd. Bellach, mae cryn amser wedi bod ers i adolygiad Hendry adrodd bod y morlyn yn opsiwn dim gofid—yn wir, yn opsiwn amlwg, fel y cofiaf ef yn dweud ar y pryd. Bellach, yn amlwg, mae'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfrannu arian wedi golygu bod modelau amgen yn cael eu hystyried, fel y gwyddoch. Ond, yn anffodus, rwyf hefyd yn synhwyro bod brwdfrydedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect yn cloffi. Mae'r cyhoeddiadau cyhoeddus am yr ymrwymiad i fuddsoddi wedi tawelu ac nid ydym wedi clywed fawr ddim gan Lywodraeth Cymru o ran y camau ymarferol y maent yn eu cymryd i helpu i gyflawni'r cynllun. Fis Hydref diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, bellach y Prif Weinidog, rai geiriau grymus wrth y gynhadledd Ocean Energy Europe, a dyfynnaf,:
'Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan flaenllaw ym maes ynni morol gydag ynni a gynhyrchir o'r tonnau a'r llanw yn chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ar gyfer economi carbon isel.'
Diwedd y dyfyniad. Byddwn yn dadlau bod morlyn llanw Bae Abertawe yn hanfodol o ran gwireddu'r uchelgais hwnnw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar forlyn llanw Bae Abertawe a darparu eglurder o ran y lefel a'r math o ymrwymiad tuag at y cynllun hwnnw? Mae Plaid wedi dadlau bob amser y dylai pobl Cymru elwa ar unrhyw gyfoeth a gynhyrchir gan ein hadnoddau naturiol, a byddai gennyf ddiddordeb i glywed pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn hyn o beth.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd i'r cynnig o gael morlyn llanw Bae Abertawe, ac rydym yn falch bod opsiynau eraill a ffyrdd eraill o ariannu hynny'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Nid oes diffyg brwdfrydedd yma, ac rydym yn dal yn awyddus i sicrhau y gall Cymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes technoleg forol ac ynni'r llanw. Credaf fod y brwdfrydedd yn sicr yma ar draws y Llywodraeth i wneud i hynny ddigwydd a phe byddai cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno, yna byddai Llywodraeth Cymru yn sicr yn awyddus i gael y trafodaethau hynny. Mae'r arian a nodwyd gennym yn flaenorol yn parhau i fod ar y bwrdd ar gyfer y cynllun hwnnw, pe byddai cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno. Wrth gwrs, bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn bwriadu gwneud datganiad ar Gymru carbon isel cyn toriad yr haf, a gallai hyn fod yn gyfle arall i ymchwilio i'r mater hwn.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Arolygydd Prawf mewn cysylltiad â chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau ymyrraeth gynnar yn ardal Bae'r Gorllewin? Roedd yr adroddiad yn eithaf damniol. Yn wir, tynnodd sylw ar y ffaith hon, sef allan o 12 ardal, yr ystyriwyd bod naw ohonynt yn 'annigonol', a bod 'lle i wella' yn y degfed. Felly, yn y bôn, dim ond i 2 allan o 12 yr oedd modd rhoi unrhyw gredyd. Rydym yn sôn am fywydau pobl ifanc ac amddiffyn y bobl ifanc hynny a natur ddiamddiffyn y bobl ifanc hynny. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y pryderon hyn, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y camau y maen nhw'n mynd i'w cymryd ar sail yr adroddiad hwn?
Ar yr ail bwynt, rwyf eisiau gofyn am adroddiad, neu efallai ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lygredd aer eto. O ran allyriadau o Tata—y tro diwethaf imi godi hyn, gwn fod Dirprwy Weinidog yr Amgylchedd ar y pryd wedi tynnu sylw at y ffaith ei fod yn mynychu cyfarfodydd. Ond mae'n braf cael adroddiad neu ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ganlyniad y cyfarfodydd hynny, oherwydd, unwaith eto, mae fy etholwyr yn wynebu llygredd dyddiol o'r gwaith dur, llygredd sŵn rheolaidd o'r gwaith dur. Rydym yn deall ei fod yn safle diwydiannol, rydym yn deall ei fod yn elfen enfawr o'r economi, ond hefyd mae'r elfen honno o fod yn gymydog rhesymol ac ystyriol. Ac ar yr achlysur hwn ymddengys ein bod yn methu yn hynny o beth, ac mae angen inni gael adroddiad ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio gyda Tata i sicrhau ei fod yn ymddwyn yn dda.
Diolch yn fawr am godi'r ddau fater hynny, ac, wrth gwrs, y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n goruchwylio'r timau troseddau ieuenctid yn y tair ardal awdurdod lleol a drefnir gan Fae'r Gorllewin. Rhaid gweithredu ar frys o ganlyniad i'r canfyddiadau a nodir yn adroddiad prawf AEM. Rydym eisiau sicrhau bod gwasanaethau ar waith i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac i sicrhau eu bod yn gryf ac yn ddibynadwy ac yn addas ar gyfer y gwasanaeth. Gallaf ddweud wrthych fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaeth gyda'u cymheiriaid, ac mae'r Gweinidog, Jane Hutt, yn bwriadu ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y mater penodol hwnnw.
Ac o ran eich pryderon ynghylch aer glân, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf. Ond gallaf ddweud unwaith eto fy mod wedi cael trafodaethau â chydweithwyr ar draws y Llywodraeth o ran llunio ein rhaglen o ddatganiadau a dadleuon wrth inni symud ymlaen tuag at ddiwedd tymor yr haf, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir y byddai'n hoffi cyflwyno datganiad ar aer glân yn ystod y cyfnod hwnnw.
A wnaiff y Trefnydd wneud datganiad, os gwelwch yn dda, ar gaffael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ran ei ymlyniad i gaffael yn lleol yng Nghymru yn benodol? Gyda'r byrddau iechyd yn adrodd ar hyn o bryd am £90.4 miliwn o orwariant yn 2018-19, mae'n amlwg bod cyllid yn gwegian. Roeddwn yn hynod siomedig, felly, i ddysgu'n ddiweddar bod mesuryddion glwcos gwaed, sydd o bosib yn fwy costus, a stribedi prawf yn cael eu caffael ar draws Cymru. Er enghraifft, deallaf fod cost stribedi sy'n cael eu prynu ar hyn o bryd gan y GIG yng Nghymru, mewn gwirionedd, oddeutu 70 y cant yn fwy nag sydd raid ac y gellid caffael y rhain yn lleol yng Ngogledd Cymru gan gwmni sy'n wynebu anawsterau sylweddol i gael eu derbyn ar y rhestr a ffefrir. Yn wir, mae hyn yn bodoli er gwaethaf y ffaith eu bod yn cyflenwi eu cynnyrch yn rhyngwladol ac yn cael eu defnyddio yn y sector iechyd ar draws rhannau eraill o'r DU. O ystyried y potensial i arbed arian a chefnogi busnes yng Nghymru, byddwn yn falch pe baech yn barod i ymchwilio i'r sefyllfa hon ymhellach pe byddwn i'n rhoi mwy o wybodaeth ichi, ac egluro pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod pob caffael yn ein gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar fesur o werth am arian a hefyd yn cydweddu ag egwyddorion caffael lleol Cymru.
Diolch ichi am godi hynny. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Medi ynghylch y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru a'r pwysigrwydd a roddwn ar arferion caffael da ar draws Cymru. Soniasoch am gyflwr cyllid y GIG, ac mae rhagolwg presennol y GIG yn welliant sylweddol o alldro 2017-18, ac unwaith eto, byddem yn edrych ymlaen at welliant parhaus y flwyddyn nesaf. Mae sefydliadau'r GIG ar y cyd wedi gwneud dros £1.5 biliwn o arbedion effeithlonrwydd ers sefydlu'r cyrff newydd ar ddechrau'r degawd. Ac, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwelwyd bod dros ddwy ran o dair o'r arbedion hyn o 71 y cant ar sail reolaidd a byddem yn disgwyl bod hyn yn cael ei gynnal yn 2018-19.
Ar fater penodol stribedi glwcos gwaed, os anfonwch ragor o wybodaeth i mi, byddwn yn sicr yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog Iechyd.
Hoffwn godi mater grant byw'n annibynnol Cymru gyda chi, Trefnydd. Ysgrifennais at Lywodraeth Cymru ganol y mis diwethaf yn gofyn am amserlen glir ar gyfer cynnal asesiadau ac adfer pecynnau ariannol i bobl anabl sydd ar eu colled yn dilyn diddymu'r gronfa byw'n annibynnol. Nid wyf wedi cael ateb eto. Ar ran pobl anabl a'u teuluoedd sydd yn croesawu newid meddwl y Llywodraeth ar y mater hwn, a allwch roi unrhyw arwydd pa bryd fydd y geiriau cynnes hynny'n troi'n weithredoedd? Byddwn yn croesawu datganiad yn fawr.
Rwyf eisiau codi mater tlodi ac esgeulustod yn ein hen ardaloedd diwydiannol, yn enwedig yn y Cymoedd. Mae diweithdra yn rhy uchel, mae'r defnydd o fanciau bwyd yn annerbyniol o uchel, mae'r cyfleoedd yn brin, ac mae gormod o bobl ifanc yn awyddus iawn i adael. I waethygu'r sefyllfa, mae cyni wedi cael effaith lem ar lawer o rwydweithiau cymorth a oedd ar un adeg yn gallu cynnal pobl pan oeddent mewn angen. Mae hyn wedi dod yn fater hollbwysig bellach i lawer o gymunedau. Yn fy nghymorthfeydd stryd yn y Rhondda yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi gweld digon o bobl sy'n teimlo eu bod dan warchae. 'Does gennym ddim byd ar ôl' yw sut y gwnaeth un fenyw ym Maerdy grynhoi pethau. 'Mae ein cymunedau yn cael eu gadael i farw,' meddai un arall. Felly, beth all tasglu'r Cymoedd ei wneud i helpu lleoedd fel y Rhondda, sydd â lefel diweithdra bron ddwywaith yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru a mwy na dwywaith yn uwch na lefel y DU? Mae rhai prosiectau gwych yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr. Sut ellir eu cefnogi yn hytrach na'u llesteirio? A yw hi'n bosib, er enghraifft, neilltuo arian i alluogi awdurdodau lleol i gymryd yn ôl rai o'r gwasanaethau y cefnwyd arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Wedi'r cyfan, dywedwyd wrthym fod cyni wedi dod i ben. Ni allwn anwybyddu'r cymunedau hyn. Mae gennych chi gyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod yna gamau i ymdrin â diweithdra a thlodi, ac eto i gyd ni allaf weld dim sy'n ddigon radical i wneud y gwaith. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o weithredu ar y cyd, cynllun clir o'r hyn yr ydych yn ei wneud i helpu i atal rhai o'n cymunedau rhag suddo.
O ran yr ymholiad cyntaf sy'n ymwneud â'ch gohebiaeth gyda'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â grant byw'n annibynnol Cymru, rwy'n deall, fel y gwnaethoch ddweud, eich bod wedi anfon y llythyr ganol y mis. Felly, os gallwn adael yr amser ymateb 17 diwrnod gwaith safonol i basio, a chithau heb gael ymateb o fewn yr amser hwnnw, byddwn yn sicr yn falch o wneud yn siŵr eich bod yn cael ymateb prydlon gan y Gweinidog.
O ran eich pryder am ddiweithdra yn y Cymoedd a'ch bod yn cydnabod bod prosiectau gwych yn digwydd yno, gwn fod y Dirprwy Weinidog yn bwriadu cyflwyno datganiad sy'n crynhoi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan dasglu'r Cymoedd, ein cynlluniau Swyddi Gwell yn Nes at Adref a hefyd yr economi sylfaenol, unwaith eto, yr ochr hon i doriad yr haf.
Tybed a allech roi sicrwydd i mi y bydd y Llywodraeth yn neilltuo amser ar gyfer dadl ar un o'r materion pwysicaf sy'n effeithio ar ein cymunedau, sef mater tai, ond yn benodol yr angen difrifol sydd gennym yn awr, yn fy marn i, yn ein cymunedau am bolisi tai moesegol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Rydym wedi trafod nifer o faterion ynghylch tai, boed hynny'n lesddalwyr a'r problemau cysylltiedig, a llawer o'r rheini'n parhau. Ond bellach rydym yn dod ar draws yr hyn sy'n cyfateb bron i sgamiau gan rai o'n cwmnïau tai—rhydd-ddaliadau sy'n agored i bob math o drefniadau rheoli o ran gwasanaethau lleol sy'n llesteirio ac yn aml yn difetha rhydd-ddaliadau yn ein cymunedau. Mae'n ymddangos i mi fod y rhain yn bethau sydd angen i ni eu gwahardd, ac ni ddylent fod ag unrhyw ran mewn polisi tai moesegol.
Mae angen inni hefyd edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar y tir sy'n cael ei fancio gan y cwmnïau datblygu tai hyn. Nawr, byddwch wedi gweld yr adroddiadau, fel yr wyf fi—nid wyf yn siŵr a yw hyn yn digwydd yng Nghymru eto, ac nid yw'n golygu na fydd yn digwydd—sef rhwydo'r ardaloedd hynny, gan atal datblygiad bywyd gwyllt yno, ar gyfer ceisiadau cynllunio yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf sy'n tanlinellu'r graddau y mae nifer fach o gwmnïau tai mawr, nid yn unig yn manteisio i'r eithaf ar eu monopoli ac yn gwneud gormod o elw, ond credaf hefyd eu bod allan o reolaeth. Yr hyn sydd ei angen arnom yw polisi tai eang i wneud ein tai, ym mha bynnag ffurf y bo hynny, yn yr unfed ganrif ar hugain yn addas, yn ddilyffethair, ac o'r safonau moesegol uchaf. Credaf fod angen inni ddod â hyn at ei gilydd, mae'n debyg fod angen deddfwriaeth arnom, ond byddai'n fan cychwyn pe bai'r Llywodraeth yn sicrhau amser inni gael trafodaeth ar yr holl faterion hyn ynghylch tai fel y gallwn ddechrau edrych ar osod y paramedrau ar gyfer datblygu polisi tai yn y dyfodol.
Diolch i chi am godi eich pryderon ynghylch lesddeiliadaeth a hefyd y materion sy'n wynebu llawer o bobl sy'n berchen ar rydd-ddaliadau sy'n destun ffioedd rheoli ar ystadau amrywiol ledled Cymru. Gwn ei fod yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei godi droeon yn y Siambr hon. O ganlyniad i rai o'r trafodaethau a gawsom yn gynharach, llwyddais i gymryd rhai camau cynnar yn fy mhortffolio blaenorol i ymdrin â rhai o'r materion yn y farchnad lesddaliadaeth. Felly, daethom i gytundeb â'r datblygwyr na fyddai unrhyw dai newydd yn cael eu cyflwyno drwy Gymorth i Brynu ac na fyddai unrhyw dai newydd yn cael eu cyflwyno gan ddatblygwyr fel lesddeiliadaeth os na fyddent yn gwbl angenrheidiol. Felly, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond tri thŷ sydd wedi'u gwerthu fel lesddaliadau drwy Gymorth i Brynu yn awr, a phrynwyd pob un o'r tri hynny oddi ar y cynllun cyn i'r rheolau newydd gael eu cyflwyno. Felly, rydym yn cael rhywfaint o lwyddiant, yn sicr, drwy newid y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu drwy'r ysgogiadau sydd gennym gyda Chymorth i Brynu. Ond gwn fod llawer o bryderon ehangach am bobl sydd eisoes yn berchen ar eiddo ar brydles. Dyma un o'r rhesymau pam mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'i grŵp gorchwyl a gorffen amlddisgyblaethol ar ddiwygio lesddaliad preswyl, sy'n gweithio ochr yn ochr â gwaith a wneir gan Gomisiwn y Gyfraith i archwilio pa newidiadau allai fod eu hangen drwy ddeddfwriaeth, ond hefyd beth arall y gallem ei wneud ar frys i fynd i'r afael â rhai o'r materion. Gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi pan fydd y grŵp lesddaliad yn cyflwyno adroddiad, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd hyn yn rhy hir.
Galwaf am ddau ddatganiad, yn gyntaf ar ddeiet fel triniaeth ar gyfer diabetes 2, yn dilyn canlyniadau calonogol o dreialon dau ddeiet diabetig a gynhaliwyd gan ddeietegydd diabetig Claire Chaudhry yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â'r ysbyty i gyfarfod ag arweinydd gwasanaeth deietegol diabetes Betsi Cadwaladr, ynghyd â Phennaeth Deieteg a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer therapïau yn y dwyrain. Eglurwyd wrthyf mai deiet yw conglfaen y driniaeth ar gyfer diabetes. Gyda 30,000 i 40,000 o bobl yn y Gogledd yn unig yn dioddef o ddiabetes 2, mae hyn yn costio 10 y cant o gyllideb y GIG, lawer ohono oherwydd cymhlethdodau. Ond mae'r gwaith peilot wedi gweld cleifion yn dod oddi ar inswlin, yn colli pwysau, a chynnydd yn nealltwriaeth y cleifion o'u nodweddion corfforol eu hunain a newid ffordd o fyw. Maent yn pwysleisio mai buddsoddi i arbed yw hyn: gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio tabledi pwysedd gwaed, pobl yn dod oddi ar beiriannau apnea cwsg £3,000, gostyngiad yn nifer y bobl sy'n colli coes neu fraich, ac effeithiau buddiol o ran colli golwg, dialysis arennol, strôc a llawer o bethau eraill hefyd. Maen nhw wedi arwain ar hyn yng Nghymru. Mae cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn unol â hynny, ond ar hyn o bryd nid oes ganddynt y capasiti i ateb y galw hwnnw. Fel buddsoddi i arbed, credaf ei fod yn fenter wych, sy'n haeddu sylw gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd sydd wedi arwain ar hyn.
Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymgysylltiad â hawliau awtistig a'r mudiad hawliau awtistig? Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod heddiw'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Byd, sy'n annog pobl i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn benodol. Heddiw, rwyf wedi noddi digwyddiad yma yn y Senedd—digwyddiad Anelu am Aur ar gyfer Diwrnod Awtistiaeth y Byd 2019, lle mae sefydliadau a arweinir gan y defnyddiwr yn hybu derbyniaeth o awtistiaeth a chryfhau llais y rhai sydd ag awtistiaeth. Fel y dywedant,
'nothing about autism without autistics.'
Mae derbyn awtistiaeth yn weithred. Peidiwch â bodloni'n unig ar ymwybyddiaeth, gweithredwch. Os mai'r cyfan a wnawn yw codi ymwybyddiaeth, yna mae'r rhestrau aros yn tyfu ac yn tyfu. Mae angen inni gymryd camau ymlaen tuag at ddealltwriaeth, derbyniaeth, cynrychiolaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb. Pan fo oedolion awtistig yn siarad, a ydym ni'n gwrando? Felly, byddwn yn croesawu datganiad, nid yn unig o fewn y cyd-destun arferol dan arweiniad y gwasanaeth neu'r trafodaethau meddygol a gawn yma, ond o ran yr ymgysylltiad hwnnw â'r llais awtistig dilys a'r mudiad hawliau awtistig ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.
Diolch yn fawr iawn. Ar y mater cyntaf am waith deieteteg, mae'n swnio'n ddiddorol iawn, ac yn sicr yn hynod galonogol, felly byddaf yn trafod gyda'm cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, y ffordd orau o ddeall hynny'n well a'r potensial sydd yna i bobl yr effeithir arnyn nhw gan ddiabetes ac atal diabetes ledled Cymru. Gwn fod y Gweinidog iechyd yn bwriadu cyflwyno datganiad ar ddiabetes, eto cyn diwedd tymor yr haf, felly mae hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried o fewn y cyd-destun hwnnw.
Ar Ddiwrnod Awtistiaeth y Byd, rwy'n falch iawn o ymuno â chi i amlinellu pa mor bwysig yw hi, wrth gynllunio gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, i wneud hynny trwy gyd-gynhyrchu. Gwn eich bod chi, fel minnau, yn ffan fawr o gyd-gynhyrchu fel ffordd o ddatblygu gwasanaethau a chymorth i bobl. Rydym yn cydnabod bod ffordd bell i fynd. Fodd bynnag, credaf ein bod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, gan gynnwys y buddsoddiad o £13 miliwn yn y gwasanaeth awtistiaeth integredig, sy'n cael ei gyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd. I nodi diwrnod awtistiaeth y byd, neu yn sicr drwy'r wythnos, byddwn yn cyhoeddi gwerthusiad annibynnol llawn o gyflwyniad y gwasanaeth awtistiaeth integredig, a chredaf y bydd yn ddefnyddiol o ran nodi'r camau mwyaf pwysig nesaf ymlaen. Rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad ychwanegol o'r rhwystrau i ostwng amseroedd aros diagnostig a bydd yr adolygiad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Rydym hefyd wedi ymgynghori ar gynnwys cod ymarfer awtistiaeth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n wirioneddol bwysig bod lleisiau pobl ag awtistiaeth yn cael eu clywed yn yr ymgynghoriad hwnnw, fel y gall y cod nodi pa gymorth fydd ar gael oherwydd yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthym. Ond cytunaf yn llwyr â chi y dylai llais dilys pobl ag awtistiaeth fod wrth wraidd y gwaith hwnnw.
Ar 20 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru y Cynulliad hwn i ysgrifennu at y pwyllgor Ewropeaidd atal artaith i godi pryderon Imam Sis a'r streicwyr newyn Cwrdaidd eraill ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Imam, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn awr ar ei ganfed a saith diwrnod o streic newyn. Mae'r sefyllfa bellach yn ddifrifol iawn. Mae'n ddybryd. Mae'n fater brys mawr. Sylwaf nad yw'r cynnig, er ei basio, yn rhwymo'r Llywodraeth, ac felly hoffwn ddiweddariad, os gwelwch yn dda ynghylch a yw'r Llywodraeth wedi gweithredu ar y cyfarwyddiadau a roddwyd iddo gan y Cynulliad. Byddwn yn nodi hefyd, yn ystod y ddadl, fod y Gweinidog wedi dweud wrthyf na fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd camau ar hyn oherwydd nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Ond ar ôl hepgor yr egwyddor honno yn y ddadl a oedd yn dilyn yn union wedi hynny, yn ymwneud â menywod WASPI, lle nododd y Llywodraeth y byddai'n ysgrifennu llythyr, a gawn ni sicrwydd, os gwelwch yn dda, y bydd yr un egwyddor yn cael ei dilyn yma? Rwy'n poeni'n fawr am Imam.
Diolch ichi am godi'r mater hwn eto. Credaf, fel y llwyddodd y Gweinidog i amlinellu yn ei hymateb i'r ddadl, ei bod yn sefyllfa hynod ddifrifol ac yn un sy'n peri pryder, ac mae'n sefyllfa y mae llawer o bobl ledled Cymru yn teimlo'n angerddol iawn yn ei chylch hefyd. Eglurodd y Gweinidog mai'r Cynulliad fyddai'n anfon unrhyw lythyr ar ran y Cynulliad. Fel rheol nid Llywodraeth Cymru fyddai’n gwneud hynny ar ei ran. Ond yn sicr byddaf yn cael sgwrs bellach i ystyried pa gamau y gellid eu cymryd.
Heddiw, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfarfod a thrafod fy nghynnig i ddefnyddio adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i orfodi'r Ysgrifennydd Parhaol i ryddhau'r ymchwiliad i'r datgeliad ar ddiswyddo Carl Sargeant. Maen nhw'n mynd i ddychwelyd at y cynnig ar ôl y Pasg, a gobeithio y gallant ei gefnogi. Yn wir, byddwn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad yma i'w gefnogi ac ymuno fel cefnogwyr y cynnig. Hefyd, hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth ar hyn, oherwydd pam na allwn ni weithredu'n agored a thryloyw ynglŷn â hyn a chyhoeddi'r adroddiad gan ei fod yn amlwg er budd y cyhoedd?
Gofynnaf ichi edrych eto ar yr ymateb a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru pan ofynnodd gwestiwn ar y mater penodol hwn ychydig yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r Prif Weinidog yn nodi ei fod ar hyn o bryd yn ystyried y dyfarniad a wnaed ac yn cymryd cyngor pellach gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad maes o law.
Trefnydd, hoffwn i gefnogi cais David Rees am ddatganiad gan y Llywodraeth ar yr adroddiad arolygu broblematig iawn ar y gwasanaethau troseddau ieuenctid ym Mae'r Gorllewin. Gofynnaf i chi a'r Llywodraeth ailystyried eich penderfyniad i beidio cyflwyno datganiad. Ni wnaf ailddatgan y pwyntiau y mae David Rees eisoes wedi eu codi am ddifrifoldeb y mater, ond hoffwn nodi wrthych chi ac eraill, allan o'r 14 o argymhellion a wnaed yn yr arolygiaeth, mae chwech o'r rheini ar gyfer sefydliadau wedi eu datganoli—maen nhw ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer yr awdurdod iechyd, ar gyfer y gwasanaethau i blant. Yn awr, fel y dywedodd David Rees yn hollol gywir, rhai o'n plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed yw'r rhain. Credaf ein bod ni i gyd, y rhan fwyaf ohonom o leiaf, ar draws y Siambr hon, wedi bod yn falch o weld Cymru yn mabwysiadu dull gweithredu ychydig yn wahanol, er gwaethaf y ffaith nad yw hyn yn fater datganoledig ffurfiol. Rhaid, felly, ei fod yn peri pryder i ni i gyd—a gobeithio yn fawr y byddai'n peri pryder i Lywodraeth Cymru—bod yr adroddiad hwn yn dweud wrthym, er enghraifft,
'Nid yw'r gwasanaeth ac asiantaethau partner bob amser yn ymgymryd â gweithredoedd i leihau'r perygl o fod yn agored i niwed. Nid yw rhai plant a phobl ifanc yn ddiogel.'
Nawr, yn sicr mae hynny'n rhywbeth na allwn ei ddiystyru fel mater sydd heb ei ddatganoli, pan fo chwech o'r camau gweithredu ar gyfer sefydliadau datganoledig, a gofynnaf i chi a'r Llywodraeth ailystyried a fyddai'n bosib cyflwyno datganiad yn amser y Llywodraeth i roi sicrwydd inni y bydd y materion difrifol iawn hyn yn cael sylw digonol. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, a byddwch chi'n ymwybodol, fod yna ad-drefnu wedi'i gynllunio a allai helpu i liniaru pethau. Ond mae adroddiad yr archwiliad hwn mewn gwirionedd yn tanlinellu nad oes cynllun ar gyfer yr ad-drefnu a oedd i fod dechrau ddoe o ran y gwasanaethau'n cael eu cymryd yn ôl dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol. Byddwn yn dweud, Trefnydd, nad yw hwn yn fater, er ei fod yn fater datganoledig ffurfiol, lle byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei daflu'n ôl i San Steffan. Felly byddwn yn gofyn ichi gael trafodaethau pellach gyda'ch cydweithwyr ac ystyried, yn wyneb y ffaith fod David Rees a minnau, ac, mae'n siŵr, eraill yn y Siambr hon, yn dymuno gofyn cwestiynau am hyn—byddwn yn gofyn ichi ailystyried ac ystyried datganiad gan y Llywodraeth.
Cefais gyfle i drafod hyn yn fyr gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt y bore yma. Yn amlwg, mae yna faterion o fewn yr adroddiad sydd angen ymateb iddyn nhw. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn fy ymateb i David Rees, mewn cysylltiad â'u cymheiriaid, a gwn fod Jane Hutt yn dymuno codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn uniongyrchol. Ond gan ein bod ar drothwy'r toriad, efallai y byddai'n well, yn sicr yn y lle cyntaf, os byddwn i'n gofyn i'm cyd-Weinidog ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau hynny.
Diolch i'r Trefnydd.