Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 2 Ebrill 2019.
Mae cytundeb y Prif Weinidog wedi cael ergyd farwol. Nid oes unrhyw obaith, fel sydd wedi ei gadarnhau droeon yn ystod y dyddiau diwethaf, y bydd y DUP yn ei gefnogi, ac ar ôl neithiwr, bydd eiriolwyr ymadael heb gytundeb yn synhwyro buddugoliaeth. Ni fydd yr holl bleidiau eraill ond yn cydsynio iddo os oes cynnydd ynghylch y datganiad gwleidyddol a/neu ail bleidlais gyhoeddus. Mae bygythiad diweddaraf y Prif Weinidog o etholiad cyffredinol—nawr, mae'n debyg, i fod yn gysylltiedig â chynnig o hyder yn ei chytundeb—yn fygythiad gwag. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod i ysgrifennu maniffesto nac i arwain ei phlaid, a byddai cystadleuaeth arweinyddiaeth Dorïaidd cyn inni naill ai gwblhau'r cytundeb ymadael neu ymadael yn ddisymwth heb unrhyw gytundeb yn hunanfaldod sylweddol ar y naw.
Os oes estyniad hwy, bydd yn rhaid cael etholiadau Ewropeaidd, ac mae'r dyddiad cau o ran dechrau'r broses ar gyfer yr etholiadau hynny ymhen naw diwrnod. Er efallai nad oes fawr o risg o gyflwyno her gyfreithiol ynglŷn â chyfreithlondeb Senedd Ewrop, mae'n risg nad yw ein cymdogion yn Ewrop yn barod i'w oddef, oherwydd gallai ddiweddu gyda datganiad bod y Comisiwn Ewropeaidd ei hun wedi ei gyfansoddi'n annilys. Maen nhw eisiau ateb y gellir ei weithredu cyn y bydd y Senedd newydd yn cynnull ar 2 Gorffennaf. Byddai hynny, os mai felly y bydd hi, yn diystyru etholiad cyffredinol ac, yn wir, refferendwm.
Nid yw dirymiad yn ffordd hawdd o brynu mwy o amser. Roedd Llys Cyfiawnder Ewrop, yn ei ddyfarniad diweddar yn gwbl glir bod yn rhaid i ddiddymiad fod 'yn ddiamwys a diamod'. Felly, nid yw dirymiad yn ffordd o ddim ond arafu'r broses Brexit er mwyn rhoi mwy o amser ar gyfer refferendwm, cynulliadau dinasyddion neu ailnegodi. Felly, mae ein dewisiadau yn parhau i gyfyngu.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol sicrhau cyfaddawd. Rydym ni'n annog y Senedd i geisio sicrhau consensws sefydlog. Mae pleidleisiau'r dyddiau diwethaf yn dangos cefnogaeth ar gyfer canlyniad gwahanol—perthynas agosach ar ôl Brexit drwy undeb tollau ac aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er ein bod yn parhau i gredu mai'r canlyniad gorau fyddai perthynas economaidd yn y dyfodol sy'n gwarantu cymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ym mhob agwedd ar yr economi yn ogystal â bod yn rhan o undeb tollau, rydym yn croesawu'n gryf yr hyn yr wyf yn ei obeithio yw clymblaid sy'n dod i'r amlwg o blaid y math hwnnw o undeb tollau. Os deëllir yn glir fod hyn yn ychwanegol at yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth y DU eisoes o ran cael cyfatebiaeth i reolau'r farchnad sengl o ran nwyddau ac amaethyddiaeth, fe allem ni gefnogi datganiad gwleidyddol wedi ei ailysgrifennu i adlewyrchu hyn fel y sail ar gyfer derbyn y cytundeb ymadael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos sut y gellid ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r amcanion negodi hyn mewn deddfwriaeth, ac rydym ni'n croesawu awgrym Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener diwethaf bod y Llywodraeth yn bwriadu derbyn ymagwedd o'r fath. Byddai canlyniad felly, wrth gwrs, yn ei gwneud hi bron yn sicr na fyddai byth angen y cytundeb wrth gefn. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at David Lidington i annog Llywodraeth y DU ar yr un pryd i ymrwymo i sicrhau bod swyddogaeth statudol i'r gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau hynny yn y dyfodol.
Yn ogystal â'r ffaith bod canlyniad o sylwedd yn ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae cefnogaeth gynyddol o ran cael canlyniad cyfansoddiadol—pleidlais gadarnhau. Rydym ni bob amser wedi cefnogi mwy nag un ffordd o ddatrys yr argyfwng hwn ac mae'n dda gweld y Senedd bellach yn mabwysiadu'r dull hwn. Er ein bod yn dal i gredu mai uno i gefnogi Brexit meddal fydd y ffordd gyflymaf o sicrhau Brexit llai niweidiol, mae'n rhaid i'r Senedd hefyd gefnogi'r dewis o gynnal refferendwm fel dewis arall. Mae cyfaddawd bellach yn hanfodol. Felly, er bod pob dydd heb gytundeb ddiwrnod yn nes at ymadael heb gytundeb, a gyda 12 Ebrill bron ar ein gwarthaf, mae hynny yn awr yn bosibilrwydd gwirioneddol iawn, iawn. Yn yr un modd, os gallai'r Senedd ddod ynghyd â gweithio yn y ffordd yr ydym yn ei hawgrymu, nid ydym ni o bosib mor bell â hynny o sicrhau cytundeb a allai ddileu'r posibilrwydd hwnnw o blymio dros y dibyn, ond nid oes mymryn o amser i'w golli.