Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i wneud pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi. Mae gennym enw da am wneud yn union hynny. Ers datganoli'r cyfrifoldeb am dân yn 2005, mae nifer y tanau mewn anheddau wedi gostwng yn is ac yn gyflymach yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU. Wedi dweud hynny, nid ydym ni'n gallu bod yn hunanfodlon ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i'r amlwg yn dilyn y tân ofnadwy a'r methiannau yn Nhŵr Grenfell. Yn wir, mae'n hynny'n parhau i ddigwydd, a chaiff ei adlewyrchu yn ein dull ni o weithredu.
Mae'r dystiolaeth honno'n cynnwys cyflwyniadau i'r ymchwiliad cyhoeddus, y profion sy'n parhau, yn ogystal â rhai sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, ar ddeunyddiau adeiladu a drysau tân, ac, wrth gwrs, yr argymhellion yn rhan o adolygiad y Fonesig Judith Hackitt o'r rheoliadau adeiladu a diogelwch tân. Er bod ei hadolygiad hi wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU ac mae'n ymwneud â'r sefyllfa yn Lloegr, rydym yn cydnabod ei ddilysrwydd yng nghyd-destun Cymru, nid yn lleiaf oherwydd, yn 2012, etifeddwyd yr un system ag sydd mewn grym yn Lloegr. Rydym felly'n cydnabod disgrifiad Hackitt o system nad yw'n addas i'r diben. Mae hwnnw'n asesiad damniol.
Roedd y Fonesig Judith Hackitt yn glir yn ei hargymhellion fod yn rhaid i ymateb effeithiol fod yn eang a chydlynol. Mae hyn yn cydnabod cymhlethdodau'r system bresennol, sy'n un o ddeddfwriaeth yn gorgyffwrdd a swyddogaethau a chyfrifoldebau sy'n aneglur yn aml. Mae'n system a nodweddir gan drefniadau rheoli annigonol ac anghyson a gorfodaeth wan. Mae'n amgylchedd a nodweddir gan y ras i'r gwaelod, gan fynd ar ôl elw ar draul safonau. Cafwyd diystyriaeth syfrdanol weithiau o leisiau a phryderon y trigolion. Yn fyr, ceir llawer i'w gywiro a chydnabyddiaeth bod gwneud hynny'n gofyn am herio'r system gyfan. Rydym wedi ymrwymo i osod cyd-destun polisi a deddfwriaethol sy'n adlewyrchu ac yn mynd i'r afael â'r risgiau a'r dystiolaeth—dull a fydd yn gwneud ein disgwyliadau cadarn yn eglur iawn ac yn cefnogi ac ysgogi ein safonau uchel a chydymffurfiaeth lawn.
Yn amlwg, mae angen inni ddwyn ein partneriaid gyda ni i wneud yn siŵr bod ein bwriadau ni'n seiliedig ar brofiad a'r hyn sy'n wirioneddol, a'u bod yn gallu cael eu gwireddu. Mae angen systemau effeithiol arnom ni i gyflawni ein nodau cyffredin. Yn rhan o'r broses honno, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol y llynedd. Mae hwn wedi bod â rhan allweddol wrth argymell y ffordd ymlaen. Ym mis Ionawr, fe wnes i gadarnhau y byddwn i'n rhannu cyngor y grŵp arbenigol gyda chi ac roeddwn i'n falch o'i gyhoeddi'r wythnos hon. Fy ymateb cyntaf yw ei fod yn cynnig dadansoddiad eang a defnyddiol. Hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r grŵp am eu hamser a'u hystyriaeth fywiog a gofalus o ystod eang o faterion anodd. Mae cyfansoddiad y grŵp yn golygu ein bod wedi gallu manteisio ar arbenigedd ar draws proffesiynau a sectorau. Yn ei dro, mae'r grŵp wedi elwa hefyd ar gyfraniad swyddogion o Lywodraethau'r DU a'r Alban, adeiladwyr tai, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, academyddion ac eraill.
O'm rhan fy hun, rwyf i nawr am gymryd amser i fyfyrio ar argymhellion y grŵp cyn rhannu fy ymateb gyda chi ym mis Mai, fel y nodais o'r blaen. Byddaf yn cynnwys, yn rhan o'r ymateb hwnnw, gynllun prosiect eglur, gan sefydlu blaenoriaethau ac amserlenni ar gyfer ein camau nesaf. Bydd hefyd yn ystyried gwaith sy'n cael ei ddatblygu mewn rhannau eraill o'r DU, ond a fyddai'n werthfawr yng nghyd-destun Cymru—er enghraifft, gwaith y National Fire Chiefs Council yn sefydlu dealltwriaeth gliriach o risg, ac eiddo'r grŵp ymateb diwydiant, gan nodi datrysiadau dan gyngor y diwydiant i bennu a chyflawni safonau cyson o broffesiynoldeb.
Rwyf wedi dweud cyn hyn fy mod wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion sy'n ymarferol ac yn gymesur, a bydd rhai ohonyn nhw'n tynnu ar waith ar lefel y DU. Nid yw'n fwriad gennyf i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol, ond ni fyddaf i'n oedi cyn gwahaniaethu pryd y ceir cyfle i fod yn fwy effeithiol a gwneud pobl yn fwy diogel. Un cwestiwn sy'n codi ar unwaith, wedyn, yw: pa adeiladau a ddylai gael eu cynnwys mewn system newydd i Gymru? Fel llawer o'r materion hyn, caiff ei gymlethu gan nifer o ffactorau a chydag ychydig yn unig o dystiolaeth gadarn i'w ategu ar hyn o bryd.
Roedd y Fonesig Judith yn argymell y dylai'r hyn y mae hi'n cyfeirio atyn nhw fel 'adeiladau preswyl o risg uchel' fod yn rhai mwy na 30 metr o uchder. Rydym yn eglur nad yw hynny'n mynd yn ddigon pell. Yn gyffredin â Lloegr, cymerodd ein gwaith ni i nodi adeiladau ei fan cychwyn o'r rheoliadau cyfredol, sy'n dechrau o 18m. Mae Hackitt yn argymell 30m neu dalach, a cheir safbwyntiau eraill a fyddai gosod y marc ar 11m, sef pedwar llawr fel arfer. Er hynny, nid yw uchder yn unig o reidrwydd yn mynegi digon o ran y peryglon ac yn arbennig y perygl i bobl sy'n agored i niwed. Byddwn yn edrych yn drylwyr, felly, ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch risg a'r goblygiadau ymarferol wrth inni ddod i gasgliad cytbwys, effeithiol ac ymarferol.
O ran cwmpas adeiladau ac fel arall, mae'r cyngor yn nodi sawl maes cymhleth y byddan nhw'n elwa ar ddadansoddiad mwy manwl. Byddaf yn ystyried y ffordd orau o asesu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ac yn amlinellu cynigion cadarn. Bydd y penderfyniadau y down iddynt yn helpu i ysgogi ateb cytbwys, system gyfan. Mae'n amlwg i mi, er hynny, wrth inni symud at y cam nesaf yn ein gwaith, ein bod yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Roedd yn amlwg iawn bod ein penderfyniad i fynnu bod yr holl dai newydd a'r rhai sy'n cael eu haddasu i fod â systemau i lethu tân yn bresennol yn un cywir, a gwn, Dirprwy Lywydd, y byddwch chi'n arbennig o falch o'm clywed i'n cydnabod hynny.
Un argymhelliad o'r cyngor y byddaf i'n ei dderbyn yn y fan a'r lle yw ein bod ni'n hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Mae tystiolaeth gadarn yn cefnogi effeithiolrwydd systemau chwistrellu dŵr o ran rhwystro marwolaethau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion lunio dewisiadau ar gyfer sut y gallwn hyrwyddo ôl-osod ymhellach mewn blociau o adeiladau uchel ar draws sectorau.
Gyda'n partneriaid, rydym wedi nodi cyn hyn y blociau o adeiladau preswyl uchel yng Nghymru, hynny yw, y rhai sy'n 18m neu fwy. Rydym nawr yn ychwanegu at y gronfa ddata a rannwyd gydag awdurdodau lleol â gwybodaeth gadarn am ehangder y systemau chwistrellu yn yr adeiladau hynny. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau tân ac achub a'r awdurdodau lleol ac eraill yn parhau i ddatblygu a rhannu gwybodaeth allweddol. Yn wir, mae honno'n nodwedd allweddol o'r hyn y mae'r Fonesig Judith Hackitt yn ei alw'n 'edefyn euraid'.
Er bod systemau chwistrellu'n gallu bod yn effeithiol, rydym hefyd wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth ynglŷn â chladin. Yn unol â hynny, ymgynghorwyd ar wahardd deunyddiau llosgadwy rhag cael eu defnyddio ar flociau uchel sy'n adeiladau preswyl. Gan weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr arbenigol, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac, yn fwy penodol, mae nifer o faterion technegol wedi codi. Rwy'n rhagweld cyflwyno gwelliannau i'r rheoliadau yn ystod yr haf eleni.
Rwy'n falch o ddweud bod y gwaith o dynnu cladin o ddeunydd cyfansawdd alwminiwm a rhoi rhywbeth arall yn ei le yn parhau ar gyflymder mawr. Mae pob adeilad a nodwyd bellach naill ai wedi cael ei adfer neu mae gwaith yn cael ei wneud arno. Ni ofynnwyd i lesddeiliaid na thrigolion ariannu'r gwaith hwn. Rwy'n croesawu gwaith a phenderfyniadau perchnogion yr adeiladau a'r datblygwyr am ddangos cyfrifoldeb wrth ddwyn y gwaith hwn i ben.
Ar draws y system, mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod yna weithlu cymwys sydd â'r gallu priodol. Rydym yn aros am gasgliadau grŵp ymateb y diwydiant a'i waith ar gymhwysedd, ond rydym eisoes yn ymgysylltu â darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i ymdrin ag anghenion ein system yn y dyfodol. Mae darparwyr yn datblygu cyrsiau newydd i wella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o faterion diogelwch tân hanfodol. Bydd fy swyddogion i'n parhau â'r drafodaeth hon. Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cymru allu cefnogi'r gwaith angenrheidiol a sicrhau hefyd ei fod yn cael ei integreiddio yn llawn i fesurau ehangach i wella cymhwysedd proffesiynol.
Rwyf wedi cyfeirio at y pwysigrwydd a roddwn ar systemau llethu tân. Rydym wedi ariannu ein gwasanaethau tân ac achub ers tro byd i gynnal gwiriadau diogelwch yng nghartrefi pobl a rhoi offer am ddim megis larymau mwg a gwelyau sy'n gallu gwrthsefyll tân. Mae cryn dystiolaeth bod y gwiriadau hyn yn achub bywydau ac yn amddiffyn eiddo. Bob blwyddyn, bydd y gwasanaeth yn cwblhau rhwng 50,000 a 60,000 o wiriadau o'r fath, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd yn y perygl mwyaf.
Fel y dywedais ar y cychwyn, rydym ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein hanes o gadernid. Pan fydd hi'n bosib ac yn briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith neu yn y byrdymor. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, bydd angen mwy o fanylu ac ystyriaeth ar rai materion. Mewn rhai achosion, bydd hynny'n gofyn ac yn arwain at newid deddfwriaethol. Yn anochel ac yn briodol, bydd hyn yn cymryd amser, ac felly y dylai fod. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Byddwch yn gallu gweld o'm hymateb manwl ym mis Mai ac o'n cynllun prosiect, gydag amserlenni eglur, ein bod yn symud gyda myfyrdod a chyflymder priodol i gyflwyno newid gwirioneddol ystyrlon.
Byddaf yn edrych ymlaen at roi'r wybodaeth honno ichi, ond wrth gloi heddiw, hoffwn fynegi fy niolch unwaith eto i'r grŵp arbenigol am fynd i'r afael â'r heriau anodd, pellgyrhaeddol hyn. Bydd eu gwaith nhw yn ein helpu ni i lunio a mireinio ein hymateb i'r materion ac yn sicrhau, yn y pen draw, ein bod yn cadw ein trigolion yn ddiogel yn eu cartrefi. Diolch.