Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 2 Ebrill 2019.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Ac a gaf i hefyd, Dirprwy Lywydd, gydnabod y cyfraniad rhagorol yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol?
Credaf fod cyhoeddi'r cyngor hwn gan y grŵp arbenigol yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau adeiladau yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y cynnydd y bydd y Llywodraeth yn ei wneud nawr gyda gweithredu ei argymhellion, a bydd ymateb llawn i ni ym mis Mai. Gwaith pwysig iawn yw hwn ac mae'n gofyn am ddadansoddiad llawn. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog eisoes wedi derbyn argymhellion y panel ar ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau blociau uchel, gan fod hynny'n rhywbeth a argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau blociau uchel. Roeddwn i'n rhan o'r pwyllgor pan wnaeth y gwaith hwnnw, ac rwy'n gwybod ei fod wedi dylanwadu ar waith y panel.
Un peth sydd wedi bod yn amlwg iawn i mi ers trychineb Grenfell yw nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben, fel y dywedodd y Gweinidog eto heddiw'n wir, ac fel y canfu adroddiad Hackitt hefyd. Mae'r ffaith y gallai trychineb ar y raddfa hon ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain yn sioc i bawb ohonom, ac fe wnaeth ganolbwyntio sylw ar adeiladau preswyl uchel eraill ledled y wlad, gan gynnwys y sector preifat—nid yn unig ddiogelwch o ran dylunio, adeiladu a rheoli blociau adeiladau preswyl, ond hefyd sut yr ydym ni'n clywed ac yn parchu barn y bobl sy'n ymgartrefu mewn adeilad bloc uchel. Rydym ni yn y Blaid Geidwadol yn cytuno'n llwyr â chasgliadau adroddiad y pwyllgor yn ogystal ag adroddiad y panel arbenigol, y dylai ei argymhellion fod yn sail erbyn hyn i system fwy cadarn.
Un bwlch sy'n peri pryder ar hyn o bryd yw absenoldeb deiliad dyletswydd pendant yn ystod y broses o ddylunio a saernïo'r adeilad, dryswch yn ystod trosglwyddo'r cyfrifoldeb pan fydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau, a gorgyffyrddiad dryslyd o ran y cyfrifoldeb am y rheoliadau amrywiol. Yn ogystal â hynny, roeddwn i'n bryderus o ddarganfod nad oes yna unrhyw set glir o safonau neu ddisgwyliadau ar gyfer llawer o'r proffesiynau sy'n ymwneud â dylunio a saernïo'r adeiladau hyn, neu gynnal a chadw diogelwch tân mewn adeiladau sydd â phobl yn byw ynddyn nhw, a'r materion o ran cynhwysedd, a all amharu ar allu rheolyddion i wneud eu gwaith nhw. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn wir. Mae cyngor ddoe ei hun yn mynegi,
'Mae angen sicrhau bod y diwygio yn uchelgeisiol ac yn hyrwyddo newid diwylliant sy'n ddigonol o fewn y sector.'
Rwyf i o'r farn bod y ffaith fod llawer o'r argymhellion yn gorgyffwrdd ag adroddiad y pwyllgor yn tystio i'r angen am newid diwylliant o ran diogelwch. Drwy gydol yr adroddiad hwn, gwelir yn amlwg yr angen am ddeddfwriaeth newydd sylweddol i gyflawni nifer o'r argymhellion ar gyfer newid, ac mae'n bwysig bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn gydlynol yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor gyflym â phosibl, gan roi diwydrwydd dyladwy wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cael cydweithrediad llawn holl bleidiau'r Cynulliad. Pe gallai'r ddeddfwriaeth honno ddigwydd yn y Cynulliad hwn, credaf y byddai hynny'n dyst ffyddlon i'r flaenoriaeth yr ydym i gyd yn ei rhoi i'r gwaith hwn. Ond rwy'n sylweddoli bod honno'n alwad uchelgeisiol.
Fel y nodwyd gan y panel, bydd hyn, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w wneud yn iawn, ac mae'r Gweinidog yn gwbl briodol yn edrych ar y materion hyn â difrifoldeb dyladwy fel y gallwn ni gael yr ymateb llawnaf posibl. Ond mae'r angen yn eglur am waith yn y cyfamser, ac rwy'n gobeithio y bydd yr angerdd a ddangosodd y Gweinidog y prynhawn yma yn para ym mis Mai, fel ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ni a hynny mor gyflym ag y gallwn ni. Er enghraifft, yn y lle cyntaf, diwygio neu uno cronfeydd data, ac ymgysylltu'n well â thrigolion—credaf fod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny funud yn ôl. Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr o gymdeithasau tai fore heddiw, ac roedden nhw'n nodi y bydden nhw'n cynnal yr ymarfer ymgysylltu hwn fel mater o flaenoriaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr ysbryd hwnnw i'w weld yn ymateb Llywodraeth Cymru hefyd.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r panel am ei waith trylwyr. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu cyflwyno. Rwy'n gwybod y gall Llywodraeth Cymru ddibynnu ar gefnogaeth y grŵp Ceidwadol yma i wneud hyn yn iawn, ond mae angen ei wneud yn iawn a hynny ar fyrder. Diolch.