6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:20, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithlu ein GIG ei nodi'n glir yn ein rhaglen lywodraethu, lle gwnaethom ni addo recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Yr haf diwethaf, cyhoeddais ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, 'Cymru Iachach'. Mae'n pwysleisio pa mor sylfaenol yw ein gweithlu ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru. Nid yw cynllunio ar gyfer gweithlu medrus a chynaliadwy erioed wedi bod yn bwysicach nag ydyw yn ddiweddar.

Mae’r ystadegau swyddogol diweddaraf am y gweithlu, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod mwy o staff nawr yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen. Mae hynny'n adlewyrchu ein hymrwymiad a’n buddsoddiad parhaus yng ngweithlu'r GIG, hyd yn oed yn erbyn cefndir o gyni parhaus, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn. Ond nid yw llwyddiant bob amser yn golygu ychwanegu mwy. Yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, mae'n hanfodol bod GIG Cymru yn defnyddio sgiliau pob proffesiwn yn effeithiol yn y swyddogaeth y maen nhw'n gymwys i’w chyflawni, gan gefnogi staff i weithio ar frig eu set sgiliau, a gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol cynaliadwy.

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi cynyddu. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn buddsoddi £114 miliwn, cynnydd o £7 miliwn ar gael o 2018-19. Bydd hynny’n cefnogi amrywiaeth o raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Dyma’r lefel uchaf erioed o gyllid, a bydd yn cefnogi’r nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yma yng Nghymru.

Ar ôl cyhoeddi 'Cymru Iachach', mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu un o'r camau gweithredu allweddol, sef strategaeth weithlu genedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gael ei chwblhau’n ddiweddarach eleni. Bydd hon yn darparu fframwaith mwy strategol ar gyfer cynllunio a datblygu'r gweithlu, gan gynnwys, wrth gwrs, recriwtio a chadw staff.

Ochr yn ochr â’n buddsoddiad parhaus a'n blaenoriaethau mwy hirdymor drwy strategaeth y gweithlu, mae ein hymgyrch farchnata flaenllaw genedlaethol a rhyngwladol, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi cefnogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru â’u gweithgareddau i ddenu staff ychwanegol i hyfforddi, gweithio a byw yma yng Nghymru. Cefnogir yr ymgyrch gan amrywiaeth o randdeiliaid. Mae wedi rhoi Cymru ar y map recriwtio rhyngwladol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan arddangos manteision hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Mae'r ymgyrch wedi targedu nifer o wledydd drwy farchnata digidol, gan gynnwys delweddau a straeon personol proffesiynau gofal iechyd sy'n gweithio o fewn ein GIG, a llawer ohonynt wedi symud i Gymru ac wedi bwrw gwreiddiau yma.

Fel rhan o'n camau i gefnogi practis cyffredinol a gofal sylfaenol, rydym ni wedi cymell hyfforddiant meddygon teulu drwy gyfrwng dau gynllun, sydd eisoes wedi llwyddo i ddenu meddygon i ardaloedd o Gymru lle bu swyddi gwag am nifer o flynyddoedd cyn hynny. Ers lansio cam meddygol 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' mae nifer y meddygon sy’n dewis Cymru i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol meddyg teulu wedi cynyddu'n sylweddol. Yn 2017, roedd ein dyraniad yn orlawn gyda’r 144 o leoedd wedi’u llenwi. Y llynedd, roedd 134 o 136 o leoedd wedi'u llenwi. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru eisoes wedi dechrau cyflwyno mesurau i alluogi cynnydd yn nifer y lleoliadau hyfforddi meddygon teulu sy’n cael eu hysbysebu yn 2019, a'r cynnydd mwyaf yn nifer y lleoedd sy’n cael eu hysbysebu mewn ardaloedd yng Nghymru a oedd, tan yn ddiweddar, yn wynebu’r problemau mwyaf difrifol o ran capasiti hyfforddi meddygon teulu.

O ganlyniad i gyfuno'r camau gweithredu hyn, rwy’n falch o allu cadarnhau i'r Siambr heddiw ein bod ni, ar ôl dim ond y cyntaf o'r tair rownd recriwtio ar gyfer hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu yn 2019, wedi llenwi 131 o leoedd—28 yn fwy o feddygon nag ar yr un adeg y llynedd. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau diddordeb mwy cadarnhaol gan feddygon sy'n ymgeisio drwy ffenestr recriwtio ail-hysbysebu rownd 1 yn 2019; cafwyd dros 50 y cant yn fwy o geisiadau nag ar yr adeg hon yn 2018.

Rwyf wedi cytuno ar gyllid pellach ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru i’w galluogi i gynnig lleoedd ychwanegol y tu hwnt i’r dyraniadau lle rydym ni’n gallu manteisio ar y lefel uwch hon o ddiddordeb a sicrhau rhagor o feddygon teulu dan hyfforddiant yn 2019. Mae hyn yn unol â'm hymrwymiad hirdymor i sicrhau y gallem ni wneud lle i hyfforddeion ychwanegol pe bai’n bosibl eu recriwtio heb fod targedau penodol yn cyfyngu arnom ni. Yn yr hydref, cyn gynted ag y bydd rowndiau recriwtio hyfforddiant arbenigol eleni i gyd wedi’u cwblhau, rwy’n edrych ymlaen at roi newyddion cadarnhaol pellach ynghylch cyfanswm nifer y meddygon a benodwyd i hyfforddiant arbenigol meddygon teulu.

Rwyf hefyd wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru gynnal adolygiad o gynlluniau hyfforddi meddygon teulu i ganfod a yw’r trefniadau presennol yn addas i'r diben o ran eu maint, eu lleoliad a’u hansawdd i sicrhau cynnydd yn nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru a diwallu anghenion ein model ar gyfer gofal sylfaenol yn y dyfodol. Bydd eu cyngor yn llywio fy mhenderfyniadau yn y dyfodol, gan gynnwys cynlluniau buddsoddi hirdymor yn y maes hwn.

Rwy’n falch o ddweud ein bod ni'n gweld gwell cyfraddau llenwi mewn arbenigeddau meddygol eraill hefyd, sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', gan gynnwys hyfforddiant meddygol craidd a seiciatreg graidd. Mae paratoadau terfynol ar y gweill i lansio cam fferylliaeth 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i sicrhau bod Cymru yn parhau'n gystadleuol yn erbyn cefndir o gynyddu cystadleuaeth ymhlith sefydliadau yn y DU sy’n recriwtio fferyllwyr cyn cofrestru. Bydd y cam gweithredu hwn yn sicrhau ein hymrwymiad parhaus i gefnogi tîm amlddisgyblaethol yn gweithio mewn practis cyffredinol a gofal sylfaenol yn ehangach. Bydd y gweithgarwch marchnata ar gyfer y cyfnod fferylliaeth, gan gefnogi Addysg a Gwella Iechyd Cymru a byrddau iechyd, yn cael ei lansio yng Nghymdeithas Myfyrwyr Fferyllol Prydain yn ddiweddarach y mis hwn.

Ym mis Mai, bydd trydedd flwyddyn yr ymgyrch nyrsio yn lansio yng nghyngres y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl. Mae’r ymgyrch yn cael effaith wirioneddol drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa a'r ffordd o fyw sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae cynlluniau ar droed hefyd i ymestyn yr ymgyrch ymhellach i gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol. Bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo swyddogaeth y proffesiynau perthynol i iechyd, yn arbennig fel rhan o dimau amlddisgyblaethol mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau.