Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf yn atgoffa'r Siambr mai un o swyddogaethau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw craffu ar effeithiolrwydd a gweithdrefn y broses gyfansoddiadol, sydd weithiau'n golygu nad yw'n hadroddiadau yr adroddiadau mwyaf cyffrous o reidrwydd, ond maen nhw'n berthnasol o ran y dull o graffu ar yr hyn sy'n ddeddfwriaeth bwysig.
Fe wnaethom ni ystyried y Rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 25 Mawrth ac adrodd ar 28 Mawrth. Fe wnaethom ni ystyried ymateb y Llywodraeth ddoe. Fe nodwyd pwynt technegol gennym yn ymwneud â'r diffyg tryloywder posibl ynghylch y defnydd o'r gair 'mis' yn y rheoliadau. Er mai ystyr 'mis' yw'r ystyr a roddir yn Neddf Dehongli 1978—hynny yw, mis calendr—efallai na fydd hynny o ddefnydd mawr i lawer o ddarllenwyr y rheoliadau hyn. Ac mae'r adroddiad drafft yn nodi gohebiaeth rhwng y pwyllgor hwn a'r Cwnsler Cyffredinol y llynedd, pryd y cytunwyd y byddai defnyddio troednodiadau i ymhelaethu ar ystyr rhai termau pwysig yn ddefnyddiol, ond nid oes defnydd o droednodiadau o'r fath yn y rheoliadau hyn, a allai fod wedi bod o gymorth o ran eglurder a thryloywder.
Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi ei barn ynghylch pam nad ystyrir bod gwelliant i fynd i'r afael â'r pwynt technegol yn angenrheidiol. Mae'r cyntaf o'r tri phwynt o ran rhinweddau yn nodi bod y rheoliadau yn caniatáu i Gymwysterau Cymru osod cosbau ariannol, yn amodol ar gap ac yn ddarostyngedig i resymoldeb a chymesuredd. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein hadroddiad ar Fil Cymwysterau Cymru ac mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi y bydd y Cynulliad yn cael:
y cyfle i drafod a chraffu ar swm y gosb.
Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn rhoi disgresiwn eang i Gymwysterau Cymru ynglŷn â gosod cosbau ariannol, gan adael ychydig iawn i'r Cynulliad graffu arno o ran union lefel y cosbau hynny. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r sefyllfa yn Lloegr, lle y mae ystod disgresiwn Ofqual wedi'i nodi ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol, ac nid mewn is-ddeddfwriaeth.
Yn ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn nodi bod y rheoliadau yn adlewyrchu dewis o ran polisi, a bod y Cynulliad yn cael digon o gyfle i graffu ar y ffordd y bydd cosbau yn cael eu gosod.
Mae'r ail a'r trydydd pwynt rhagoriaethau yn nodi pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y potensial i Ofqual a Chymwysterau Cymru osod cosbau ariannol ar yr un sefydliad, a'r potensial ar gyfer dryswch ynghylch pa ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol, neu y bydd, yn eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau cosb ariannol.
Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi'r ail bwynt, ac mae'n nodi'n ddefnyddiol y bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i ateb ein trydydd pwynt rhagoriaethau.