Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 2 Ebrill 2019.
Rwyf yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond nid oeddwn yn bresennol pan wnaethpwyd yr ymchwiliad hwn, ond roeddwn i eisiau ychwanegu rhywbeth ato, am y ffigur hwn o 10 y cant sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, ynghylch sut y daethpwyd at y ffigur hwnnw. Nawr, clywais i chi, Gweinidog, pan ddywedasoch fod Ofqual wedi dweud bod hwn yn ffigur addas, ond nid wyf i'n ddim callach o hyd ynghylch pam mae Ofqual yn credu bod hwnnw'n ffigur rhesymol. Ac rwyf yn ei godi yn benodol oherwydd nad wyf i'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad ar y ffigur penodol hwn nac, yn wir, unrhyw ddealltwriaeth o'r goblygiadau ymarferol a fyddai'n effeithio ar gorff nad oedd yn cydymffurfio â'r amodau a oedd yn caniatáu iddo fod yn gorff dyfarnu.
Ac os y cymeraf CBAC fel un enghraifft, er fy mod yn sylweddoli, wrth gwrs, y gellid effeithio ar gyrff eraill: eu trosiant y llynedd—ac nid wyf yn siŵr os yw hyn yn cynnwys treth ar werth, ond mae'n ffigur enghreifftiol da—oedd oddeutu £45 miliwn, pan oedd eu hincwm net neu eu helw oddeutu £2 miliwn, sef hanner hanner 10 y cant o'i drosiant. Felly, er fy mod yn cytuno y dylai terfyn uchaf y gosb fod yn eithaf llym, mae angen i'r gosb hefyd fod yn ymarferol er mwyn i rywun allu ei thalu. O dan yr amgylchiadau penodol hynny, mae'n anodd gweld sut y byddai corff yn yr amgylchiadau hynny yn gallu ei thalu.
Mae angen iddi hefyd fod yn gymesur â'r diffyg cydymffurfiad ac mae'n bwynt y mae Mick Antoniw eisoes wedi'i godi gyda chi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd—beth allaf i ei ddweud—rwyf yn rhagweld adolygiad barnwrol o gwantwm unrhyw gosbau os na fydd Cymwysterau Cymru yn cael rhyw fath o ganllawiau i'w helpu i asesu beth sy'n 'briodol', oherwydd dyna yw'r gair yn y rheoliadau. Nid oes unrhyw ogwydd yn y rheoliadau penodol hyn, yn wahanol i'r rhai yn Lloegr, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau cyfoes sydd yn cael eu llunio ar hyn o bryd nac sydd ar fin cael eu cyhoeddi. Nawr, os oes rhai, wrth gwrs, byddwn yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw.
Felly, er nad oes gennym ni unrhyw broblem o gwbl gydag adran 38 ei hun, na'r toriadau hyn o'r amodau—yn arbennig mewn amgylchedd pan fo'r gystadleuaeth yn brin iawn, mae'n rhaid rhwystro'r toriadau hynny—ond fel y mae'r rheoliadau ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod gennym ni ddigon o wybodaeth ar sut y daethpwyd i'r ffigur o 10 y cant o drosiant, ac nid oes gennym ychwaith unrhyw sicrwydd ynglŷn â sut y penderfynir bod cosbau is yn rhesymol ac yn gymesur. O dan yr amgylchiadau hynny, mae arnaf ofn na fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliad hwn.