Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 2 Ebrill 2019.
Dechreuodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei waith o graffu ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) fis Rhagfyr diwethaf, ac, yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ni i lywio ein gwaith. Drwy gydol mis Ionawr, clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid, ac rydym yn ddiolchgar i dîm allgymorth y Cynulliad hefyd am gyfweld â nifer o randdeiliaid ar ran y pwyllgor, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith.
Rydym ni'n gwneud nifer o argymhellion yn ein hadroddiad, a gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol sylw ar rai ohonyn nhw heddiw, ac rydym ni'n credu y byddant yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r modd y caiff ei gweithredu. Rydym ni'n croesawu'r cynigion yn y Bil ac rydym ni'n credu y gallai o bosib gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, er y byddaf yn gwneud rhai sylwadau ar y mater o hygyrchedd maes o law. Am y rheswm hwnnw, rydym ni'n argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, sef argymhelliad 2 o'n heiddo. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod yn rhaid i'r mesurau ychwanegol nad ydynt yn ddeddfwriaethol, megis sicrhau bod sylwadau cyfreithiol ar gyfraith Cymru ar gael ac addysgu'r cyhoedd ynghylch cyfraith Cymru, chwarae rhan ganolog wrth wella ei hygyrchedd, ac rwy'n cydnabod y cytundeb cyffredin, rwy'n credu, gan y Cwnsler Cyffredinol ar y pwyntiau hyn. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol egluro sut y byddwn yn gwneud mesurau anneddfwriaethol yn rhan ganolog o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, sef argymhelliad 4 o'n heiddo. Ac, unwaith eto, croesawaf sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol ar hynny.
Gan droi at argymhelliad 6 o'n heiddo, fel darn o ddeddfwriaeth arloesol, bydd gwerthusiad cadarn ac amserol yn hanfodol i'w llwyddiant. Roedd argymhelliad 6 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i gynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy dymor cyntaf y Cynulliad ble daw'r ddeddfwriaeth i rym—hynny yw, erbyn 2023. Gan symud ymlaen, yn gyffredinol rydym ni'n fodlon ar y ddarpariaeth yn rhan 1 y Bil ynghylch hygyrchedd cyfraith Cymru. Fodd bynnag, rydym ni'n cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd gan rai rhanddeiliaid fod angen naratif cliriach ynghylch ystyr 'hygyrchedd Cyfraith Cymru'. Credwn y bydd hyn yn hanfodol o ran hwyluso gwerthusiad cadarn a thryloyw o lwyddiant Rhan 1 o'r Bil. O'r herwydd, roedd argymhelliad 7 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, yn ystod y ddadl hon yng Nghyfnod 1, roi esboniad cliriach o'r hyn a olygir gan 'hygyrchedd cyfraith Cymru', a chroesawaf y sylwadau gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny, sy'n cyfeirio at faterion eglurder ac argaeledd, gan gydnabod hefyd bod agwedd ehangach ar fater hygyrchedd sydd angen ei datblygu. Yn sicr, yn y pwyllgor, rwy'n credu mai ein hystyriaeth oedd hygyrchedd mewn cysyniad ychydig yn ehangach—hynny yw, nid yn unig eglurder ac argaeledd y gyfraith, ond hygyrchedd mewn termau ymarferol gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb—rwy'n crwydro braidd nawr—o ran y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arglwydd Simon ym 1949 yn ystod y Bil Cymorth a Chyngor Cyfreithiol. Gwnaed rhai sylwadau cadarnhaol iawn ar y pryd ynghylch beth oedd diben hygyrchedd, a dyma ddarllen un adran yma, lle y dywedodd:
Yn olaf, fe ddywedaf yr hyn yr wyf yn ei deimlo fwyaf—os ydym yn anelu at wir ddemocratiaeth yn y wlad hon, nid yw'n ddigon i frolio am iaith y Magna Carta; nid yw'n ddigon i ddweud bod ein Barnwyr yn ddiduedd; nid yw'n ddigon i ddweud y gall pobl ymddiried y caiff cyfraith Prydain ei gweinyddu yn deg. Os ydym ni eisiau gwneud y wlad hon yn ddemocratiaeth go iawn mae'n rhaid inni fynd ati i sicrhau bod yr egwyddorion hyn o gyfiawnder, diogelu ac unioni ar gael i bawb yn ddiwahan, ac nad yw hynny'n dibynnu ar ba un a ydynt yn bersonol yn gallu ei fforddio.
Credaf y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod pryder ehangach ynghylch hygyrchedd cyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yn ymdrin ag ef, a bydd rhaid i ni, y ddeddfwrfa, gyda'n cyfreithiau ein hunain a'n system gyfreithiol ein hunain, o ran hygyrchedd gwirioneddol y gyfraith—bydd rhaid i ni ymdrin â grymuso dinasyddion, sy'n ymddangos i mi yn rhan hanfodol o hynny.
Gan droi'n ôl at fy sgript, hoffwn droi at argymhelliad 8 o'n heiddo. O dan adran 2(1), bydd hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol baratoi rhaglen hygyrchedd. Rydym ni wedi argymell y dylen nhw hefyd fod o dan ddyletswydd i weithredu rhaglen o'r fath i sicrhau y caiff ei chyflawni. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylid diwygio'r Bil fel y dylid cynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru yn ddyletswydd o dan adran 2(3), yn hytrach na bod yn ôl disgresiwn o dan adran 2(4), a dyna yw argymhelliad 9 o'n heiddo.
Mae argymhelliad 10 o'n heiddo yn nodi y dylid diwygio adran 2(7) o'r Bil fel ei bod hi'n ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan raglen hygyrchedd. Credwn y byddai hyn yn rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol nid yn unig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am weithgareddau arfaethedig, sy'n mynd rhagddynt yn dda, ond hefyd am y rhai hynny nad ydynt wedi neu na fyddant yn cael eu dwyn ymlaen, ac, yn dilyn cyflwyno adroddiad o'r fath, rydym yn rhagweld y byddem yn gwahodd y Cwnsler Cyffredinol i ddod i gyfarfod y pwyllgor pryd gellid ystyried a chraffu ar yr adroddiad. Ac rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn prif fyrdwn yr argymhellion hyn: y pedwar adroddiad bob tymor ac adolygu effeithiolrwydd. Felly, mae croeso mawr i hynny. Byddai'r gwelliannau yr ydym ni'n eu hargymell i adran 2 y Bil, yn ein barn ni, yn sicrhau na fydd y camau beiddgar a gymerwyd gan y Llywodraeth bresennol tuag at gyflawni llyfr statud fwy hygyrch i Gymru, mewn unrhyw ffordd, yn cael eu lleihau yn y dyfodol.
Gan droi yn awr at gydgrynhoi a chyfundrefnu, mae croeso i gynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru. Rydym yn cytuno y bydd deddfwriaeth sydd wedi'i chydgrynhoi nid yn unig yn helpu pobl Cymru i ddeall cyfraith Cymru, bydd hefyd yn helpu'r rhai sy'n trin y gyfraith. Fodd bynnag, credwn fod angen mynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n bodoli o ran cyfundrefnu. Rydym yn argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi datganiad yn egluro ei gynigion a'i fwriadau o ran cyfundrefnu Cyfraith Cymru.
Gan symud ymlaen i ran 2 y Bil, yn gyffredinol rydym yn fodlon ar y darpariaethau yn rhan 2 y Bil ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, yn amodol ar ein pryderon a fynegir isod. Rydym yn credu bod y Bil wedi ei lunio'n briodol i'w ddiben. Serch hynny, oherwydd y perygl o greu dryswch, credwn y byddai'n fuddiol i werthuso effaith rhan 2 o'r Bil. Dylai'r gwerthusiad hwn fod yn rhan allweddol o'r adolygiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i'w gynnal. Ac, yn olaf, hoffwn gyfeirio'n fyr at ein casgliadau sy'n ymwneud â sut efallai y bydd y Bil yn cynnig cyfle i wneud darpariaeth ynghylch dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Daethom i'r casgliad y dylai llysoedd fod yn gyfrifol am ddehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrthym ei fod yn ffafrio ailddatgan y ddarpariaeth o statws cyfartal yn adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn y Bil hwn, ac ni welwn ni unrhyw reswm inni anghytuno â'r dull hwn. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddarparu rhagor o fanylion ac eglurder ynghylch ei gynnig i ailddatgan y ddarpariaeth honno. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau o ran y gwelliant arfaethedig, ond, o ran y geiriadur termau deddfwriaethol newydd a'r defnydd o'r Gymraeg o fewn hynny, credaf fod hynny'n arloesol; mae'n nodi cynnydd y sefydliad hwn fel deddfwrfa. Ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn ac mae'n garreg filltir bwysig iawn yn y cynnydd hwnnw. Diolch, Llywydd.