Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 2 Ebrill 2019.
Wel, diolch, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y dystiolaeth a'r sesiynau y bu ynddyn nhw a'r atebion manwl a oedd ganddo i'r cwestiynau amrywiol a holwyd yn ystod proses y darn pwysig iawn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n garreg filltir ar y llwybr o ddatblygu llyfr statud i Gymru, o ddatblygu system ddeddfwriaethol i Gymru. Felly, nid yn unig bod angen mawr am y ddeddfwriaeth ond mae croeso mawr iddi hefyd.