9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:43, 2 Ebrill 2019

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil. Rŷn ni wedi gwneud pedwar argymhelliad, a dwi'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y rhain wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen.

Fe drafododd y pwyllgor y Bil hwn nôl ym mis Ionawr, a, bryd hynny, o ystyried, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch Brexit, roedd gennym ni bryderon ynghylch amseriad y Bil, oherwydd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio llawer o’i hadnoddau wrth fynd i’r afael â Brexit. Mae’r pryder hwn yn parhau, wrth gwrs, gan fod y dyddiad cau i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ymestyn. Fodd bynnag, rŷn ni yn cefnogi nod y Bil o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn fwy eglur ac yn fwy hylaw.

Rŷn ni'n deall bod y Bil wedi’i ddatblygu yn sgil nifer o ymchwiliadau, gan gynnwys adroddiad blaenorol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef 'Deddfu yng Nghymru', ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith, sef 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru', a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arddel polisi o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith yng Nghymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu bod adnoddau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu hymrwymo i’r Bil hwn ar adeg pan fydd angen adnoddau sylweddol i ymdrin â goblygiadau Brexit. Wedi dweud hynny, rŷn ni yn cydnabod y bydd gweithredu’r Bil hwn yn fuddiol iawn wrth ystyried unrhyw newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgil Brexit. Awgrymodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith y gellid cynhyrchu buddion gwerth £23.75 miliwn yn flynyddol. Byddai hyn yn deillio o arbedion gwerth dros £23.56 miliwn oherwydd y byddai ymarferwyr cyfreithiol yn gorfod treulio llai o amser yn gwneud gwaith ymchwil, ac mi fyddai arbedion amser gwerth £190,000 yn sgil cynyddu capasiti’r gymdeithas sifil nad yw’n rhan o’r proffesiwn cyfreithiol i gael mynediad at y gyfraith. Eto, er gwaethaf y buddion sylweddol a awgrymwyd, wnaeth Llywodraeth Cymru ddim cadarnhau’r dadansoddiad hwn, ac ni chafodd ei ddefnyddio fel rhan o ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r buddion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Fe wnaethon ni glywed gan y Cwnsler Cyffredinol, er bod yr asesiad effaith gan Gomisiwn y Gyfraith yn cael ei ddefnyddio fel man cychwyn, mai’r prif gymhelliant ar gyfer y Bil hwn yw gwella cyfiawnder cymdeithasol drwy sicrhau y gall y cyhoedd gael mynediad rhwyddach at gyfraith Cymru. Rŷn ni'n derbyn nad arbedion cost yw’r prif reswm dros gyflwyno’r Bil. Fodd bynnag, mae arbedion effeithlonrwydd yn y system gyfreithiol yn cael eu nodi’n benodol fel un o’r buddion ac fel un o’r rhesymau dros gyflwyno’r Bil. Felly, mae'r argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith i ddadansoddi a chostio’r arbedion effeithlonrwydd yn y Bil, a’i bod yn cynnwys y wybodaeth hon mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.

Roedd y pwyllgor yn falch o weld bod y Bil yn cynnwys mecanweithiau adolygu i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau. Rŷn ni wedi argymell y dylid ystyried goblygiadau cyflawni amcanion y Bil o ran adnoddau a chyllid i sicrhau gwerth am arian.

Mae’r costau mwyaf sylweddol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ymwneud â Rhan 1, sy’n gwneud darpariaeth i hyrwyddo hygyrchedd y cyfreithiau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru yn eu gwneud neu’n gallu eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys costau staff parhaus y cwnsleriaid deddfwriaethol a’r gwasanaethau cyfieithu sydd eu hangen i gyflawni’r rhaglen hygyrchedd, sef £588,000 y flwyddyn a bron i £3 miliwn dros bum mlynedd. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar staff polisi eraill a chyfreithwyr yn Llywodraeth Cymru ac efallai y bydd costau i’r sector preifat o ran deall y gyfraith newydd, ac eto nid yw’r costau hyn wedi’u nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y goblygiadau ariannol o ran staff Llywodraeth Cymru a’r costau i gyrff eraill yn y sector preifat yn ei hasesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.

Yn olaf, Llywydd, dim ond £5,000 sydd wedi’i nodi ar gyfer costau pontio i roi arweiniad i weithwyr proffesiynol ar effaith y Bil. Rŷn ni'n pryderu nad oes unrhyw weithgareddau eraill wedi’u nodi ar gyfer codi ymwybyddiaeth, a byddem wedi disgwyl y byddai’n rhaid cynnal rhagor o weithgareddau i ymgysylltu â’r cyhoedd i sicrhau’r buddion y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl. Credwn fod hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo cymorth cyfreithiol yn cael ei dorri ac efallai y bydd rhagor o alw am fynediad at gyfreithiau Cymru gan y cyhoedd. Ein hargymhelliad terfynol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth bellach am y ffordd y mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r Bil, o’i ddeddfu. Diolch.