9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:48, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i staff am y Bil drafft, a hefyd i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn un o'r achlysuron hynny pan fo rhan ohonof yn dal yn dymuno fod gennyf ran o hyd mewn astudiaethau cyfreithiol a bod fy ymennydd yn dal yn ymdroi yn y byd hwnnw, oherwydd, fel pob un ohonom, rwy'n tybio, rwyf eisiau i'r gyfraith fod yn fwy hygyrch, ond pan rwyf yn ystyried beth mewn gwirionedd yw ystyr hynny, nid wyf yn siŵr fy mod i'n gwybod beth mae'n ei olygu. Rwy'n cymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith ei bod hi'n ymddangos bod gwahaniaeth barn rhwng Aelodau eraill o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hyd yn oed y Cwnsler Cyffredinol y tro hwn. Oherwydd byddwn ni'n cefnogi'r hyn a gredwn ni yw egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ar hyn o bryd, rydym ni eisiau rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ystyried sut y gellid newid y Bil drafft yn ystod ei hynt. Efallai bod cyfle yma i grisialu neu grynhoi beth yw eich dehongliad chi, Cwnsler Cyffredinol, o 'hygyrchedd'. Dyma ddiben craidd y statud hon, wedi'r cyfan.

Fodd bynnag, efallai y bydd Aelodau yn gwybod, clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr ac academyddion a gynigiodd, fel y gwnaf fi a'm cyd-Aelodau, y syniad o greu llyfr statud i Gymru sy'n gweithio'n effeithlon—rhyw fath o siop un stop, os mynnwch chi. Ond nid oedd y dystiolaeth honno yn gyson, ac nid wyf yn credu bod yn rhaid inni fynd yn ôl 70 mlynedd, Mick, i sylwi ar y broblem honno. Gadewch i ni gymryd, er enghraifft, y cysyniad o gyfundrefnu yn gartref i'r siop-un-stop hon, ac rwy'n gwahodd Aelodau i ystyried beth y gallai hynny ei olygu. Mae'r memorandwm esboniadol—ac rwy'n credu y cafodd ei atgyfnerthu gennych chi heddiw, Cwnsler Cyffredinol—yn awgrymu bod cyfundrefnu yn broses sy'n dilyn cyfnod o gydgrynhoi deddfau presennol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, sy'n casglu hynny a chyfraith anghyfunol i mewn i fframwaith sy'n gallu ymdopi dros amser â diwygiadau a chyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd newydd, yn ogystal ag arweiniad mewn maes pwnc penodol.

Nid dyna oedd e'n ei olygu i rai o'n tystion. Yn wir, nid oedd yr Athro Thomas Watkin, yr ydym wedi dibynnu ar ei arsylwadau ar sawl achlysur yn y sefydliad hwn, yn siŵr beth oedd pen draw hyn. Roedd un tyst, a oedd yn siarad o safbwynt ymarferydd, yn meddwl amdani fel Deddf god, statud sylfaenol y bydd popeth arall yn llifo ohoni, deddfau presennol yn ffurfio penodau oddi tani, wedi eu cyfyngu drwy ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. Felly, er y bydd camau eraill anneddfwriaethol i helpu ein hetholwyr ganfod a deall cyfreithiau presennol yng Nghymru—cyfeiriwyd at hyn yn rhai o'r argymhellion—rwy'n credu yr hoffwn i weld rhywfaint mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei olygu pan ddywed 'cyfundrefnu', hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yn eglur ynglŷn â'r hyn nad ydyw, oherwydd er y dylai holl ddeddfwyr ymdrechu i wneud eu cyfreithiau yn gyfiawn, y gofyniad cyntaf yw rhoi sicrwydd. Rwy'n tynnu sylw Aelodau yn arbennig at argymhellion 7 ac 11 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i bwysleisio'r pwynt hwnnw.

Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym ni cyn cyfundrefnu mewn maes pwnc penodol, y dylai'r Llywodraeth gydgrynhoi deddfau presennol lle bynnag y bo hynny'n bosib, ac rwyf i ynghyd ag Aelodau eraill, wedi cwestiynnu, i ddweud y gwir, pam ein bod ni wedi colli cyfleoedd i wneud hyn gyda Biliau blaenorol y Cynulliad. Credaf y byddai hynny wedi rhoi cyfle inni brofi dulliau o oresgyn tair her ymarferol sy'n gynhenid i'r broses o gydgrynhoi. Y cyntaf o'r rheini, ac mae'n gyntaf cadarnhaol iawn, yw'r cyfle i ddefnyddio'r broses o ailddatgan y gyfraith i'w hail-greu yn gyfraith ddwyieithog. Pan fo'n ailddatgan gair am air gwirioneddol, fodd bynnag, a ydym ni'n sôn am gyfieithu'r gyfraith bresennol neu wneud cyfraith ddwyieithog newydd? Oherwydd, fel gobeithiaf bydd eraill yn sôn, byddem wedyn yn wynebu mater o ba un o'r Deddfau dehongli a ydym ni wedyn yn ei chymhwyso at hyn—pa un ai Deddf 1978, neu ran dehongli'r Ddeddf hon.

Yn ail, nid yw pob cyfraith bresennol o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei gwneud gan y Senedd hon. Fel rydym ni wedi gweld, mae corff sylweddol o'n deddfwriaeth Brexit eilaidd yn cael ei wneud gan Senedd y DU, ond rydym ni'n fwy cyfarwydd â hyn yn digwydd i ddeddfwriaeth sylfaenol. Os ydym ni am gynhyrchu llyfr statud effeithlon i Gymru, mae angen iddo gynnwys pob cyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru, ni waeth pa senedd sydd wedi gwneud y gyfraith honno. Sut mae cydgrynhoi, sy'n wahanol i ddehongli, yn gweithio pan fo elfen o Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd mewn darn o ddeddfwriaeth bresennol?

Ac yna'n drydydd, mae'r memorandwm esboniadol yn rhagweld bod cydgrynhoi yn mynd ymhell y tu hwnt i dorri a gludo hen gyfraith yn unig, ac yn defnyddio termau mwy modern, yn setlo, efallai, ar ddiffiniadau unigol, a hyd yn oed yn diweddaru'r gyfraith bresennol. Er bod y Bil yn gwneud rhyw gyfeiriad at swyddogaeth y Cynulliad yn craffu ar ddeddfwriaeth eilaidd mewn dyfodol wedi'i gyfundrefnu, rwyf am godi pwynt gyda chi nawr, Cwnsler Cyffredinol, i'w ystyried yn y dyfodol, oherwydd bod hyn yn berthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol, yn ogystal â deddfwriaeth eilaidd. Rwy'n credu os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno ailddatgan cyfraith a wnaed gan y Cynulliad hwn yn enw cydgrynhoi, mae'n rhaid inni graffu'n rhagweithiol ar yr ailddatganiad gyda chyfleuster i ddiwygio drafftiau Llywodraeth Cymru. Os bydd cyfundrefnu'n gofyn am newidiadau i Reolau Sefydlog y Cynulliad hwn, a awgrymwyd mewn tystiolaeth, ni all Llywodraeth Cymru fynnu na rhagdybio'r newidiadau hynny. Os yw Aelod yn cael ei ddewis mewn pleidlais ar gyfer Bil y meinciau cefn sy'n dod o fewn cymhwysedd y sefydliad hwn ni ellir caniatáu i Lywodraeth Cymru warafun ei chefnogaeth dim ond oherwydd nad yw'n cydfynd yn ddestlus â chod.

Felly, yn olaf, Llywydd, os, o ganlyniad bwriadol neu anfwriadol i'r Bil hwn y bydd y Cynulliad yn wynebu unrhyw gyfyngiad ar ei allu i basio unrhyw ddeddf o fewn ei gymhwysedd pwerau neilltuedig, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gefnogi, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd hynny'n digwydd. Diolch