Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 2 Ebrill 2019.
Mae'n bleser i gyfrannu i'r ddadl bwysig yma ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei agoriad i'r ddadl yma? Wrth gwrs, yn naturiol, dŷn ni'n cytuno ac yn croesawu'r bwriad yn fan hyn fel plaid. Achos, beth dŷn ni'n sôn amdano fo? Wel, yn y bôn, dŷn ni'n sefyll mewn Senedd go iawn rŵan, sydd yn mynd i gael ei enwi fel Senedd cyn bo hir. Dŷn ni yn deddfu yn y Gymraeg ac, yn naturiol, dŷn ni hefyd yn codi trethi, felly mae'n amserol iawn ein bod ni'n edrych ar y ffordd dŷn ni, ar ddiwedd y dydd, yn deddfu—y ffordd o ddeddfu. Ac, wrth gwrs, fel eglurwyd eisoes, diben y Bil yma ydy gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio. Wel, mae yna her yn fanna yn y lle cyntaf, achos wrth edrych ar sawl darn o ddeddfwriaeth, mae'n gallu bod yn hynod, hynod gymhleth, wedi'i ailadeiladu ac adeiladu dros y blynyddoedd, wrth gwrs, achos mae gyda ni gyfuniad, fel mae Suzy Davies wedi dweud, o ddeddfwriaeth Lloegr a Chymru, Cymru yn unig, ac wrth gwrs deddfwriaeth Cymru nawr sydd newydd gael ei chreu gennym ni yn fan hyn, a bydd yn parhau i gael ei chreu. Ac, wrth gwrs, mae'r her a'r cyffro, buaswn i'n fodlon dweud, o greu deddfwriaeth yn y Gymraeg, ac, wrth gwrs, yr her gyffrous o fod yn dehongli deddfwriaeth sydd wedi cael ei chreu yn y Gymraeg, achos fel bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, nid cyfieithiad syml ydy un iaith o unrhyw iaith arall. Mae'r mater o ddehongli'r ddeddfwriaeth yn dod mewn i hyn, ac, wrth gwrs, dyn ni'n sôn am gydraddoldeb y ddwy iaith yn fan hyn, sydd yn hynod bwysig. Dwi'n gallu gweld amser bendigedig pan fyddwn ni'n datblygu deddfwriaeth yn y Gymraeg a fydd yn cael ei dehongli efallai mewn ffordd ychydig bach yn wahanol, neu'r potensial i wneud hynny, yn y Saesneg, ac fel dŷn ni wedi clywed eisoes, bydd hi i fyny i'r llysoedd i ddatrys yr her yna. Ond dwi'n falch o gael y cyfle i siarad am ddeddfu yn ein gwlad, er, mae'n gallu bod yn gymhleth, ac, wrth gwrs, dŷn ni'n sôn am godeiddio, trio dod â phopeth yn yr union le.
Dŷn ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Mi fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cofio Hywel Dda, yn naturiol. Y flwyddyn aur oedd 909, pan nid yn unig y cawsom ni gyfreithiau Hywel Dda, ond roedd o hefyd yn eu codeiddio nhw. Felly, dŷn ni wedi llwyddo i arloesi yng Nghymru fach tua 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyn i rywun arall feddwl am godau a chodeiddio, roedd Hywel wedi bod wrthi yn codeiddio draw fanna yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, adennill y tir dŷn ni mewn gwirionedd, ac, wedi dweud hynna, mae angen diffiniad ynglŷn â beth yn union dŷn ni'n ei olygu gan godeiddio, achos, fel dywedodd Suzy a Mick, dŷn ni wedi cael digon o drafodaeth oddi wrth sawl un o'n tystion ni ynglŷn â sut yn union mae codeiddio yn mynd i weithio, beth mae o'n ei olygu, yn yr un ffordd â beth yn union mae hygyrchedd yn ei olygu. Wrth gwrs, dŷn ni eisiau hygyrchedd i'r sawl sy'n ymdrin â'r gyfraith bob dydd o'r wythnos—hynny yw, yn cael eu talu i wneud hynny. Ond dŷn ni hefyd yn sôn yn ehangach yn fan hyn am angen hygyrchedd i'r dyn cyffredin yn y stryd a'r ddynes gyffredin yn y stryd—hygyrchedd i dderbyn a deall beth sydd yn mynd ymlaen, yn y bôn, achos mae hynna hefyd yn her, a ddim yn her sydd wastad yn amlwg i'r sawl sydd felly yn datblygu deddfwriaeth o'n blaenau ni.
Ond gan ei bod hi'n amser diddorol a dŷn ni'n creu ein Deddfau ni ein hunain yn fan hyn nawr, yn ddwyieithog, nawr ydy'r amser, fel dywedodd mwy nag un o'n tystion, i fynd i'r afael â'r heriau yma o hygyrchedd a chodeiddio, achos o hyn ymlaen mae eisiau disgwyl gweld bod pob cyfraith newydd yn cael ei chodeiddio, ac yn dod at ei gilydd, ac yn bod yn hygyrch a naturiol yn y ddwy iaith.
Felly, ie, dŷn ni'n cytuno fel plaid, a hefyd yn naturiol, efo argymhelliad 2, ac yn cytuno efo egwyddor y ddeddfwriaeth yma, a dŷn ni eisiau'i gweld hi'n camu ymlaen, ond hefyd mae eisiau gweld y manylion, ond dyw hynna ddim yn mynd i'n hatal ni rhag cefnogi'r bwriad. Diolch yn fawr.