Y Dreth Trafodiadau Tir

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:02, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr fe edrychaf ar unrhyw bryderon sy'n parhau, ond ers i'r Ffederasiwn Busnesau Bach gyflawni eu hymchwil yn ôl ym mis Awst, buaswn yn gobeithio bod y materion hynny bellach wedi'u datrys yn foddhaol. Ond os oes achosion unigol lle ceir pryder o hyd, rwy'n hapus i ystyried yr achosion hynny.