Mercher, 3 Ebrill 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf, Delyth Jewell.
1. Pa adnoddau ariannol a ddyrannwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb? OAQ53726
2. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r GIG wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb derfynol 2019-20? OAQ53707
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru parthed dad-fuddsoddi o gwmnïau tanwydd ffosil? OAQ53730
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y dreth trafodiadau tir yng Nghymru? OAQ53710
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ53691
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi datblygu economaidd yn y cymoedd? OAQ53732
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran datblygu polisi treth Llywodraeth Cymru? OAQ53728
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl Brexit ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? OAQ53733
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae’r cwestiwn cyntaf i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog, a’r cwestiwn gan Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwaith Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn dod â manteision i Ferthyr Tudful a Rhymni? OAQ53715
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barodrwydd sefydliadau mawr y sector preifat, fel banciau, i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg? OAQ53697
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru? OAQ53727
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ53734
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch rôl rhaglenni cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg o ran cynyddu nifer y siaradwyr...
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau yng Nghymru? OAQ53709
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr ar ffyrdd o hyrwyddo delwedd fyd-eang Cymru fel lle ar gyfer buddsoddiad? OAQ53694
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Llywydd. Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am wasanaeth allgymorth Comisiwn y Cynulliad? OAQ53698
2. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran annog teithio llesol i ac o'r Senedd? OAQ53696
3. Pa gamau y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad llawn i ystâd y Cynulliad? OAQ53721
4. A oes gan y Comisiwn strategaeth ar gyfer dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil fel rhan o gronfeydd pensiwn Cynulliad Cymru? OAQ53711
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Daw'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Lynne Neagle, a bydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Lynne.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru? 298
2. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli? 297
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Mick Antoniw.
Yr eitem nesaf yw cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn caniatáu dadl ar adroddiad y pwyllgor safonau. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Symudwn yn awr at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-19 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019)', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, rwy'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad....
Galwaf y ddadl fer yn enw Caroline Jones.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i nodi cyfraniad y Capten Archibald Dickson i enw da Cymru'n rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r broses o reoli'r ffordd o ddyrannu cyllid Llywodraeth Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia