Datblygu Economaidd yn y Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn sicr yn gofyn i fy nghyd-Aelod sydd yn y sefyllfa orau i roi diweddariad llawnach i chi ar y gwaith y mae'n ei wneud yno. Gwn fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn hynod o uchelgeisiol ar gyfer y Cymoedd Technoleg ac yn mynd ar drywydd nifer o syniadau a allai gyfuno dulliau cyffrous iawn o weithredu technoleg a'r agenda ddigidol o fewn yr ardal honno. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i harneisio potensial digidol i sicrhau bod trafnidiaeth yn dod yn fwy hygyrch i bobl. Fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael ymateb llawnach i hynny.FootnoteLink