Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Ebrill 2019.
Weinidog, mae twristiaeth yn bwysig iawn yng Nghymru ac yn rhan bwysig iawn o'n heconomi. Mae gan lawer o wledydd dreth dwristiaeth, sy'n darparu refeniw i wella cynnyrch twristiaeth ac yn wir yn helpu i hyrwyddo a marchnata twristiaeth yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mae yna bryderon hefyd ynghylch yr argymhellion, ac rwy'n eu deall. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried a gwneud gwaith ar dreth dwristiaeth bosibl yng Nghymru?