Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 3 Ebrill 2019.
Soniais ychydig funudau yn ôl fod adroddiad ar y cyd wedi'i gynhyrchu gan yr arolygiaeth gofal iechyd a'r arolygiaeth ofal. Roedd rhai o'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw'n peri pryder mawr iawn. Canfu'r adroddiad fod gwahaniaeth ac amrywiaeth o ran cysondeb ac argaeledd y gwasanaethau a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru, ac rwyf am ganolbwyntio ar rai o'r materion hynny am ychydig funudau, os caf.
Un o'r problemau a nodwyd oedd bod anhawster yn y system atgyfeirio—ei bod yn bur anghyson, ac nad oedd pawb yn gallu cael gafael ar wasanaethau mewn modd amserol pan oedd angen iddynt allu cael gafael arnynt. Roedd yn amlwg o'r adroddiad nad oedd ymarferwyr cyffredinol bob amser yn glir ynglŷn â sut i gyfeirio'n uniongyrchol at eu timau iechyd meddwl cymunedol ac yn aml iawn roeddent yn atgyfeirio at dimau ysbytai yn lle hynny.
Dywedodd yr adroddiad fod angen un pwynt mynediad, o safbwynt atgyfeirio, fel bod pobl yn gwybod yn union ble i gyfeirio eu cleifion pan oeddent angen gofal a chymorth. Wrth gwrs, mae hyn yn cyd-fynd yn dda iawn gyda rhai o'r canfyddiadau a'r argymhellion a welsom gan bwyllgorau'r Cynulliad a fu'n edrych ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn cofio nad oes cymaint â hynny o amser er pan fuom yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad, adroddiad a oedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gael llwybrau clir a mynediad amserol at gymorth pan fo angen.
Canfu'r adroddiad hefyd fod llawer o bobl yn cael anhawster i gael gafael ar dimau iechyd meddwl cymunedol, yn enwedig yn ystod argyfwng. Er bod rhai rhannau o Gymru lle roedd pobl yn cael cymorth ar unwaith, mewn rhannau eraill o Gymru roedd pobl yn cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau. Wrth gwrs, roedd nifer o bobl yn adrodd eu bod wedi gorfod ymweld ag adran achosion brys sawl gwaith cyn iddynt gael mynediad at y math o gymorth argyfwng yr oeddent ei angen.
Credaf fod dwy ran o bump o'r rhai a holwyd fel rhan o'r gwaith hwnnw wedi dweud, pan wnaethant gysylltu â'u timau iechyd meddwl—eu timau iechyd meddwl cymunedol—yn ystod argyfwng, mai dwy ran o dair yn unig ohonynt a oedd yn cael y cymorth oedd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Dyna pam mai un o'r galwadau a wnaethom yn y ddadl hon yw'r angen i dimau argyfwng fod ar gael 24/7—ddydd a nos—yn ein holl adrannau achosion brys mawr ledled Cymru, fel bod y gefnogaeth yno pan fo'i hangen mewn argyfwng. Mae angen y mynediad unffurf hwnnw a llwybr at gymorth o'r fath mewn argyfwng.
Mae'n anodd iawn deall beth yn union yw lefel y galw am dimau iechyd meddwl cymunedol, oherwydd, wrth gwrs, nid oes unrhyw ddata'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hwy ar hyn o bryd. Yn ffodus, mae Mind Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Rhwng 2014-15 a 2017-18, mae'n honni bod atgyfeiriadau at dimau iechyd meddwl cymunedol wedi cynyddu oddeutu 18 y cant, sy'n golygu bod dros 4,000 o atgyfeiriadau ychwanegol yn mynd i'r timau hynny, gan wneud cyfanswm ar hyn o bryd—neu yn 2017-18—o 26,711 o atgyfeiriadau mewn blwyddyn. Nawr, mae hynny'n llai na nifer wirioneddol yr atgyfeiriadau ledled Cymru, oherwydd, yn anffodus, ni allodd un bwrdd iechyd roi unrhyw wybodaeth am nifer yr atgyfeiriadau a oedd yn mynd i'w timau iechyd meddwl cymunedol, ac yn anffodus, yr unig fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig oedd hwnnw—Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gwyddom fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig oherwydd pryderon ynglŷn â'r modd y mae'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, felly rwy'n meddwl ei fod yn destun pryder arbennig mai dyna'r un bwrdd iechyd nad yw'n ymddangos ei fod yn gallu ymdopi â chyfanswm y nifer o atgyfeiriadau, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i chi wybod beth yw'r atgyfeiriadau i allu cynllunio ar gyfer ateb y galw y mae'r timau hynny'n ei weld, er mwyn i chi allu rheoli gofal pobl—cofiwch fod y rhain yn bobl sy'n agored iawn i niwed—mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Credaf felly fod y diffyg data difrifol yn peri pryder, a dyna un o'r rhesymau pam y byddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, ac mae un ohonynt yn cyfeirio, wrth gwrs, at yr angen i gyhoeddi data yn rheolaidd.
Nawr, rydym yn sôn llawer yn y Siambr hon am yr angen am gydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd corfforol, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn inni gael cydraddoldeb rhwng y ddau wasanaeth, i wneud yn siŵr ein bod yn mesur perfformiad yn erbyn setiau tebyg o dargedau. Ond mae'n amlwg fod gormod o bobl yma yng Nghymru ar hyn o bryd yn aros yn llawer rhy hir i gael mynediad at therapïau siarad. Gwn ei fod yn destun pryder i bobl ym mhob plaid wleidyddol yma, gan gynnwys aelodau o'r Llywodraeth. Ac mae'r amseroedd aros hynny wedi cael sylw yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r arolygiaeth ofal, a gall fod yn unrhyw beth hyd at ddwy flynedd. Nawr, pan gaiff pobl eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal eilaidd i gael cymorth, mae angen y cymorth arnynt mewn modd amserol, ac mae'n amlwg nad yw aros am ddwy flynedd cyn iddynt gael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn ddigon da.
Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru dargedau i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ac yn wir, i dimau iechyd meddwl cymunedol a gwasanaethau eilaidd eu cyrraedd, ond yr hyn sy'n rhyfedd yw, fel arfer, os oes gennych lefel o angen mwy difrifol, byddech yn disgwyl y byddai angen ymyrraeth gynt arnoch, felly dylai'r targed fod yn fyrrach i bob pwrpas. Nid yw hynny'n wir mewn perthynas â'r targedau y mae'r GIG yng Nghymru yn eu gweithredu ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni weithio i fynd i'r afael ag ef.
Er enghraifft, mae targed o 28 diwrnod yn bodoli ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, sydd yno i gefnogi'r rheini sydd ag anghenion iechyd meddwl bach i gymedrol, neu anghenion iechyd mawr parhaus sy'n sefydlog iawn, o'r adeg y dônt i sylw tîm gofal sylfaenol hyd at y dyddiad y cânt eu hasesu. Dyna'r cyfnod targed—rhaid iddynt gael eu hasesu o fewn 28 diwrnod. Ac yna ceir targed arall o 28 diwrnod o ddyddiad yr asesiad hyd nes y byddant yn cael triniaeth. Yn gryno—56 diwrnod yw'r uchafswm y dylai'n rhaid i rywun aros o'r adeg y cânt eu hatgyfeirio hyd at yr adeg y byddant yn cael triniaeth.
Ond ar gyfer gwasanaethau gofal eilaidd, gan gynnwys mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol—ac mae'r rhain yn bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl mwy difrifol a chymhleth—y targed yw 26 wythnos rhwng asesiad a thriniaeth—nid rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ond rhwng asesiad a thriniaeth. Nawr, mae hynny i mi yn awgrymu'n glir fod problem yn y system yn rhywle o ran beth ddylai lefel y flaenoriaeth fod. Nawr, rwy'n sylweddoli bod heriau'n mynd i fod i allu gostwng yr amser targed, ond mae'n achos pryder nad ydym yno ar hyn o bryd.
Ac wrth gwrs, nid yw perfformiad yn erbyn y targedau hyn yn cael ei gyhoeddi fel mater o drefn. Rwy'n cymryd ei fod yn cael ei fesur yn rhywle gan y Llywodraeth, ond nid oes gennym ddata i allu dangos a yw'r GIG yng Nghymru yn cyrraedd y targedau hyn, a chredaf fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Cafwyd ymrwymiad clir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a gyhoeddwyd ar gyfer 2012-16, a ddywedai y byddai gennym set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl erbyn Rhagfyr 2014. Nid ydym wedi'i chael eto, ac yn wir, rwy'n credu ei bod yn cael ei gohirio nes 2022, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon uchelgeisiol. Nid ydym ychwaith wedi gweld adroddiadau blynyddol ers cryn dipyn o amser ynghylch cyflawniad y rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Roedd hwnnw'n ymrwymiad a wnaethpwyd—y byddem yn cael adroddiadau blynyddol—ond nid ydym wedi eu cael.
Felly, yn amlwg, mae angen i bethau newid. Rydym yn mawr obeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig ger ein bron, a byddwn yn derbyn y gwelliannau y cyfeiriais atynt yn gynharach. Diolch i chi.