Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig yn fy enw ar y papur trefn heddiw. Credaf fod rhai o'r dadleuon a gawsom ar faterion iechyd meddwl yma yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi gweld y Cynulliad ar ei orau, yn dod ynghyd er mwyn tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ar y cyd ac yn dwyn pobl at ei gilydd o wahanol dueddiadau gwleidyddol i geisio cytuno ar gonsensws o ran y dull gweithredu y gallwn ei gael ar rai o'r materion hyn. Yn wir, cafwyd llawer o dir cyffredin yn y blynyddoedd diwethaf. Roeddem yn ffodus iawn, wrth gwrs, o gael Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod a'r cyn-Aelod Cynulliad Jonathan Morgan rai blynyddoedd yn ôl, ac a gefnogwyd gan yr holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd ar y pryd. Ac wrth gwrs, rydym wedi cael nifer o ddadleuon ar iechyd meddwl, gan gynnwys y rheini lle cawsom Aelodau'r Cynulliad yn siarad am rai o'u heriau a'u brwydrau eu hunain â phroblemau iechyd meddwl. A chredaf eu bod wedi bod ymhlith rhai o'r dadleuon mwyaf grymus, a dweud y gwir, a brofais i, yn sicr, fel Aelod Cynulliad.
Rydym wedi dod at ein gilydd hefyd, wrth gwrs, i geisio cefnogi nodau ac amcanion yr ymgyrch Amser i Newid, i fynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl. Ac felly, yn yr ysbryd hwnnw y cyflwynwn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rydym yn ddiolchgar iawn i allu cydnabod y cymorth a gawsom gan Mind Cymru a Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, sydd wedi dweud wrthym eu bod yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron yn llwyr.
Nawr, rydym wedi cael dadleuon ar sawl agwedd ar ofal iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd, ond nid wyf yn cofio inni gael dadl benodol yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym am sôn amdano heddiw, sef timau iechyd meddwl cymunedol. Ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar y mater hwn, ac yn amserol iawn ein bod edrych ar y mater hwn, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o broblemau'n codi mewn perthynas â thimau iechyd meddwl cymunedol o ganlyniad i'r cyd-adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Ond roeddwn am fanteisio ar y cyfle i atgoffa pobl o'r hyn y mae timau iechyd meddwl cymunedol yn ei wneud.
Nawr, o'u henw, gallech feddwl eu bod yn rhan o'r system gofal sylfaenol, am eu bod wedi'u lleoli yn y gymuned, ond nid yw hynny'n wir wrth gwrs—maent yn bendant yn rhan o'r dull gofal eilaidd o weithredu gofal iechyd meddwl. Maent yn dimau amlddisgyblaethol sy'n aml iawn yn cynnwys nyrsys seiciatrig, seicolegwyr, therapyddion, cwnselwyr, gweithwyr cymorth a gweithwyr cymdeithasol, ac sy'n dod at ei gilydd er mwyn cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl acíwt ac anodd iawn—problemau iechyd meddwl cymhleth a difrifol.