Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn? Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn a ddywedodd Darren Millar. Credaf ei fod yn bortread meddylgar iawn o'r hyn sy'n broblem gymhleth iawn. Yn benodol, rwy'n credu y gall pawb ohonom gytuno bod rhywbeth mawr o'i le gyda'r targedau amseroedd aros. Pan fydd rhywun yn dioddef salwch meddwl difrifol, mae angen help arnynt yn syth, ac os oes rhywun yn gofyn am help ac nad ydynt yn ei gael ar unwaith, mae gwir berygl y bydd eu cyflwr yn gwaethygu. Os oes ganddynt gydafiachedd gyda chyffuriau ac alcohol, fel sy'n digwydd yn aml, bydd gennych bobl y gallai eu hunanfeddyginiaethu fynd allan o reolaeth—dyna un o'r rhesymau pam y credaf ein bod yn gweld cyfran mor uchel o boblogaeth ein carchardai yn bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd weithiau nid ymdrinnir â'r problemau iechyd meddwl hynny mewn ffordd amserol. Ac rwy'n dweud hynny yn yr ysbryd cydweithredol y cyflwynodd Darren Millar y ddadl hon ynddo. Credaf y byddai pawb ohonom yma yn dyheu am well a rhaid inni ddisgwyl i'r Gweinidog gyflawni hynny.
Nid wyf am ailadrodd y sylwadau a wnaeth Darren. Rwyf am siarad yn fyr, Lywydd, am ein dau welliant a dechrau drwy ddweud na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd credwn fod Darren Millar wedi gwneud achos cryf iawn dros yr angen i gydleoli timau argyfwng brys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn bersonol gwelais sefyllfaoedd sy'n peri gofid mawr, meddygon adrannau damweiniau ac achosion brys yn ceisio ymdrin â phobl ifanc, yn enwedig, gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol iawn. Nid oes ganddynt gapasiti na sgiliau i wneud hynny ac mae angen rhywun i allu dod i mewn ar unwaith, rhywle lle gallant atgyfeirio cleifion ar unwaith. Gallaf feddwl am un achos penodol pan oedd yn rhaid i mi eistedd mewn adran damweiniau ac achosion brys gyda pherson ifanc mewn trallod mawr a oedd yn hunanladdol, ac nid oedd unman i fynd â hi, ar wahân i gell yr heddlu o bosibl ar y cam hwnnw—ac roedd hyn rai blynyddoedd yn ôl, diolch byth. Gallwch ddychmygu pa mor ofnadwy oedd hynny iddi ond hefyd i'r staff meddygol a oedd yn ymdrin â hi. Felly, credwn fod yr achos dros gyd-leoli timau wedi'i wneud.
Os caf droi at ein gwelliannau ni a gwelliant 3, nid oes unrhyw amheuaeth fod newidiadau olynol yn y system nawdd cymdeithasol, a gychwynnwyd, wrth gwrs, gan yr Arglwydd Freud o dan Tony Blair—yr asesiadau o'r gallu i weithio—wedi taro pobl â phroblemau iechyd meddwl yn galed iawn. Mae'n hawdd gweld os oes gan rywun anabledd corfforol, dywedwch, sy'n golygu bod angen iddynt ddefnyddio cadair olwyn. Mae'n llawer anos gweld pa mor wanychol y gall problem iechyd meddwl fod. Rhaid imi ddweud, fel Aelod etholedig yn y lle hwn, nad wyf erioed wedi methu ennill apêl wrth i mi gefnogi person sydd â phroblem iechyd meddwl, yn sgil prawf Atos gwreiddiol—lle cynhelir y profion, wrth gwrs, gan bobl nad ydynt yn gymwys ac nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud yn aml iawn, a bod yn onest—ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn yr ystafell wedi llwyddo i gefnogi apeliadau llwyddiannus. Ond caf fy ngadael gyda'r cwestiwn ynglŷn â phobl nad ydynt yn gwybod, sydd heb rywun gyda hwy a all sicrhau'r math hwnnw o eiriolaeth.
Lluniwyd y profion hyn yn amlwg gan bobl nad ydynt yn deall y profiad o anabledd anweledig; nid ydynt yn deall cyflyrau sy'n gyfnewidiol. Ac mae'r broses o orfodi pobl â phroblem iechyd meddwl barhaus i gael eu hailasesu dro ar ôl tro mewn gwirionedd—a gallaf feddwl eto, ac rwy'n siŵr y gall eraill yn yr ystafell hon—yn gwaethygu'r salwch meddwl. Mae angen inni herio hyn ac un ffordd ymarferol y gallem ei wneud yma yw sicrhau bod cysylltiadau cryf iawn gan dimau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru â chyngor lleol ar fudd-daliadau, fel bod y bobl sy'n gorfod mynd drwy'r asesiadau hynny—cymaint ag y byddem yn dymuno eu gweld yn diflannu—yn cael cymorth proffesiynol priodol. Nid yw bob amser yn bosibl iddynt—