Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 3 Ebrill 2019.
A ydych yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones—y gallai problemau llawer o bobl gydag iechyd meddwl yn hawdd fod yn gysylltiedig â diwygio lles? Ac os ydych yn derbyn hynny, a ydych yn derbyn, pe bai gennym reolaeth dros rai agweddau ar ddiwygio lles yma, y gallem liniaru rhai o'r agweddau gwaethaf hynny arno?